Leonardo Bruni

Oddi ar Wicipedia
Leonardo Bruni
Ganwyd1369, 1370 Edit this on Wikidata
Arezzo Edit this on Wikidata
Bu farw1444 Edit this on Wikidata
Fflorens Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Fflorens Edit this on Wikidata
Galwedigaethathronydd, ysgrifennwr, cyfieithydd, hanesydd, gwleidydd, dyneiddiwr, copïwr Edit this on Wikidata

Dyneiddiwr ac ysgolhaig Eidalaidd yng nghyfnod y Dadeni oedd Leonardo Bruni (tua 13709 Mawrth 1444)[1] a fu'n Ganghellor Gweriniaeth Fflorens o 1427 hyd at ei farwolaeth.

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]

Ganed Leonardo Bruni yn Arezzo, Gweriniaeth Fflorens, tua 1370. Weithiau fe'i adwaenir gan yr enw Leonardo Aretino sydd yn cyfeirio at ei ddinas enedigol. Aeth i Brifysgol Fflorens yn y 1390au i astudio'r gyfraith cyn iddo droi ei sylw at y clasuron dan nawdd y Canghellor Coluccio Salutati, a dylanwadwyd arno yn gryf gan y rhethregwyr hynafol.

Gyrfa eglwysig a gwleidyddol[golygu | golygu cod]

Ym 1405, ar gais ei gyfaill Poggio Bracciolini, penodwyd Leonardo yn ysgrifennydd apostolaidd dan y Pab Innocentius VII (t. 1404–06). Gwasanaethodd yn y swydd honno hefyd dan y pabau Grigor XII (1406–15) ac Alecsander V (1409–10). Hwn oedd cyfnod olaf y Sgism Fawr yn yr Eglwys Gatholig, a ystyrir y ddau bab "Pisaidd", Alecsander V a'i olynydd Ioan XXIII (1410–15), bellach yn wrth-babau.

Ym 1410 etholwyd Leonardo yn Ganghellor Gweriniaeth Fflorens, ond ymddiswyddodd wedi ychydig o fisoedd. Dychwelodd i Lys y Pab yn ysgrifennydd dan Ioan XXIII. Teithiodd Leonardo gyda Ioan XXIII i Gyngor Eglwysig Konstanz, a ddaeth â'r Sgism Fawr i ben drwy ddiorseddu Ioan ac ethol Martin V yn bab. Dychwelodd Leonardo i Fflorens felly, ac yno y bu am weddill ei oes.

Gyda chefnogaeth y teulu Medici, penodwyd Leonardo yn Ganghellor Gweriniaeth Fflorens unwaith eto ym 1427, a gwasanaethodd yn y swydd honno hyd at ei farwolaeth ym 1444. Un o'i ysgrifeniadau gwleidyddol yw De Militia sydd yn dadlau dros godi byddin ddinesig i Fflorens yn hytrach na dibynnu ar hurfilwyr y condottieri.

Ei ysgolheictod[golygu | golygu cod]

Trwy gydol ei 17 mlynedd yn Ganghellor ar Fflorens, cyfrannodd Leonardo yn helaeth at ddiwylliant a dysg yn y ddinas. Cyfieithodd sawl gwaith gan awduron Hen Roeg i'r Lladin, gan gynnwys Aristoteles, Platon, Plutarch, Demosthenes, ac Æschines. Yn ogystal â'u gwerth hanesyddol ac ysgolheigaidd, ystyrir y cyfieithiadau hyn yn esiamplau o Ladiniaeth bur, a nodir Leonardo am ei arddull Ciceronaidd gain.

Campwaith Leonardo ydy Historiarum Florentini populi libri XII, hanes o Fflorens a'i phobl yn yr iaith Ladin mewn 12 llyfr, a ysbrydolwyd gan waith yr hanesydd Rhufeinig Titus Livius. Gweithiodd ar y gwaith hwn o'i ddychweliad i Fflorens ym 1415 hyd at ei farwolaeth, a derbyniodd ganmoliaeth oddi ar ei gyfoedion am y gorchwyl hwn. Rhoddwyd iddo ddinasyddiaeth anrhydeddus a dyfarnwyd efe a'i blant yn rhydd o dreth am y cyfraniad hwn at fywyd diwylliannol Fflorens. Nodir yr hanes am ei ddefnydd o ffynonellau gwreiddiol a dogfennau preifat a chyhoeddus, yn wahanol i groniclau'r Oesoedd Canol a oedd yn dibynnu ar chwedlau ac achlust. Cafodd Leonardo ddylanwad pwysig ar hanesyddiaeth ac athroniaeth ei oes am iddo portreadu'r Oesoedd Tywyll yn sgil cwymp yr Ymerodraeth Rufeinig orllewinol yn gyfnod o anwybodaeth ac ofergoeliaeth a barodd hyd at oes ei hunan, cysyniad a efelychwyd gan hanesydd o ddyneiddiwr arall, Flavio Biondo, a fathai'r enw "Yr Oesoedd Canol" am yr holl filflwyddiant o ddiwedd yr Henfyd hyd at y Dadeni.

Ymhlith ei weithiau gwreiddiol eraill yn Lladin mae Commentarius Rerum Suo Tempore Gestarum, De Romae Origine, a De Bello Italico adversus Gothos, bywgraffiadau o Cicero ac Aristoteles, a'i ddeg cyfrol o lythyrau, Epistolae Familiares. Ysgrifennodd hefyd fywgraffiadau yn yr iaith Eidaleg o'r llenorion Eidalaidd Dante Alighieri, Francesco Petrarca, a Giovanni Boccaccio, a gyfrannodd yn sylweddol at werthfawrogiad llenyddiaeth yn iaith y werin yn y Dadeni Eidalaidd.

Diwedd ei oes[golygu | golygu cod]

Bu farw Leonardo Bruni yn Fflorens ar 9 Mawrth 1444. Gwisgwyd ei gorff yn sidanau tywyll a gosodwyd copi o'i Historiarium Florentinarum ar ei frest. Mynychwyd ei angladd gan lysgenhadon ac aelodau llys y Pab Eugenius IV, a thraethwyd yr araith angladdol gan ei gyfaill Giannozzo Manetti, a roddai coron lawryf am ei ben. Cleddir Leonardo Bruni ym mynwent Basilica di Santa Croce, gyda chofeb gan Bernardo Rossellino.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Leonardo Bruni. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 8 Gorffennaf 2020.