Amddiffynnwr hawliau dynol

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Amddiffynwr hawliau dynol)
Amddiffynnwr hawliau dynol
Enghraifft o'r canlynolgalwedigaeth Edit this on Wikidata
Mathgweithredydd gwleidyddol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae amddiffynnwr neu ymgyrchydd hawliau dynol yn berson sydd, yn unigol neu gydag eraill, yn gweithredu i hyrwyddo neu amddiffyn hawliau dynol. Gallant fod yn newyddiadurwyr, yn amgylcheddwyr, yn undebwyr llafur, cyfreithwyr, athrawon, ymgyrchwyr tai, cyfranogwyr mewn gweithredu uniongyrchol, neu'n unigolion yn gweithredu ar ei ben ei hun. Gallant amddiffyn hawliau fel rhan o'u swyddi neu'n wirfoddol. O ganlyniad i'w gweithgareddau, mae amddiffynwyr hawliau dynol yn aml yn destun dial drwy ei bardduo, ei wylio'n gyson, ei aflonyddu, dod a chyhuddiadau ffug yn ei erbyn, ei gadw'n fympwyol yn y ddalfa, cyfyngu ar yr hawl i ryddid i gymdeithasu, a hyd yn oed drwy ymosodiad corfforol llofruddiae a llofruddiaeth.[1]

Yn 2020, cafodd o leiaf 331 o amddiffynwyr hawliau dynol eu llofruddio mewn 25 o wledydd. Mae'r gymuned ryngwladol a rhai llywodraethau cenedlaethol wedi ceisio ymateb i'r trais hwn trwy wahanol ffyrdd, ond mae trais yn erbyn amddiffynwyr hawliau dynol yn parhau i godi. Mae amddiffynwyr hawliau dynol benywaidd ac amddiffynwyr hawliau dynol amgylcheddol (sy'n aml iawn yn frodorol) yn wynebu mwy o ormes a risgiau nag amddiffynwyr hawliau dynol sy'n gweithio ar faterion eraill.

Ym 1998, cyhoeddodd y Cenhedloedd Unedig eu Datganiad ar Amddiffynwyr Hawliau Dynol i gyfreithloni gwaith amddiffynwyr hawliau dynol ac ymestyn amddiffyniad ar gyfer gweithgareddau hawliau dynol. Yn dilyn y Datganiad hwn, mae nifer cynyddol o weithredwyr wedi mabwysiadu'r label 'amddiffynwyr hawliau dynol'; mae hyn yn arbennig o wir ar gyfer gweithwyr hawliau dynol proffesiynol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Amnesty International (2017). Human rights defenders under threat – A shrinking space for civil society.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]