Paraffîn

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Cerosin)

Cymysgedd o hydrogarbonau a geir trwy ddistyllu olew crai yw paraffîn (enw amgen: cerosîn). Mae'n berwi ar dymheredd o rwng 150-300 gradd selsiws ac mae ganddo dwysedd cymharol o 0.78-0.83, yn dibynnu ar ei buredd. Defnyddir paraffîn fel tanwydd ar gyfer y cartref ac mewn rhai peiriannau.

Gwêr baraffîn[golygu | golygu cod]

Gwêr a geir wrth ddistyllu olew crai yw gwêr baraffîn. Mae'n cael ei defnyddio ar raddau eang i wneud papurau arbennig (waxed papers), canhwyllau a pholis.

Eginyn erthygl sydd uchod am gemeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.