Cocên

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Kokain - Cocaine.svg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynol Cyfansoddyn cemegol, meddyginiaeth, defnydd dan reolaeth, powdwr, tocsidydd atgenhedlu fenywol, tocsidydd datblygol Edit this on Wikidata
Màs 303.147 Uned dalton edit this on wikidata
Fformiwla gemegol C₁₇h₂₁no₄ edit this on wikidata
Clefydau i'w trin Poen, peswch edit this on wikidata
Beichiogrwydd Categori beichiogrwydd unol daleithiau america c edit this on wikidata
Rhan o rhwymiadau cocên, proses metabolig cocên, proses catabolig cocên, proses biosynthetig cocên, adwaith y celloedd i gocên, adwaith i gocên Edit this on Wikidata
Yn cynnwys nitrogen, ocsigen, carbon Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cyffur sy'n cael ei greu gyda dail coca yw cocên. Fel arfer, mae cocên yn dod ar ffurf powdr gwyn. Caiff y rhan fwyaf o gocên ei ddefnyddio fel cyffur anghyfreithlon. Gan fod y cyffur yn gynhyrfwr, mae'n rhoi egni i bobl. Mae hefyd yn gwneud i bobl deimlo'n hapus iawn pan fyddan nhw'n cymryd y cyffur. Pan fydd cocên yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd yma, mae'n gallu achosi pobl i fod yn ddibynnol arno. Fodd bynnag, mae cocên yn gallu cael ei ddefnyddio fel anesthetig lleol os yw'n cael ei osod ar y croen neu'r deintgig.[1]

Cocaine.svg

Tarddiad ac effeithiau[golygu | golygu cod y dudalen]

O le daw cocên[golygu | golygu cod y dudalen]

Dail y planhigyn Coca

Mae cocên yn dod o ddail y planhigyn coca. Mae planhigion coca yn tyfu bennaf yn Ne America, mewn gwledydd fel Brasil a'r Ariannin. Pan ddarganfyddodd fforwyr o Sbaen y planhigyn cocên, fe wnaethon nhw ei anfon yn ôl i Ewrop. Dechreuodd pobl ddefnyddio cocên fel moddion, yn ogystal ag mewn bwydydd a diodydd. Ar y pryd, nid oedden nhw'n gwybod pa mor niweidiol roedd y cyffur yn gallu bod.

Yn yr Unol Daleithiau, roedd cocên yn cael ei ddefnyddio yn ystod llawdriniaethau, neu i drin y ddannodd. Roedd hefyd yn cael ei ddefnyddio mewn diodydd. Pan gafodd Coca-Cola ei gynhyrchu am y tro cyntaf yn 1885, roedd rhan cyntaf yr enw yn deillio o'r ffaith bod "llond llaw o ddail coca" yn cael ei ychwanegu at y diod er mwyn rhoi egni i bobl. (Roedd y caffein yn y diod yn dod o'r gneuen cola, felly dewiswyd yr enw "Coca Cola".) Cafodd y cynhwysyn cocên ei dynnu allan yn gyfan gwbl o'r ddiod erbyn yr 1920au yn sgil pwysau gan grwpiau ymgyrchu yn yr Unol Daleithiau.

Effeithiau cocên[golygu | golygu cod y dudalen]

Pan fydd cocên yn cael ei roi ar y croen neu'r deintgig, mae'n achosi dideimlad.

Pan fydd cocên yn cael ei gnoi neu ei fwyta, ei sugno drwy'r trwyn ("snortio"), neu ei chwistrellu mewn i wythïen, mae'n achosi pobl i deimlo'n ewfforig, yn effro, ac yn llawn egni. Yr enw am hyn yw "brwysgedd" ("high"). Mae rhai pobl sy'n cymryd y cyffur hefyd yn gallu cael teimladau amhleserus. Gallan nhw gael teimladau gan gynnwys pryder, gorbryder, neu hyd yn oed paranoia. Gallan nhw hefyd gael symptomau corfforol, er enghraifft crynnu, curiad calon cyflym, a thymheredd corff uchel.

Nid oes modd ysmygu cocên yn ei ffurf arferol. Mae'n rhaid iddo adweithio gyda chemegyn arall er mwyn ffurfio crac cocên, sy'n bosib ei ysmygu. Y rheswm dros hyn yw bod cocên ar ei ffurf arferol yn cael ei ddinistrio pan fydd yn cael ei losgi, felly nid yw'r defnyddiwr yn cael yr effaith maen nhw'n gobeithio ei chael.

Cocên fel cyffur cyfreithiol[golygu | golygu cod y dudalen]

Powdr cocên hydroclorid

Yn y rhan fwyaf o wledydd, mae'n anghyfreithlon cynhyrchu, gwerthu a defnyddio cocên (oni bai ei fod yn cael ei ddefnyddio am resymau meddygol sydd wedi'u cymeradwyo).

Fel cyffur anghyfreithlon, mae'n bosibl defnyddio cocên ar ffurf powdr, neu mae modd ei addasu i greu crac cocên. Fel arfer caiff crac ei wneud drwy ychwanegu soda pobi a dŵr at gocên ac yna cynhesu'r gymysgedd. Mae crac fel arfer yn rhatach na chocên ar ei ffurf arferol. Fel arfer, caiff crac ei smocio. Mae'n rhoi teimlad o frwysgedd cryf iawn i ddefnyddwyr, ond nid yw'r teimlad yn para mor hir â'r brwysgedd o gocên arferol. Mae'r ddau fath o gocên yn achosi dibyniaeth, ond credir bod crac cocên yn waeth gan ei fod fel arfer yn cael ei smocio.

Peryglon defnyddio cocên[golygu | golygu cod y dudalen]

Pan fydd pobl yn defnyddio cocên, mae'n bosibl iddyn gymryd gormod o'r cyffur a mynd yn sâl neu hyd yn oed marw. Gelwir hyn yn "orddos". Pan fydd rhywun yn defnyddio cocên am amser hir gallan nhw ddechrau cael teimladau rhyfedd, er enhgraifft teimlo fel bod chwilod o dan eu croen, neu deimlo paranoia (sef teimlo fel bod rhywun am eu brifo).

Mae cocên yn gyffur sy'n achosi dibyniaeth a gall arwain at ddibyniaeth seicolegol a/neu gorfforol. Pan fydd rhywun yn ddibynnol ar gyffuriau gallan nhw wneud pethau gwael neu anghyfreithlon er mwyn cael arian i brynu mwy o gyffuriau.

Y farchnad anghyfreithlon[golygu | golygu cod y dudalen]

Daw'r mwyafrif o'r cocên sydd ar y fasnach ddu o Ganolbarth a De America. Câi hadau Erythroxylaceae, o blanhigion sydd o leiaf teirblwydd oed, eu plannu a'u cynaefu teirgwaith y flwyddyn. Sychir y dail am ryw 24 awr, cyn eu cymysgu â photasiwm carbonad a cherosin i wneud cocên carbonad. Câi'r sylwedd hwn ei hidlo, ac ychwanegir asid sylffyrig i wneud y past a elwir cocên sylffad. Sychir hyn, ac ychwanegir aseton, asid hydroclorig, ac alcohol pur. Câi'r cymysgedd ei hidlo a'i sychu tro ar ôl tro, i gynhyrchu cocên hydroclorid. Gwneir tua 0.5 kg o gocên pur o bob 300 kg o ddail.[2]

Y cartelau a'r syndicetiau cyfundrefnol sy'n cyfanwerthu cocên. Trosglwyddir y cynnyrch o amgylch y byd gan "fulod cyffuriau", sydd yn llyncu 30–120 o gapsiwlau o gocên. Mae rhai o'r cartelau mor gyfoethog fel bod modd iddynt cludo cocên ar draws ffiniau mewn lorïau, awyrennau, ac hyd yn oed llongau tanfor. Dosbarthir y cynnyrch i'r farchnad trwy sawl llwybr. Gall grŵp troseddol cyfundrefnol gyflogi "sylfaen" o bedwar neu bump unigolyn i gyflenwi'r cyffur i werthwyr ar y strydoedd. Gall ffynhonnell y cocên hefyd cael cyswllt uniongyrchol â'r adwerthwr neu'r deliwr stryd. Prynir cocên gan bobl dosbarth canol a dosbarth uchaf, gan amlaf, trwy werthwr "bwrdeisaidd", sydd yn rheoli criw o fân-werthwyr, pob un ohonynt â chylch ei hunan o gwsmeriaid rheolaidd. Fel rheol mae gan y gwerthwr bwrdeisaidd gyfrif cadw, ac yn derbyn ei dâl o'i feistri ar sail y nifer o werthiannau.[2]

Nodiadau a chyferinodau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Macmillan Dictionary for Students Macmillan, Pan Ltd. (1981), tudalen 192. Cyrchwyd 2010-7-21.
  2. 2.0 2.1 Roberto Saviano. Zero Zero Zero (Penguin, 2015).