Cywair (ieithyddiaeth)

Oddi ar Wicipedia

Mewn Ieithyddiaeth mae cywair yn derm ar gyfer y defnydd o amrywiaethau iaith yn ôl y cyd-destunau.

Er enghraifft, mae cyweiriau penodol ar gyfer byd y gyfraith, hysbysebion, siarad mewn sefyllfaoedd anffurfiol, ysgrifennu llyfrau plant ac yn y blaen.

Mae Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor yn diffinio Cywaith Iaith fel:
Ystyr cywair iaith (language register), yw’r math o iaith y byddwn yn ei siarad neu’n ei sgrifennu mewn gwahanol sefyllfaoedd e.e. mae’r iaith y byddwch yn ei siarad mewn tafarn neu wrth wylio gêm bêl droed â’ch ffrindiau yn wahanol i’r iaith y byddwch yn ei siarad yn eich gwaith gyda rhywun pwysig

Mae Canllawiau Iaith S4C yn cynghori:
Dylid diffinio’r gynulleidfa darged yn ofalus wrth ystyried y cywair ieithyddol priodol ar gyfer pob rhaglen

Esiamplau o gywair iaith[golygu | golygu cod]

Tra bod amrywiaeth fawr o gyweiriau iaith a’u defnydd, yn aml mae’r cywair yn newid yn ôl ffurfioldeb y sefyllfa.

Esiamplau o gywair ysgrifenedig[golygu | golygu cod]

Wrth ysgrifennu Cymraeg dyma rhai elfennau sy’n nodi’r gwahaniaeth rhwng y cywair ffurfiol a’r anffurfiol:

Cywair iaith anffurfiol Cywair iaith ffurfiol
Mae’r plant yn cerdded i’r ysgol Cerdda’r plant i’r ysgol
Cafodd y drych ei falu Malwyd y drych
Ddarllenodd Siôn ddim y papur Ni ddarllenodd Siôn y papur
Ddarllenodd Carol y papur? A ddarllenodd Carol y papur?
Paid cerdded ar y glaswellt Na cherddwch ar y glaswellt
Gofynnodd os oedd yr aelodau’n fodlon Gofynnodd a oedd yr aelodau’n fodlon
Nhw Hwy
Gwyn, syml, byr, du, a.y.b. Wen, gwynion, seml, fer, byrion, duon, a.y.b.
Wnaeth Nia gerdded Cerddodd Nia
Y dyn yma/y ferch yma/y bobl yma Hwn/hon/y bobl hyn
Os mae, pan mae Os yw, pan yw
Ci a cath Ci a chath
Ein amser Ein hamser


Esiampl o gywair cyfreithiol[golygu | golygu cod]

Mae Gorchmynion Rheoli Cŵn yn ei gwneud yn drosedd i berson sydd â gofal am gi “i fynd â’r ci neu i ganiatáu i’r ci i fynd neu i aros ar unrhyw dir y mae’r gorchymyn yn berthnasol iddo” (ac eithrio ar briffordd mabwysiedig neu lwybr troed cyhoeddus, sydd wedi’u heithrio’n benodol o dan y gyfraith)

Esiampl o gywair hysbysebu[golygu | golygu cod]

Eisiau cadw’n ffit? Eisiau arbed arian? Beth am gerdded i’r gwaith? ...Mae’n gyfle grêt i ddod i nabod pobol ar y ffordd - ac mae’n fwy o hwyl! Cerdded – da iti a da i dy boced!

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Ffynonellau[golygu | golygu cod]