Coluccio Salutati

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Coluccio Salutati
Salutati.jpg
Ganwyd Lino Coluccio Salutati Edit this on Wikidata
16 Chwefror 1331 Edit this on Wikidata
Stignano Edit this on Wikidata
Bu farw 4 Mai 1406 Edit this on Wikidata (75 oed)
Fflorens Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaeth gwleidydd, ysgrifennwr, athronydd Edit this on Wikidata
Mudiad Dyneiddiaeth y Dadeni Edit this on Wikidata

Ysgolhaig a gwleidydd Eidalaidd a dyneiddiwr yng nghyfnod y Dadeni Dysg oedd Coluccio Salutati (16 Chwefror 13314 Mai 1406) a fu'n Ganghellor Gweriniaeth Fflorens o 1375 hyd at ei farwolaeth.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed Coluccio Salutati ar 16 Chwefror 1331 ym mhentref Stignano ger dinas Fflorens yn rhanbarth Toscana. Gweithiodd ei dad, un o garfan y Gelffiaid, yn alltud i'r arweinydd yn Bologna yn sgil un o fuddugoliaethau'r Gibeliaid, ac yno derbyniodd Coluccio rywfaint o addysg yn y gyfraith ym Mhrifysgol Bologna cyn iddo benderfynu nad ganddo'r dymer i fod yn gyfreithiwr.[1] Yn sgil marwolaeth ei dad, bu'n rhaid iddo ddiystyru ei deimladau am fyd y gyfraith ac aeth yn brentis i notari o 1348 i 1350.[2] Wedi cwymp Tŷ Pepoli yn Bologna ym 1350, dychwelodd Coluccio i Stignano.[1]

Gweithiodd Salutati am gyfnod yn notari preifat ar gyrion Fflorens, ac enillodd brofiad o weinyddiaeth ddinesig. Fe'i penodwyd ym 1367 yn Ganghellor Todi, cymuned i ogledd Rhufain, am chwe mis. Wedi hynny, aeth i Rufain a chynorthwyodd un o ysgrifenyddion Llys y Pab, o bosib ei gyfaill Francesco Bruni, o 1368 i 1370. Ym 1370 fe'i penodwyd yn Ganghellor Gweriniaeth Lucca, a bu yn y swydd honno nes 1372.[3]

Symudodd i Fflorens ym 1374 i weithio yng ngweinyddiaeth y weriniaeth, yn oruchwyliwr etholiadol. Ym 1375 dewiswyd Salutati yn arweinydd y signorie (arglwyddi) ac felly yn Ganghellor Fflorens, a bu yn y swydd honno am weddill ei oes, 31 mlynedd. Defnyddiodd Salutati ddylanwad ei swydd i hyrwyddo dyneiddiaeth y Dadeni a rhodd ei nawddogaeth i ysgolheigion ifainc, yn eu plith Leonardo Bruni, Poggio Bracciolini, Pier Paolo Vergerio, ac Antonio Loschi. Manteisiodd ar ei ohebiaeth ddiplomyddol i gysylltu rhwydwaith o wŷr hyddysg ar draws yr Eidal i lythyru ar bynciau'r clasuron. Er na lwyddodd Salutati ei hun i feistroli'r iaith Roeg, fe bwysleisiodd yr angen i ddyneiddwyr astudio llenyddiaeth Hen Roeg yn ogystal â'r awduron Rhufeinig, a gwahoddodd yr ysgolhaig Manuel Chrysoloras i Fflorens ym 1396.[2]

Bu farw Coluccio Salutati yn Fflorens ar 4 Mai 1406 yn 75 oed.[1]

Ei ysgolheictod[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhyw ddeng mlynedd cyn iddo ymsefydlu yn Fflorens, bu Salutati yn llythyru ag edmygwyr yr ysgolhaig a bardd Francesco Petrarca yn y ddinas honno, ac enillodd enw iddo'i hun fel dyneiddiwr a Lladinydd. Ffafriai Salutati arddull Lladin clasuredig yn ei ohebiaeth bersonol a'i weithiau llenyddol, a chadwodd at ffurf ganoloesol yr iaith yn ei ysgrifeniadau swyddogol.[2] Ysgrifennodd draethodau a llythyrau ar bynciau athronyddol a beirniadaeth lenyddol. Casglodd nifer o lawysgrifau Lladin hynafol a chanoloesol, a rhoddai nifer ohonynt i lyfrgell eglwysig San Marco yn Fflorens.[1]

Yn wahanol i nifer o ddyneiddwyr eraill y cyfnod, efelychai Salutati weriniaetholdeb aristocrataidd yn ôl Cicero a gwleidyddion Rhufeinig eraill yn ei lythyrau, gan bortreadu llywodraeth gyfansoddiadol Fflorens yn oleuedig o'i chymharu â Milan a dugiaethau eraill yr Eidal. Bu hefyd yn nodedig am iddo ymwneud â chwestiynau crefyddol, ar batrwm yr hen feirdd Petrarca a Dante Alighieri, tra yr oedd y mwyafrif o'i ddisgyblion yn anwybyddu diwinyddiaeth. Un o'r pynciau llosg a dynnodd ei sylw oedd y berthynas rhwng rhagarfaeth a rhyddid ewyllys. Yn ei waith De laboribus Herculis (1381–91), mae'n dehongli chwedlau hynafol Ercwlff yn ôl symbolaeth Gristnogol. Lleisiodd hefyd ei barch tuag at y Babaeth ym mywyd gwleidyddol yr oes a'r Ymerodraeth Lân Rufeinig.[2] Mae ymwybyddiaeth Gatholig Salutati yn nodi gwahaniaeth rhwng oes foreol y Dadeni yn yr Eidal a dyneiddiaeth y 15g.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) Coluccio Salutati. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 31 Awst 2020.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 Charles G. Nauert, Historical Dictionary of the Renaissance (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2004), tt. 396–8.
  3. Ronald G. Witt, "Coluccio Salutati, Chancellor and Citizen of Lucca (1370–1372)", Traditio, cyfrol 25 (1969), tt. 191–216., doi:10.1017/S0362152900010965.