Diglosia
Mewn ieithyddiaeth mae diglosia yn derm ar gyfer y defnydd o ddwy iaith (neu ddau fersiwn o’r un iaith) o fewn yr un gymuned - ac mynd o'r naill i'r llall yn ôl y sefyllfa.
Mewn llawer o enghreifftiau o ddiglosia mae siaradwr yn newid o iaith lafar pob dydd i fath arall o iaith ar gyfer sefyllfaoedd mwy ffurfiol.
Yr Iaith 'H' a’r iaith 'L'[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae’r iaith lafar pob dydd yn cael ei dynodi fel yr iaith "L" (o’r gair Saesneg "low"). Fel arfer mae’r iaith "L" yn cael ei defnyddio yn y cartref ac ymhlith cymdogion, cyd-weithwyr etc.
Mae’r iaith "H" (o’r Saesneg "high") yn cael ei defnyddio mewn sefyllfaoedd mwy ffurfiol fel addysg, ysgrifennu neu ddelio gydag awdurdodau a phobl mewn awdurdod.
Mae diglosia yn bodoli'n helaeth o amgylch y byd. Er enghraifft, fel arfer mae pobl Tsieina yn siarad eu tafodiaith leol fel yr iaith "L" gan newid i'r iaith "H" - Mandarin ar gyfer llythrennedd.
Yn yr un modd mae siaradwyr Cymraeg yn defnyddio Cymraeg llafar yn eu tafodiaith leol ymhlith ei gilydd gan newid i Gymraeg lenyddol neu Saesneg ar gyfer ysgrifennu a darllen.
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
- Newid cod - ble mae'r un person yn defnyddio dwy iaith yn yr un sgwrs.
- Cywair Iaith - amrywiaethau yr un iaith yn ôl y cyd-destunau.
- Cyd-ddeallusrwydd iaith
- Continiwm tafodiaith
Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]
- 'Cyflwyniad i Ieithyddiaeth Golygyddion: Sarah Cooper a Laura Arman ar Porth Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Crystal, D. 2005. How Language Works Penguin Books. ISBN 0-14-051538-0
- https://en.wikipedia.org/wiki/Charles_A._Ferguson
- Ferguson, Charles A. 1959. Diglossia. Word 15: 325-340. http://www.mapageweb.umontreal.ca/tuitekj/cours/2611pdf/Ferguson-Diglossia.pdf
- LangFocus "What is Diglossia?" Ffilm fer ar YouTube https://www.youtube.com/watch?v=KL9ku7c7UTs