Gwenole

Sant Llydewig oedd Gwenole (Ffrangeg: Guennolé neu Guenolé; Lladin: Winwaloe). Ymddengys iddo fyw tua diwedd y 5g, a dywedir mai ef oedd abad cyntaf Abaty Landevenneg yn Llydaw.
Gwenole yw testun un o'r bucheddau saint cynharaf, gan Wrdisten, abad Landevenneg, yn dyddio o tua 880, y Vita Sancti Winwaloe. Dywedir ei fod yn fab i "Alba Triammis" (Gwen Teirbron) a Fracanus, cefnder Cadwy, brenin Dyfnaint.
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]
- Peter C. Bartrum (1993) A Welsh classical dictionary (Llyfrgell Genedlaethol Cymru) ISBN 0-907158-73-0