Cofeb y Cymry, Coed Mametz

Oddi ar Wicipedia
Cofeb y Cymry, Coed Mametz
Enghraifft o'r canlynolcofeb ryfel, cerfddelw Edit this on Wikidata
CrëwrDavid Petersen Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1987 Edit this on Wikidata
GenreCofeb cyhoeddus
Map
GwladwriaethFfrainc Edit this on Wikidata
RhanbarthMametz, Carnoy-Mametz Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cofeb i filwyr Cymreig a ymladdod ym Mrwydr Coed Mametz yw Cofeb y Cymry.

Coed Mametz yn cynnwys Cofeb y Cymry

Hanes[golygu | golygu cod]

Cafodd 4,000 o filwyr Adran 38 y Fyddin eu lladd neu eu hanafu dros 6 diwrnod y frwydr yn rhan o frwydr y Somme yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, Gorffennaf 1916.

Crewyd y gofeb draig goch fetel gan David Petersen, yn sefyll ar fryn yn agos i bentref Mametz, yn edrych dros y goedwig lle bu'r milwyr yn ymladd.

Dywedodd John Dixon o Gymdeithas Ffrynt y Gorllewin, sy'n gyfrifol am gadw'r cofeb, "Yn y 26 mlynedd ers i'r Gangen godi'r gofeb, mae wedi dod yn nodwedd adnabyddus sy'n arwyddo maes brwydro'r Somme."

"Yn ystod y blynyddoedd hynny, mae wedi bod yn rhan o lwybr llawer sy'n ymweld â maes y frwydr, a phlant ysgol o Gymru yn eu plith."[1]

Brwydr Coed Mametz, paentiad gan Christopher Williams, 1918

Adnewyddu[golygu | golygu cod]

Cyhoeddodd y Gweinidog Diwylliant Llywodraeth Cymru, rodd ariannol i Gangen De Cymru o Gymdeithas Ffrynt y Gorllewin.

Dywedodd y gweinidog John Griffiths,

"Mae'n anodd dychmygu beth oedd profiadau'r dynion yna, ond rydyn ni'n gwybod gwnaethon nhw ddioddef caledi a dioddefaint mawr. Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n parhau i'w cofio nhw ac anrhydeddu eu haberth."

"Mae'r wythnos hon yn nodi 97 o flynyddoedd ers y frwydr, a ymladdwyd dros 6 diwrnod ym mis Gorffennaf 1916, ac rydw i'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gallu helpu Cangen De Cymru o Gymdeithas Ffrynt y Gorllewin i ailwampio'r gofeb hon."[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "Adnewyddu cofeb i filwyr Cymru yn Ffrainc". BBC Cymru Fyw. 12 Gorffennaf 2013. Cyrchwyd 6 Medi 2023.