Newid cod

Oddi ar Wicipedia

Mewn ieithyddiaeth mae Newid cod (hefyd: 'gymysgu cod' a 'chymysgu iaith') yn digwydd pan mae person yn defnyddio dwy (neu ragor) o ieithoedd neu ffyrdd o siarad gyda'i gilydd yn yr un sgwrs. (Gweler heyfd: Diglosia - sef newid o'r naill iaith i'r llall yn ôl y sefyllfa).

Mae 'cod' yn derm ieithyddol ar gyfer iaith.

Mae newid cod yn beth normal ac nid yw'n arwydd o ddryswch.

Mae newid cod yn bodoli'n helaeth o amgylch y byd. Er enghraifft, mae pobl yn wreiddiol o Dde America sydd bellach yn byw yn yr Unol Daleithiau yn defnyddio Sbaeneg a Saesneg gyda'i gilydd. Mae pobl India hefyd yn defnyddio ieithoedd fel Hindi a Punjabi gyda Saesneg.

Yn yr un modd mae newid cod yn gyffredin iawn ymhlith siaradwyr Cymraeg.

Esiamplau o newid cod:[golygu | golygu cod]

Cofia cau'r curtains pan ti'n mynd i'r bathroom
neu
Duw, no way! Mae'r holiday insurance yn three hundred pounds!

Mae newid cod / disgolsia wedi dod yn bwnc trafod yn yr Unol Dalaithau ymhlith bobl o dras Affro-Americaniadd. Maent yn teimlo o dan bwysau i 'siarad yn wyn' gan newid eu ffordd arferol o siarad wrth ddeilio gyda phobl gwynion. [1]

Mathau o newid cod[golygu | golygu cod]

  • Mae 'newid cod rhyngfrawddegol' ydy'r term am berson dwyieithog sy’n defnyddio un iaith ar gyfer un frawddeg, ac iaith arall ar gyfer y frawddeg nesaf.
  • Mae 'newid cod mewnfrawddegol' ydy'r term am berson dwyieithog sy’n defnyddio'r ddwy iaith o fewn yr un frawddeg.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

https://educationalresearchtechniques.com/2017/10/06/code-switching-lexical-borrowing/

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

  1. https://hbr.org/2019/11/the-costs-of-codeswitching