Neidio i'r cynnwys

Bratiaith

Oddi ar Wicipedia

Gair difrïol am iaith ansafonol (yn y Gymraeg gan fwyaf) yw bratiaith. Diffiniad Geiriadur Prifysgol Cymru yw iaith lwgr ddirywiedig.[1] Yn Gymraeg mae'n aml yn gyfystyr â Chymraeg sy'n cynnwys benthyciadau helaeth o'r Saesneg a chystrawen Seisnigaidd, neu Wenglish. Mae'n wahanol i dafodiaith, sy'n amrywiad iaith daearegol nad yw'n cael ei ystyried yn wallus.

Gall y term 'bratiaith' gael ei ddefnyddio fel cyfieithiad cyffredinol o 'slang' hefyd. Am drafodaeth ar y pwnc ehangach hwn, gweler slang.

Yn y Gymraeg

[golygu | golygu cod]

Yn wahanol i'r term slang sy'n weddol niwtral, neu tafodiaith sydd i'w thrysori, mae bratiaith bron bob amser yn derm beirniadol neu ddifrïol hyd yn oed, gan ddynodi iaith nad sy'n cael ei hystyried o safon 'dda'.

Beirniadaeth a dadleuon

[golygu | golygu cod]

Mae sawl un wedi beirniadu'r defnydd difrïol o'r term bratiaith, gan honni fod beirniadu safon iaith yn lladd diddordeb pobl mewn dysgu neu siarad Cymraeg.[2][3][4] Yn 2025 dywedodd yr awdur a'r ysgolhaig Peredur Glyn:

Mae [bratiaith yn] air, wrth gwrs, sydd yn feirniadol ac mae o'n awgrymu rhywbeth fel bod yr iaith yn rhacs, bod yr iaith yn sgrapi, bod hi ddim yn ddigon da. [...]

Mae unrhyw iaith sydd yn ddealladwy yn iaith iawn [...] Os ydych chi'n gallu gwneud synnwyr yna 'da chi'n siarad iaith oce.

"Dwi'n meddwl bod yna ddigon o le i fratiaith - os 'da chi eisiau ei galw'n hynny - iaith anffurfiol. Dyna beth 'da ni'n defnyddio er mwyn cyfathrebu a dangos pwy ydan ni.[5]

Mae'r ymadrodd poblogaidd 'Gwell Cymraeg slac na Saesneg slic' yn mynegi'r farn hon.[6]

Ar y llaw arall, mae eraill yn dadlau fod cymeradwyo bratiaith yn golygu caniatáu i eiriau ac ymadroddion Saesneg ddisodli iaith naturiol Gymraeg. Byddai yn parhau i wanhau statws yr iaith a'i gwneud hi'n anoddach i bobl gyfathrebu yn llenyddol ac mewn sefyllfaoedd safonol.[7][8]

Barn arall wedyn fyddai ystyried bratiaith yn fath o newid cod sy'n gwbl naturiol i siaradwyr dwyieithog. Yn ôl y ddadl hon mae'n un o nifer o fathau o Gymraeg sydd ar gael i siaradwyr ei defnyddio mewn gwahanol gyd-destunau - er mwyn hiwmor, er mwyn bod yn anffurfiol, neu wrth sôn am bynciau sy'n fwy naturiol eu trafod gyda defnydd helaeth o Saesneg er enghraifft.[5][9]

Mewn ieithoedd eraill

[golygu | golygu cod]

Saesneg

[golygu | golygu cod]

Mae'r defnydd cyntaf o 'bratiaith' a gofnodir gan Eiriadur Prifysgol Cymru yn cyfeirio at Saesneg dirywiedig ym 1915, nid Cymraeg:

Mawr ddiolch i’r pregethwr hefyd am siarad … [C]ymraeg pwyllog ac urddasol, yn lle’r fratiaith gywilyddus sydd yn gyfrifol am un ran o dair o’r Saesneg a siaredir yng Nghymru heddiw.[1]

Gellid ystyried gwallau Saesneg cyffredin (nad ydynt yn rhan o dafodiaith) yn gyfystyr â bratiaith, megis could of yn lle could have ("I could of been there") neu defnydd anghyrwir o me yn lle I ("Joe and me went to the beach").[10] Dros amser gall 'gwallau' iath fel hyn droi'n safonol, os ydynt yn cael eu mabwysiadu gan ddigon o siaradwyr brodorol. Digwyddodd hyn yn Saesneg gyda'r camddefnydd o literally ("yn llythrennol") a ddaeth i ddynodi defnydd trosiadol yn ogystal: "I was so happy I literally died". Erbyn hyn mae'r ddau ystyr yn safonol ym mhrif eiriaduron yr iaith.[11]

Tuedd o'r 20fed ganrif ymlaen yw poeni am 'Americaneiddio' iaith Saesneg yn y Deyrnas Unedig. Mae nifer o sylwebwyr yn gweld mabwysiadu ymadroddion o UDA yn gyfystyr â 'dirywio' neu 'lygru' Saesneg Prydain[12] - sy'n debyg i'r ffordd y defnyddir 'bratiaith' yn feirniadol am Gymraeg sy'n cynnwys llawer o Saesneg neu Wenglish.

Ffrangeg

[golygu | golygu cod]

Ers canol yr 20fed ganrif mae poeni a thrafod cynyddol yn Ffrainc a thaleithiau Canada Ffrangeg eu hiaith am eiriau Saesneg yn disodli a 'llygru' yr iaith Ffrangeg.[13][14][15]

Gwyddeleg

[golygu | golygu cod]

Mae'r ymadrodd 'Gwell Cymraeg slac na Saesneg slic' a nodwyd uchod yn gyfieithiad o ymadrodd Gwyddeleg sy'n dangos fod yr un pryderon am 'fratiaith' ymysg amddiffynwyr yr iaith honno hefyd: Níos fearr Gaeilge briste nó Bearla cliste – gwell Gwyddeleg wedi torri na Saesneg clyfar/celfydd.[9]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1 2 "Geiriadur Prifysgol Cymru". geiriadur.ac.uk. Cyrchwyd 2026-07-21.
  2. "LinguaCelta". linguacelta.com. Cyrchwyd 2026-07-21.
  3. Price, Stephen (2026-03-08). "We're teaching Cymraeg wrong: Is 'bratiaith' the answer?". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-07-21.
  4. "Y Doctor Cymraeg: Rhaid derbyn bratiaith i gael mwy o siaradwyr". BBC Cymru Fyw. 2026-03-01. Cyrchwyd 2026-07-21.
  5. 1 2 "'Pwysicach cael pobl ifanc i siarad Cymraeg na gramadeg cywir'". BBC Cymru Fyw. 2026-03-08. Cyrchwyd 2026-07-21.
  6. "Dala'r slac yn dynn". pedwargwynt.cymru. Cyrchwyd 2026-07-21.
  7. "'O bydded i'r heniaith…'". Barn (yn Saesneg). 2023-09-01. Cyrchwyd 2026-07-21.
  8. Y, H. (2009-10-01). "Pethau Poveyaidd". Barn (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-07-21.
  9. 1 2 "Sticio neu switsio?". pedwargwynt.cymru. Cyrchwyd 2026-07-21.
  10. Jones, Laura (2019-10-10). "9 mistakes native English speakers make". Lingoda (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-07-21.
  11. "Did we change the definition of 'literally'?". www.merriam-webster.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-07-21.
  12. "Minding our language on the use of Americanisms". The Guardian (yn Saesneg). 2025-06-09. ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2026-07-21.
  13. AFP (2022-02-16). "Académie Française denounces rise of English words in public life". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2026-07-21.
  14. "Franglais row: Is the English language conquering France?". BBC News (yn Saesneg). 2013-05-22. Cyrchwyd 2026-07-21.
  15. "Why fighting 'franglais' is not just a war of words". RFI (yn Saesneg). 2019-12-13. Cyrchwyd 2026-07-21.