Neidio i'r cynnwys

Cofeb y Cymry yn Fflandrys

Oddi ar Wicipedia
Cofeb y Cymry yn Fflandrys
Enghraifft o'r canlynolcofeb ryfel Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethGwlad Belg Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cofeb ryfel sy'n coffáu'r Cymry a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf yw Cofeb y Cymry yn Fflandrys. Fe'i lleolir yn Langemark, ger Ieper, yn Fflandrys, Gwlad Belg.

Dardorchuddiwyd y cofeb ar 16 Awst 2014 gan Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, er mwyn coffáu canmlwyddiant cychwyn y Rhyfel yn 2017. Saif ar safle Brwydr Cefn Pilkem a ymladdwyd rhwng 31 Gorffennaf a 2 Awst 1917, yn y fan lle lladdwyd Hedd Wyn; claddwyd ei gorff tua milltir a hanner i lawr y briffordd ym Mynwent Artillery Wood.

Y cerflunydd Lee Odishaw a gynlluniodd y gofeb, sydd ar ffurf draig goch yn sefyll ar ben cromlech. Daw'r meini o chwarel Craig yr Hesg ym Mhontypridd.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]


Y Parc Coffa

[golygu | golygu cod]

Man coffa Hedd Wyn

[golygu | golygu cod]
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: