Cracer (bwyd)
| Math | crwst, bisgedi sych, bisged, finger food |
|---|---|
| Deunydd | blawd |
| Gwlad | Unol Daleithiau America |
| Dynodwyr | |

Bisged sych hallt, tenau a chreisionllyd yw cracer. Mae'r syniad yn deillio o waffer ar gyfer morwyr. Caent eu hychwanegu i brydau o fwyd, eu bwyta fel byr-bryd neu i fynd gyda gwirod wedi pryd bwyd.
Cynhwysion
[golygu | golygu cod]Cynhwysion nodweddiadol craceri yw blawd gwenith cyflawn, a all hefyd gynnwys reis, brag haidd, powdr codi (bicarbonad neu furum cemegol), halen. Gellir ychwanegu perlysiau, hadau, neu gaws, i'r toes neu eu taenu ar y top cyn pobi.[1]
Mae'r brand 'Ritz Crackers' o'r Unol Daleithiau, sy'n boblogaidd ym Mhrydain, wedi eu gwahardd mewn rhai gwledydd megis Awstria, Denmarc, Hwngari, Gwlad yr Iâ, Norwy, a'r Swistir gan eu bod yn cynnwys olew hadau cotwm wedi hydrogeneiddio sy'n fath o fraster traws (transfat) a ystyrir yn niweidiol.[2]
Hanes
[golygu | golygu cod]
Yn 1792 gwnaeth Theodore Pearson, o Newburyport, Massachusetts, fara tebyg i gracer gyda dim ond blawd a dŵr, a alwodd yn fara peilot ("pilot bread"). Roedd yn boblogaidd ar unwaith gyda morwyr gan bod i'r bwydach fywyd hir, a daeth hefyd yn adnabyddus fel "hardtack" neu fisged (‘nautical cookie’).[3] Pearson's oedd y becws cyntaf i gynhyrchu cracer yn yr Unol Daleithiau, gan eu cynhyrchu am fwy na chanrif.[4] Gwnaed 'CrownPilot Crackers' gyda'r un rysáit a'u gwerthu yn New England tan ddechrau 2008, gan gael eu defnyddio mewn ryseitiau traddodiadol ar gyfer cawl cregyn bylchog (clam chouder).
Daeth llwyddiant i'r cracer ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach pan ym 1801 cychwynnodd yr Americanwr, Josiah Bent, fusnes becws yn Milton, Massachusetts, gan werthu "bisgedi dŵr" neu gracer i bobl gyffredin ac nid morwyr yn unig. Ei pwynt gwerthu oedd na fyddant yn dirywio yn ystod mordeithiau hir y môr o borthladdoedd Boston.[5]
Yn ddiweddarach, ym 1810, dechreuodd y Nabisco (National Biscuits Company) gynhyrchu cracer ar raddfa fawr. Defnyddiwyd y cracer gwreiddiol hefyd ar gyfer milwyr yn ystod Rhyfel Cartref America.
Gall cracer hefyd gael ei alw'n 'water biscuit' yn Saesneg Prydain.[6]
Geirfa Saesneg
[golygu | golygu cod]Yn Saesneg Unol Daleithiau America defnyddir yr enw "cracker" yn aml iawn ar gyfer bisgedi sawrus gwastad, i'w gwahaniaethu â "cookies", a all fod yn debyg i gracer o ran ymddangosiad a gwead, ond sydd â blas melys. Weithiau mae gan gracer gaws a sbeisys neu hyd yn oed gyw iâr fel cynhwysion.
Gelwir tyllau mewn craceri yn dyllau docio. Mae'r tyllau'n cael eu creu yn y toes gydag offeryn arbennig, y dociwr rholer, i atal ffurfio pocedi aer yn y cracer wrth goginio.[7]
Prydau wedi'u paratoi gyda chraceri
[golygu | golygu cod]Gweinir cracer, yn aml gyda chaws neu olewydd gydag gwirod wedi pryd bwyd.
Mae'r ffug pastai afal, pwdin Americanaidd nodweddiadol, wedi'i wneud o gracer Ritz neu debyg. Mae craceri wystrys nodweddiadol New England fel arfer yn cael eu gweini fel cyfeiliant i gawl wystrys.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Manley, D. (2011). Manley's Technology of Biscuits, Crackers and Cookies. Woodhead Publishing Series in Food Science, Technology and Nutrition. Elsevier Science. ISBN 978-0-85709-364-6. Cyrchwyd October 8, 2017.
- ↑ Here's Why Ritz Crackers Are Banned In Other Countries
- ↑ Gooii. "Hardtack (Ships Biscuits) recipe - Cookit!". cookit.e2bn.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-11-07. Cyrchwyd 2018-11-07.
- ↑ Edmund Lester Pearson, gol. (1940). National Encyclopaedia of American Biography. 28. Efrog Newydd: James T. White and Company. t. 289.
- ↑ "Water biscuit definition and meaning | Collins English Dictionary". www.collinsdictionary.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-11-07.
- ↑ Fabrizio Diolaiuti (2014). Alla scoperta del cibo. Sperling & Kupfer editori. ISBN 88-200-9152-6.