Chweched Adroddiad Asesiad yr IPCC

Oddi ar Wicipedia
Chweched Adroddiad Asesiad yr IPCC
Enghraifft o'r canlynoladroddiad Edit this on Wikidata
CyhoeddwrPanel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi9 Awst 2021, 20 Mawrth 2023 Edit this on Wikidata
CyfresIPCC report Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganPumed Adroddiad Asesiad yr IPCC Edit this on Wikidata
Prif bwncamrywioldeb yr hinsawdd Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.ipcc.ch/assessment-report/ar6/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cyhoeddwyd y Chweched Adroddiad-Asesu (AR6) gan Banel Rhynglywodraethol y Cenhedloedd Unedig ar y Newid Hinsawdd (IPCC); dyma'r 6ed mewn cyfres o adroddiadau sy'n asesu gwybodaeth wyddonol, dechnegol ac economaidd-gymdeithasol ynghylch newid hinsawdd. Mae'n ffrwyth llafur tri Gweithgor (WGI, II, a III) ac yn seiliedig ar y pynciau canlynol: Sail y Gwyddorau Ffisegol (WGI); Effeithiau, Addasiad a Bregusrwydd (WGII); Lliniaru Newid Hinsawdd (WGIII). O’r rhain, cyhoeddwyd yr astudiaeth gyntaf yn 2021, yr ail adroddiad yn Chwefror 2022, a’r trydydd yn Ebrill 2022. Disgwylir i’r adroddiad synthesis terfynol ddod i ben erbyn dechrau 2023.

Cyhoeddodd y cyntaf o’r tri gweithgor ei adroddiad ar 9 Awst 2021, Newid Hinsawdd 2021: Sail y Gwyddorau Ffisegol. Cyfrannodd cyfanswm o 234 o wyddonwyr o dros 66 o wledydd at adroddiad y gweithgor cyntaf (WGI). Adeiladodd yr awduron ar fwy na 14,000 o bapurau gwyddonol i gynhyrchu'r adroddiad 3,949 tudalen, ac a gafodd ei gymeradwyo wedyn gan 195 o lywodraethau. Cafodd y ddogfen Crynodeb i Wneuthurwyr Polisi (SPM) ei drafftio gan wyddonwyr a chytunodd y 195 o lywodraethau yn yr IPCC i wneud hynny fesul llinell yn ystod y pum diwrnod yn arwain at 6 Awst 2021.

Yn ôl adroddiad WGI (sef, Working Group 1),gellir osgoi cynhesu o rhwng 1.5 °C (2.7 °F) a 2.0 °C (3.6 °F) os gwneir toriadau enfawr ac uniongyrchol mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mewn stori tudalen flaen, disgrifiodd The Guardian yr adroddiad fel “ei rybudd cryfaf eto” o “newidiadau hinsawdd anochel ac anwrthdroadwy enfawr”, thema a adleisiwyd gan lawer o bapurau newydd ac arweinwyr gwleidyddol ac ymgyrchwyr hinsawdd ledled y byd.

Yr adroddiad[golygu | golygu cod]

Daear-wleidyddiaeth[golygu | golygu cod]

Mae Daear-wleidyddiaeth wedi'i chynnwys mewn modelau hinsawdd am y tro cyntaf, ar ffurf pum Llwybr Economaidd-gymdeithasol a Rennir fel a ganlyn:

  • SSP1 "Cymryd y Ffordd Werdd",
  • SSP2 "Canol y Ffordd",
  • SSP3 "Hen Ffordd Garegog",
  • SSP4 "Y Ffordd yn Fforchio", a
  • SSP5 "Tua'r Draffordd", a gyhoeddwyd yn 2016.

Mae’r adroddiad yn dweud yn benodol: “Mae pob llwybr yn ddisgrifiad mewnol cyson, credadwy ac integredig o ddyfodol cymdeithasol-economaidd, ond nid yw’r dyfodol economaidd-gymdeithasol hwn yn cyfrif am effeithiau newid hinsawdd, ac ni thybir unrhyw bolisïau hinsawdd newydd...[1]

Cyfranogiad[golygu | golygu cod]

Fel prosesau gwyddonol rhyngwladol mawr eraill, mae'r IPCC wedi'i gyhuddo o beidio â chynnwys ysgolheigion o Hemisffer y De yn ddigonol. Er enghraifft, amlygwyd y rhagfarnau sy'n atal ysgolheigion Affricanaidd rhag cymryd rhan, megis gofynion cyhoeddi a bod yn adolygydd arbenigol cyn ymuno â'r panel o gyfranwyr.[2] Yn yr un modd, dim ond 28% o fenywod oedd gan adroddiad y gwyddorau ffisegol yn ei dîm o awduron. Mae un o'r rhai a gyfeirir at ei gwaith yn Gymraes o Ruthun ac a gyhoeddodd ei gwaith (Conflict as a Result of Climate Change) yn wreiddiol yn y cylchgrawn Nature. https://www.linkedin.com/in/erin-owain-b39a10107/?originalSubdomain=uk

Rhai canfyddiadau a nodir yn yr Adroddiad[golygu | golygu cod]

Fflachlif yng Nghasgwent

Mae adroddiad Gweithgor 1 (WGI), Newid Hinsawdd 2021: Sail y Gwyddorau Ffisegol yn cynnwys tair pennod ar ddeg ac mae’n canolbwyntio ar yr hyn sydd y tu ôl i achosion ac effeithiau allyriadau nwyon tŷ gwydr dynol. O'i gymharu ag asesiadau blaenorol, roedd yr adroddiad yn cynnwys llawer mwy o fanylion ar effeithiau rhanbarthol newid hinsawdd, er bod angen mwy o ymchwil ar newid hinsawdd yn nwyrain a chanol Gogledd America. Mae’n debygol y ceir cynnydd yn lefel y môr erbyn 2100 o hanner i un metr, ond nid yw dau i bum metr yn cael ei ddiystyru, gan fod diffyg dealltwriaeth o brosesau ansefydlogrwydd llenni iâ yn parhau.

Disgwylir i dywydd eithafol gynyddu yn unol â thymheredd, a gall effeithiau cyfansawdd (fel gwres a sychder gyda'i gilydd) effeithio mwy ar gymdeithas. Mae'r adroddiad yn cynnwys newid mawr o'r IPCC blaenorol yng ngallu gwyddonwyr i briodoli digwyddiadau tywydd eithafol penodol. [3]

Bydd unrhyw gynhesu yn y dyfodol yn cynyddu nifer yr achosion o dywydd eithafol. Hyd yn oed pe bai'r tymheredd yn cynyddu 1.5 °C yn unig, bydd "digwyddiadau cynyddol eithafol na welwyd eu tebyg i'w gweld".[4]

Bydd amlder, a dwyster digwyddiadau o'r fath yn cynyddu'n sylweddol gyda chynhesu, fel y disgrifir yn y tabl canlynol:[4]

Cynnydd yn amlder a dwyster digwyddiadau eithafol gyda chynhesu byd-eang
Enw'r digwyddiad Hinsawdd 1850-1900 1 °C cynhesu 1.5 °C cynhesu 2 °C cynhesu 4 °C cynhesu
1 mewn 10 mlynedd:

ysbeidiau o dywydd poeth iawn

Arferol 2.8 gwaith yn amlach, 1.2 °C yn boethach 4.1 gwaith yn amlach, 1.9 °C yn boethach 5.6 gwaith yn amlach, 2.6 °C yn boethach 9.4 gwaith yn amlach, 5.1 °C yn boethach
1 mewn 50 mlynedd:

ysbeidiau o dywydd poeth iawn

Arferol 4.8 gwaith yn amlach, 1.2 °C yn boethach 8.6 gwaith yn amlach, 2.0 °C yn boethach 13.9 gwaith yn amlach, 2.7 °C yn boethach 39.2 gwaith yn amlach, 5.3 °C yn boethach
1 mewn 10 mlynedd:

digwyddiad dyodiad trwm ee llifogydd

Arferol 1.3 gwaith yn amlach, 6.7% yn wlypach 1.5 gwaith yn amlach, 10.5% yn wlypach 1.7 gwaith yn amlach, 14.0% yn wlypach 2.7 gwaith yn amlach, 30.2% yn wlypach
1 mewn 10 mlynedd:

sychder

Arferol 1.7 gwaith yn amlach, 0.3 sd yn sychach 2.0 gwaith yn amlach, 0.5 sd yn sychach 2.4 gwaith yn amlach, 0.6 sd sychach 4.1 gwaith yn amlach, 1.0 sd sychach

Derbyniad[golygu | golygu cod]

Mewn gwyddoniaeth[golygu | golygu cod]

Cyhoeddwyd yr adroddiad yn ystod haf Hemisffer y Gogledd, lle bu llawer o dywydd eithafol, megis ton wres Gorllewin Gogledd America, llifogydd yn Ewrop, glaw eithafol yn India a Tsieina, a thanau gwyllt mewn sawl gwlad. Mae rhai gwyddonwyr yn disgrifio’r digwyddiadau tywydd eithafol hyn fel bylchau amlwg yn y modelu a ddefnyddiwyd ar gyfer ysgrifennu’r adroddiad, gyda’r profiad byw yn profi’n fwy difrifol na’r consensws.[5]

Mewn gwleidyddiaeth[golygu | golygu cod]

Ar ôl cyhoeddi adroddiad Gweithgor 1, dywedodd Is-lywydd yr UE Frans Timmermans nad yw’n rhy hwyr i atal newid hinsawdd. Yng Ngorffennaf 2022 dywedodd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru fod ei Lywodraeth am gyflwyno cyfreithiau a fydd yn rhoi stop ar gynhyrchu plastig, a 5 deddf newyss i atal newid hinsawdd. Dywedodd, ""Mae'r argyfwng hinsawdd gyda ni yn un enbyd. Byddwn yn cyflwyno pum Bil pwysig, a fydd yn helpu i ddiogelu ein hamgylchedd, gwella ansawdd yr aer yr ydym yn ei anadlu ac atal cymaint o blastig rhag llygru ein tir a'n morlun hardd. [6]

Dywedodd Rick Spinrad, gweinyddwr Gweinyddiaeth Eigionol ac Atmosfferig Genedlaethol yr Unol Daleithiau, y bydd ei asiantaeth “yn defnyddio’r mewnwelediadau newydd o’r adroddiad IPCC hwn i lywio’r gwaith y mae’n ei wneud gyda chymunedau i baratoi ar gyfer newid hinsawdd, ymateb iddo ac addasu ar ei gyfer”.

NGO[golygu | golygu cod]

Dywedodd yr ymgyrchydd hinsawdd o Sweden, Greta Thunberg, fod yr adroddiad “yn cadarnhau’r hyn rydyn ni eisoes yn ei wybod o filoedd o astudiaethau ac adroddiadau blaenorol - ein bod ni mewn argyfwng mawr”.

Newid Hinsawdd 2022: Effeithiau, Addasu a Bregusrwydd (Adroddiad Gweithgor 2)[golygu | golygu cod]

Cyhoeddwyd ail ran yr adroddiad, sef cyfraniad gweithgor II (WGII), ar 28 Chwefror 2022. Yn dwyn y teitl Newid yn yr Hinsawdd 2022: Effeithiau, Addasiad a Bregus, mae’r adroddiad llawn yn 3,675 o dudalennau, ynghyd â chrynodeb 37 tudalen ar gyfer llunwyr polisi.[7] Mae'n cynnwys gwybodaeth am effeithiau newid hinsawdd ar natur a gweithgaredd dynol.[8] Roedd y pynciau a archwiliwyd yn cynnwys colli bioamrywiaeth, mudo, risgiau i weithgareddau trefol a gwledig, iechyd dynol, diogelwch bwyd, prinder dŵr, ac ynni. Mae hefyd yn asesu ffyrdd o fynd i’r afael â’r risgiau hyn ac yn amlygu sut y gall datblygiad sy’n gallu gwrthsefyll yr hinsawdd fod yn rhan o symudiad mwy tuag at gynaliadwyedd.[9]

Newid Hinsawdd 2022: Lliniaru Newid yn yr Hinsawdd (adroddiad Gweithgor 3)[golygu | golygu cod]

Cyflwynwyd yr adroddiad ar 4 Ebrill 2022.[10] Mabwysiadwyd strwythur yr adroddiad cyn hynny, yn 2017.[11] Mae rhai sylwedyddion yn poeni y gallai'r casgliadau gael eu gwanhau, o ystyried y ffordd y mae'r adroddiadau'n cael eu mabwysiadu.[12] Yn ôl The Observer, mae rhai gwledydd "wedi ceisio gwneud newidiadau a fyddai'n gwanhau'r rhybuddion terfynol".[12]

Canfu WGIII fod “allyriadau nwyon tŷ gwydr anthropogenig net wedi cynyddu ers 2010 ar draws yr holl sectorau mawr yn fyd-eang. Gellir priodoli cyfran gynyddol o allyriadau i ardaloedd trefol. Mae gostyngiadau mewn allyriadau CO2 o danwydd ffosil a phrosesau diwydiannol, oherwydd gwelliannau yn nwyster ynni CMC a dwyster carbon ynni, wedi bod yn llai na chynnydd mewn allyriadau o lefelau gweithgarwch byd-eang cynyddol mewn diwydiant, cyflenwi ynni, trafnidiaeth, amaethyddiaeth ac adeiladau.”[13]

Canfyddiadau pwysig[golygu | golygu cod]

Mae'r adroddiad yn defnyddio rhai dulliau newydd fel cynnwys gwahanol agweddau cymdeithasol, cyfranogiad ieuenctid, pobl frodorol, dinasoedd, a busnesau yn yr ateb. Mae'n nodi bod "cydweithrediad rhyngwladol yn hanfodol ar gyfer cyflawni nodau lliniaru newid hinsawdd uchelgeisiol."

 Mae cydweithredu rhyngwladol yn darparu cefnogaeth hanfodol ar gyfer llawer o fesurau lliniaru. Mae cymryd rhan mewn cytundebau rhyngwladol yn arwain at fabwysiadu polisïau hinsawdd. Er mwyn atal tymheredd byd-eang rhag codi mwy na 2 radd yn uwch na'r lefel cyn-ddiwydiannol, mae angen i gydweithrediad rhyngwladol fod yn llawer cryfach nag yn awr.[14]

Er mwyn cyflawni allyriadau sero net, mae'r adroddiad yn dweud bod angen defnyddio technolegau tynnu carbon deuocsid o'r amgylchedd. Mae’r adroddiad yn cymharu gwahanol ddulliau o gael gwared ar garbon deuocsid (CDR) gan gynnwys amaeth-goedwigaeth, ailgoedwigo, rheoli carbon glas, adfer mawndir ac eraill.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Chapter 1: Framing, context, and methods.". Climate Change 2021: The Physical Science Basis. Contribution of Working Group I to the Sixth Assessment Report of the Intergovernmental Panel on Climate Change. Cambridge University Press. In Press. 2021. |access-date= requires |url= (help)
  2. Ndumi Ngumbi, Esther; Nsofor, Ifeanyi M. (2021-09-15). "It's time to listen to African climate scientists". The Africa Report (yn Saesneg). Jeune Afrique Media Group. Cyrchwyd 2021-09-17.
  3. Irfan, Umair (2021-08-12). "Climate change worsens extreme weather. A revolution in attribution science proved it". Vox (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-08-14.
  4. 4.0 4.1 Summary for Policymakers. In: Climate Change 2021: The Physical Science Basis. Contribution of Working Group I to the Sixth Assessment Report of the Intergovernmental Panel on Climate Change (PDF). Cambridge University Press. In Press. 2021. Cyrchwyd 2021-08-20.
  5. Fountain, Henry (2021-07-26). "The world can expect more record-shattering heat waves, research shows". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2021-08-14.
  6. [1]
  7. "Climate Change 2022: Impacts, Adaptation and Vulnerability" (yn Saesneg). Intergovernmental Panel on Climate Change. Cyrchwyd 3 March 2022.
  8. Harvey, Fiona (28 February 2022). "IPCC issues 'bleakest warning yet' on impacts of climate breakdown". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 28 February 2022.
  9. "WGII Summary for Policymakers Headline Statements". www.ipcc.ch (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-03-01.
  10. "New time of the IPCC Working Group III press conference, 3 p.m. GMT on 4 April 2022 — IPCC". Cyrchwyd 2022-04-04.
  11. "IPCC Emissions Reduction Report Due Today After Negotiations Go Into Overtime". The Energy Mix (yn Saesneg). 2022-04-04. Cyrchwyd 2022-04-04.
  12. 12.0 12.1 "Dire warning on climate change 'is being ignored' amid war and economic turmoil". the Guardian (yn Saesneg). 2022-04-03. Cyrchwyd 2022-04-04.
  13. "IPCC - Intergovernmental Panel on Climate Change". report.ipcc.ch. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-04-04. Cyrchwyd 2022-04-04.
  14. WORKING GROUP III CONTRIBUTION TO THE IPCC SIXTH ASSESSMENT REPORT (AR6) Technical Summary (PDF). IPCC. tt. 119–120. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2022-04-04. Cyrchwyd 10 April 2022.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]