Cofiant a llythyrau: ynghyd a Phregethau y Parch J Foulkes Jones BA, Machynlleth
![]() Wynebddalen y llyfr | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol ![]() |
Awdur | Joseph Owen |
Cyhoeddwr | Evan Jones, Machynlleth |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1884 ![]() |
Genre | cofiant ![]() |
Prif bwnc | John Foulkes Jones ![]() |
Mae Cofiant a llythyrau: ynghyd a Phregethau y Parch J Foulkes Jones BA, Machynlleth, gan Joseph Owen yn gofiant a gyhoeddwyd gan argraffwasg Evan Jones, Heol Maengwyn, Machynlleth ym 1884.[1]
Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae'r gyfrol yn adrodd hanes John Foulkes Jones [2] 6 Mehefin 1826 – 14 Ebrill 1880), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a anwyd ym Machynlleth
Cynnwys[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae'r cofiant yn trafod ei achau a'i disgyniad o rai o Fethodistiaid cynharaf ardal y Bala. Mae sôn am hanes ei fywyd fel myfyriwr yng Ngholeg y Bala a Phrifysgol Caeredin. Mae'r llyfr yn trafod ei waith fel pregethwr yn Nwyrain Sir Drefaldwyn a gorllewin Swydd Amwythig, yn Lerpwl, yng Nghaer ac ym Machynlleth. Ceir hefyd disgrifiad o daith a wnaed ganddo i ymweld â gwledydd y Beibl megis yr Aifft a Gwlad Canan. Mae copi digidol o'r llyfr ar gael i'w darllen yn di dal ar wefan Internet Archive.[3]
Penodau[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae'r gyfrol yn gynnwys y penodau canlynol:
Ran I — Cofiant[golygu | golygu cod y dudalen]
- Hynafiaid
- Tymor Mebyd
- Tymor Ieuenctid
- Tymor Gwaith — Tra yn y Goror
- Tymor Gwaith — Tra yn Lerpwl
- Tymor Gwaith — Taith i'r Aifft a Chanan
- Tymor Gwaith — Machynlleth, Caer, a'r Amwythig Hyd Ei Ymsefydliad Arhosol Ym Machynlleth.
- Tymor Gwaith — Y Dyn, Y Penteulu, a'r Dinesydd
- Tymor Gwaith — Y Gweinidog a'r Pregethwr
- Tymor Gwaith — Y Gweinidog a'r Pregethwr oddi cartref
- Tymor Gwaith — Y Gweinidog yn y pulpud.
- Tymor dioddef — O Ddechreuad ei Afiechyd hyd y gwaith olaf y bu o dan Ddwylaw'r Meddygon yn Edinburgh
- Tymor dioddef — O'r Oruchwyliaeth Feddygol hyd ei bregeth olaf
- Tymor dioddef — O'i Bregeth Olaf hyd ei Gaethiwed i'w Ystafell Gwely
- Tymor dioddef — Hyd y Diwedd
- Tymor Gorffwys
Atodiad — Sylwadau gan amryw frodyr[golygu | golygu cod y dudalen]
- Y Parchedig Josiah Jones, Machynlleth
- Y Parchedig Griffith Parry, Aberystwyth
- Mr David Rowland, Pennal
- Y diweddar Barchedig Griffith Williams, Talsarnau
- Y Parchedig Griffith Ellis, M.A., Bootle
- Y diweddar Mr R. O. Rees, Dolgellau
- Y Parchedig Robert Owen, M.A., Pennal
- Y Parchedig Joseph Thomas, Carno
Rhan Dau — Pregethau[golygu | golygu cod y dudalen]
Deuddeg o bregethau ar wahanol bynciau a phennod am gyfraniad Jones i Gymdeithasfa Fethodistaidd Bangor 1877
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Owen, Joseph (1884). Cofiant a llythyrau: ynghyd a Pregethau. Machynlleth: Evan Jones.
- ↑ "JONES, JOHN FOULKES (1826 - 1880), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-11-27.
- ↑ "Internet Archive: Digital Library of Free & Borrowable Books, Movies, Music & Wayback Machine". archive.org. Cyrchwyd 2019-11-27.