Slang

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolCywair Edit this on Wikidata
Mathsociolect, vocabulary, colloquial language Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Mae mŵg drwg (canabis) yn air slang Cymraeg

Mae slang yn cyfeirio at y cofrestrau iaith hynny sydd naill ai wedi'u cadw ar gyfer grŵp cymdeithasol neu'n cael eu hystyried yn fratiaith, h.y. iaith is-safonol. Caiff y gair ei gyfieithu yng Geiriadur yr Academi fel "bratiaith, iaith sathredig". [1] Mae Geiriadur Prifysgol Cymru yn diffinio'r gair fel geirf, ymadroddion &c nad ydynt yn rhan o ffurf safonol iaith nac yn addas i sefylllfaoedd ffurfiol ac sydd yn aml yn gyfyngiedig i grwpiau o bobl, iaith sathredig". Ceir y cofnod ysgrifenedig cynharaf o'r gair "slang" yn y Gymraeg o 1923.[2] Gellir defnyddio geiriau ac ymadroddion slang ond bod y llefarydd yn siarad iaith ramadegol gywir.

Etymoleg[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r gair "slang" yn air benthyg o'r Saesneg. Mae wedi newid ystyr pan gafodd ei fenthyg: yn Saesneg mae iddo ystyr ehangach (er enghraifft, gall hefyd nodi rhai mathau o jargon). Ni wyddys tarddiad eithaf y gair; mae'r ffynhonnell hynaf yn dyddio o ganol y 18g. Credir i'r gair ddod o Sgandinafia i'r Saesneg, ond hapsyniad yw hynny.

Diffiniadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Gruff Rhys o'r grŵp, Ffa Coffi Pawb (1989), mae "ffa coffi" yn chwarae ar eiriau neu'n slang am y geiriau rheg Saesneg "f*ck off i..."

Mae slang yn cyfuno pedair prif nodwedd Amrywio Ieithyddol sef: amrywio daearyddol; cymdeithasol arddulliadol; cywair.[3]

Dim Diffiniad Clir[golygu | golygu cod y dudalen]

Nid oes gan ieithyddion unrhyw ddiffiniad syml a chlir o slang, ond maent yn cytuno ei fod yn ffenomen ieithyddol sy'n newid yn gyson ym mhob isddiwylliant ledled y byd. Dadleua rhai fod bratiaith yn bodoli oherwydd mae'n rhaid i ni feddwl am ffyrdd i ddiffinio profiadau newydd sydd wedi dod i'r wyneb ag amser a moderniaeth.[4] Gan geisio unioni'r diffyg diffiniad clir, fodd bynnag, mae Bethany K. Dumas a Jonathan Lighter yn dadlau y dylid ystyried mynegiad yn "wir slang" os yw'n cwrdd ag o leiaf dau o'r meini prawf canlynol:[4]

  • Mae'n gostwng, os dros dro, "urddas lleferydd neu ysgrifennu ffurfiol neu ddifrifol"; mewn geiriau eraill, mae'n debygol o gael ei ystyried yn y cyd-destunau hynny fel "camddefnydd amlwg o gofrestr".
  • Mae ei ddefnydd yn awgrymu bod y defnyddiwr yn gyfarwydd â beth bynnag y cyfeirir ato, neu gyda grŵp o bobl sy'n gyfarwydd ag ef ac yn defnyddio'r term.
  • "Mae'n derm tabŵ mewn disgwrs cyffredin gyda phobl o statws cymdeithasol uwch neu fwy o gyfrifoldeb."
  • Mae'n disodli "cyfystyr confensiynol adnabyddus." Gwneir hyn yn bennaf er mwyn osgoi anghysur a achosir gan y cyfystyr confensiynol neu'r anghysur neu'r annifyrrwch a achosir gan orfod ymhelaethu ymhellach.

Mae Michael Adams yn nodi bod “[Slang] yn iaith gyfyngol ... yn aml mae'n amhosibl dweud, hyd yn oed yn ei gyd-destun, pa ddiddordebau a chymhellion y mae'n eu gwasanaethu ... mae bratiaith ar yr ymyl."[5] Geiriaduron bratiaith, gan gasglu miloedd o cofnodion slang, cynigwch ffenestr eang, empirig i'r grymoedd ysgogol y tu ôl i slang.[6]

Diffiniad Mistrik[golygu | golygu cod y dudalen]

Diffiniodd yr ieithydd Slofac, Jozef Mistrík, slang fel mynegiadau anlenyddol o'r iaith genedlaethol, a ddefnyddir mewn amgylchedd preifat neu anffurfiol mewn cylch cyfyngedig o bobl sydd naill ai'n ymwneud â'r un gweithgaredd neu sydd â'r un cylch diddordebau. Maent yn codi:[7][8]

a) ail-ddehongli geiriau adnabyddus
b) dadffurfiad geiriau
c) fel geiriau newydd gyda mynegiant gormodol
ch) trwy fenthyg o ieithoedd cysylltiedig

Yn ôl B. Hochel, mae'r rhain yn adnoddau ieithyddol anlenyddol o wahanol darddiadau (tiriogaethol-tafodieithol, argotig, jargon, cymdeithasol-ddarlithyddol), a ddefnyddir yn gyffredinol neu a ddeellir yn gyffredinol yn y grŵp cenedlaethol, ac sydd wedi colli eu llwyr neu i raddau helaeth symptom tarddiad.

Slang yw un o'r prif ffynonellau o gyfoethogi geirfa iaith lenyddol. Mae llawer o eiriau newydd (waeth beth yw eu tarddiad) yn mynd trwy "lwyfan slang" cyn mynd i mewn i'r iaith lenyddol. Weithiau mae tafodieithoedd proffesiynol (eithriadol o ddiddordeb hefyd) yn cyfoethogi'r iaith ysgrifenedig yn uniongyrchol (terminoleg).

Canllawiau eraill i ddiffinio Slang[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Gall rhywun feddwl am gymdeithas benodol, sydd wedyn yn perthyn i ddosbarth poblogaeth â gwerth is. Mae'r math hwn o iaith grŵp yn cael ei ystyried yn llai derbyniol yn gymdeithasol.
  • Mae'r term yn cyfeirio at ddefnyddio geiriau nad ydynt yn niwtral yn eu hymosodiad (gwerth emosiynol), ond sy'n golofnogol ac felly dim ond mewn grwpiau penodol ac mewn rhai cyd-destunau cymdeithasol achlysurol iawn y gellir eu defnyddio. Mewn rhai achosion, nid yw geiriau o'r fath hyd yn oed yn ddealladwy i bobl o'r tu allan, ond nid yw hynny'n amod angenrheidiol. Nid yw bratiaith yn cyfateb i iaith gyfrinachol, na gwniau bar.

Slang a'r Gymraeg[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae lysh yn air slang Cymraeg am gwrw. Bethir a mabwysiedir nifer o eiriau slang gan bobl ifainc (Babell Gwrw Eisteddfod Caerdydd 2018)

Gellir ystyried mewn rhai achosion a peuoedd ieithyddol a chymdeithasol, bod y (gor)defnydd o eiriau Saesneg yn y Gymraeg yn ffurf ar slang ynddo'i hun gan bod bwriad trosglwyddo neges neu 'dorri rheol' wrth ddefnyddio gair Saesneg lle bod gair cyfatebol Cymraeg eisoes ar gael. Mae defnydd o'r gair Saesneg yn y cyd-destun honno yn gallu awgrymu bod y siaradwr am dorri ar draws norm 'dderbynionl' defnydd iaith (Gymraeg). Mae defnydd cyson o eiriau, idiomau a brawddegau Saesneg (neu geiriau iaith fwyafrifol mewn cyd-destun ddwyieithog) hefyd yn gallu bod yn arwydd o ddirywiad iaith gan yr iaith leiafrifol.

Enghreifftiau o Slang Cymraeg[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir enghreifftiau o eiriau Cymraeg nad sy'n safonnola na fyddai'n cael eu defnyddio mewn cyd-destun ffurfiol e.e. darllen newyddion neu werslyfr. Mae'n anodd diffinio pryd fod gair yn gair rheg neu'n sarhâd e.e. mewn erthygl yn Saesneg gan y BBC, nodwyd bod cwdyn a rhai geiriau eraill a nodir isod yn "slang" ond ai dyna'r achos?[9] Ceir enghreifftiau o slang Cymraeg yn nofelau Llwyd Owen a Dewi Prysor.

  • mŵg drwg - cannabis
  • reu - canabis
  • cwdyn neu cwd - cyfeiriad ar organ rhywiol dyn ond hefyd sarhâd ar ddyn arall
  • M.O.M.G.Ff.G. - talfyriad ar gyfer Mas o 'Ma Go Ff** Gloi, ceir mewn cân o'r un teitl gan Dewi 'Pws' Morris a'r grwp Tebot Piws[10][11]
  • hemo, wado, clatsho, stîdo, leino - gwahanol eiriau slang am ymladd neu rhoi cweir i berson
  • hambon a josgin - geiriau De a Gogledd ar gyfer ffermwyr neu aelodau o'r gymuned ffermio [12]
  • llyffanta - peidio gwisgo dillad addas mewn tywydd oer[13]
  • lysh, lysho - cwrw neu ddiod alcoholig ac yfed cwrw, fel arfer er mwyn meddwi
  • criw Duw - gair slang, lle gwatwarus am Cristnogion Efengylaidd[14]
  • ffa coffi - slang neu chwarae ar eiriau sydd o'u dweud yn sydyn yn swnio i'r glust fel "f*ck off i ..."

Slag Cymreig[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir geiriau slang Cymreig hynny yw, Saesneg Cymru, er anodd yw deall lle mae'r ffin rhwng dywediad a thafodiaith a "slang". Rhestrwyd rhai o'r geiriau slang honedig yma mewn erthygl yn y Western Mail yn 2021. Yn eu plith roedd [15][16]

  • tamping - blin iawn
  • chopsy - siaradus iawn
  • poody - o'r Gymraeg, pwdu
  • hanging - edrych a gwisgo'n flêr
  • tidy - da, gwych, bendigedig
  • 'Dons - talfyriad am fwyty byrbryd, McDonalds yn ardal Llandeilo yn honedig.
  • twp - cynigir "twp" fel gair slang Saesneg ardal Abertawe [17]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. https://geiriaduracademi.org/?slang
  2. https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?slang
  3. https://adnoddau.s3.eu-west-2.amazonaws.com/pdfs/Cyflwyniad_i_ieithyddiaeth.pdf
  4. 4.0 4.1 Dumas, Bethany K.; Lighter, Jonathan (1978). "Is Slang a Word for Linguists?". American Speech 53 (5): 14–15. doi:10.2307/455336. JSTOR 455336.
  5. Adams, Michael (2009). Slang: The People's Poetry.
  6. Partridge, Eric (2002). A dictionary of slang and unconventional English (Slang itself being slang for Short Language) : colloquialisms and catch phrases, fossilized jokes and puns, general nicknames, vulgarisms and such Americanisms as have been naturalized (arg. 8th). London: Routledge. ISBN 978-0-415-29189-7.
  7. https://www.worldcat.org/title/encyklopedia-jazykovedy/oclc/29200758
  8. Mistrík, Jozef (1993). Encyklopédia jazykovedy (yn Slofaceg) (arg. 1). Bratislava: Obzor. t. 385. ISBN 8021502509. OCLC 29200758.
  9. https://www.bbc.co.uk/programmes/articles/32LYRFTf8hSR9xknCxYXl7T/seven-welsh-words-that-are-well-worth-knowing
  10. https://www.youtube.com/watch?v=oWfDlL98AeM
  11. https://www.carwpiws.cymru/products/bathodyn-momffg
  12. https://cardiffstudentmedia.co.uk/quench/cymraeg/a-y-o-slang-cymraeg/
  13. https://cardiffstudentmedia.co.uk/quench/cymraeg/a-y-o-slang-cymraeg/
  14. https://maes-e.com/viewtopic.php?t=5858
  15. https://www.walesonline.co.uk/lifestyle/fun-stuff/13-slang-words-phrases-you-21421863
  16. https://grammar.yourdictionary.com/slang/29-welsh-slang-terms-too-tidy-not-know
  17. https://www.swansea-union.co.uk/news/article/susu/Swansea-Slang/