Cofeb y Cymry yn Fflandrys
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | cofeb ryfel ![]() |
![]() | |
Gwladwriaeth | Gwlad Belg ![]() |
![]() |
Cofeb ryfel yw Cofeb y Cymry yn Fflandrys a leolir yn Langemark, ger Ieper, yn Fflandrys, Gwlad Belg. Mae'n coffáu'r Cymry a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Fe'i dardorchuddiwyd ar 16 Awst 2014 gan Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, er mwyn coffáu canmlwyddiant cychwyn y Rhyfel yn 2017. Saif ar safle Brwydr Cefn Pilkem a ymladdwyd rhwng 31 Gorffennaf a 2 Awst 1917, yn y fan lle lladwyd Hedd Wyn; claddwyd ei gorff tua milltir a hanner i lawr y briffordd ym Mynwent Artillery Wood.
Y cerflunydd Lee Odishaw a gynlluniodd y gofeb, sydd ar ffurf draig goch yn sefyll ar ben cromlech. Daw'r meini o chwarel Craig yr Hesg ym Mhontypridd.
Oriel luniau[golygu | golygu cod]
Y Parc Coffa[golygu | golygu cod]
Man coffa Hedd Wyn[golygu | golygu cod]
Gweler hefyd[golygu | golygu cod]
- Y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru
- Cofeb Ryfel Genedlaethol Cymru
- Clwyd Menin
- Cofeb Thiepval i Golledigion y Somme