P. C. Bartrum
Gwedd
(Ailgyfeiriwyd o Peter C. Bartrum)
| P. C. Bartrum | |
|---|---|
| Ganwyd | Peter Clement Bartrum 4 Rhagfyr 1907 Hampstead |
| Bu farw | 14 Awst 2008 Hemel Hempstead |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | achrestrydd |
Meteorolegydd ac ysgolhaig o Loegr yn arbenigo mewn achau Cymreig oedd Peter Clement Bartrum (4 Rhagfyr 1907 – 14 Awst 2008).
Ganed ef yn Llundain a bu'n gweithio fel meteorolegydd i'r Gwasanaeth Trefedigaethol rhwng 1932 a 1955. Treuliodd ran helaeth o'i oes yn ymchwilio i'r llawysgrifau achyddol Cymreig o'r Canol Oesoedd, gan ddysgu Cymraeg i wneud hynny. Ystyrid ef y prif awdurdod ar y pwnc. Roedd ganddo hefyd ddiddordeb yn y chwedlau cynnar am Arthur.
Cyhoeddiadau
[golygu | golygu cod]- Early Welsh Genealogical Tracts (1966)
- Welsh Genealogies AD 300-1400 (1974)
- Welsh Genealogies AD 1400-1500 (1983)
- A Welsh Classical Dictionary: people in history and legend up to about AD 1000 (1993)