Manuel Chrysoloras
Manuel Chrysoloras | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 1355 ![]() Caergystennin ![]() |
Bu farw | 15 Medi 1415 ![]() Konstanz ![]() |
Dinasyddiaeth | yr Ymerodraeth Fysantaidd ![]() |
Galwedigaeth | athronydd, cyfieithydd, ysgrifennwr ![]() |
Ysgolhaig Groegaidd a diplomydd o'r Ymerodraeth Fysantaidd oedd Manuel Chrysoloras (tua 1355 – 15 Ebrill 1415) sydd yn nodedig am hybu llenyddiaeth Roeg yng Ngorllewin Ewrop yn ystod y Dadeni Dysg.
Ganed yng Nghaergystennin. i deulu bonheddig. Bu'n gyfaill i'r Ymerawdwr Manuel II Palaeologus, ac ym 1394 cafodd ei anfon ar genhadaeth i'r gorllewin i ymofyn cymorth milwrol ac ariannol yn y frwydr yn erbyn yr Otomaniaid. Yn Fenis, cafodd ei berswadio i ymweld â Fflorens ac yno, ar gais y Canghellor Coluccio Salutati, i addysgu'r iaith Roeg i ysgolheigion ifainc yn y cyfnod 1397–1400. Trwy ei ymdrechion, cyflwynwyd llenyddiaeth Hen Roeg i do newydd o ddyneiddwyr a oedd yn medru'r iaith yn rhugl. Ymhlith ei ysgrifeniadau mae'r ramadeg Roeg Erotemata a Syncrisis, gwaith sydd yn cymharu Rhufain hynafol â Rhufain yr Oesoedd Canol. Cyfieithodd Chrysoloras hefyd weithiau Homeros ac Y Wladwriaeth gan Platon i Ladin.
Dychwelodd Chrysoloras i Gaergystennin tua 1403 ac yno teithiodd nifer o ysgolheigion Eidalaidd i ddysgu oddi arno. Trodd yn Gatholig tua 1405, ac ymgyrchodd dros aduno'r eglwysi Groeg a Lladin. Dychwelodd i'r Eidal o leiaf ddwywaith arall, a rhwng 1407 a 1410 teithiodd ar draws Gogledd Ewrop a darlithiodd ar bwnc llenyddiaeth Roeg ym Mhrifysgol Paris.[1]
Cyd-deithiodd Chrysoloras â dirprwyaeth y pab i Gyngor Konstanz ym 1414, ac yno bu farw ym 1415. Fe'i cleddir yn Eglwys Ddominicaidd Konstanz.[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Cyfieithwyr Groegaidd
- Diplomyddion Groegaidd
- Diplomyddion o'r Ymerodraeth Fysantaidd
- Genedigaethau'r 1350au
- Gramadegwyr Groeg
- Llenorion Groegaidd y 14eg ganrif
- Llenorion Groegaidd y 15fed ganrif
- Llenorion o'r Ymerodraeth Fysantaidd
- Marwolaethau 1415
- Pobl o Gaergystennin
- Ysgolheigion Groegaidd yn yr iaith Roeg
- Ysgolheigion Groegaidd yn yr iaith Ladin