Ton-wres gorllewin Gogledd America 2021

Oddi ar Wicipedia
Ton-wres gorllewin Gogledd America 2021
Enghraifft o'r canlynoltywydd poeth Edit this on Wikidata
Dyddiad2021 Edit this on Wikidata
Lladdwyd905 Edit this on Wikidata
DechreuwydMehefin 2021 Edit this on Wikidata
Daeth i benGorffennaf 2021 Edit this on Wikidata
LleoliadBritish Columbia, Washington, Oregon, Idaho, Califfornia, Nevada, Alberta, Tiriogaethau'r Gogledd-orllewin, Yukon Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America, Canada Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Roedd Ton-wres gorllewin Gogledd America 2021 yn don wres eithafol a effeithiodd ar lawer o orllewin Gogledd America o ddiwedd mis Mehefin i ganol mis Gorffennaf 2021. Canfu dadansoddiad priodoli cyflym (rapid attribution analysis) fod hwn yn ddigwyddiad tywydd 1000 mlynedd, a wnaed 150 gwaith yn fwy tebygol gan newid yn yr hinsawdd. Effeithiodd y don-wres ar Ogledd Califfornia, Idaho, Gorllewin Nefada, Oregon, a Washington yn yr Unol Daleithiau, yn ogystal â British Columbia, ac, yn ei gyfnod olaf, Alberta, Manitoba, Tiriogaethau'r Gogledd-orllewin, Saskatchewan, a Iwcon, i gyd yng Nghanada. Effeithiodd hefyd ar ranbarthau mewndirol Canolbarth a De Califfornia, Gogledd-orllewin a De Nevada a rhannau o Montana, er nad oedd yr anghysondebau tymheredd mor eithafol ag yn y rhanbarthau ymhellach i'r gogledd.

Nodyn:Infobox heat event

Ymddangosodd y don wres dan ddylanwad cefnen eithriadol o gryf o wasgedd uchel wedi'i chanoli dros yr ardal, a'r cryfder hwnnw yn gysylltiedig ag effeithiau newid hinsawdd[1][2] Arweiniodd at rai o'r tymereddau uchaf a gofnodwyd erioed yn y rhanbarth, gan gynnwys y tymheredd uchaf a fesurwyd erioed yng Nghanada sef 49.6°C (121.3°F), yn ogystal â'r tymereddau uchaf yn British Columbia, yn Nhiriogaethau'r Gogledd-orllewin, yn y dalaith. o Washington yn ogystal â record hafal yn Oregon. Roedd y tymereddau uchaf erioed sy'n gysylltiedig â'r don wres yn ymestyn o Oregon i ogledd Manitoba, a gosodwyd uchafbwyntiau dyddiol mor bell i'r dwyrain â Labrador ac mor bell i'r de-orllewin â De California. Fodd bynnag, dioddefodd Gogledd-orllewin y Môr Tawel y mwyafrif helaeth o'r aflonyddwch a'r difrod a oedd yn gysylltiedig â'r tywydd eithafol.

Sbardunodd y don wres nifer o danau 'gwyllt', rhai yn cyrraedd cannoedd o gilometrau sgwâr mewn arwynebedd, ac a arweiniodd at aflonyddwch eang ar y ffyrdd. Dinistriodd un o’r tannau ganol tref Lytton, British Columbia, y diwrnod ar ôl iddi gofnodi’r tymheredd uchaf erioed i Ganada. Achosodd y gwres ddifrod i seilwaith y ffyrdd a rheilffyrdd, gorfodi busnesau i gau, tarfu ar ddigwyddiadau diwylliannol, a thoddi eira’r copaon, gan arwain at lifogydd mewn rhai achosion. Achosodd y don-wres hefyd ddifrod sylweddol i gnydau ar draws y rhanbarth, ac fe’i hystyriwyd hi yn debygol o arwain at brisiau bwyd uwch yn fyd-eang, er nad yw'r colledion wedi'u cyfrifo eto[3]. Amcangyfrifodd y Weinyddiaeth Eigionol ac Atmosfferig Genedlaethol (NOAA) fod y tywydd poeth wedi achosi o leiaf $8.9 biliwn (2021 USD) mewn iawndal[4]

Collodd fwy na 1,400 o bobl eu bywydau, ac amcangyfrifir bod nifer y marwolaethau o leiaf 808 yng ngorllewin Canada[5]. Ar 6 Gorffennaf rhyddhaodd Gwasanaeth Crwner British Columbia ystadegau rhagarweiniol a oedd yn nodi bod 610 yn fwy nag arfer o farwolaethau sydyn yn y dalaith. Cofnododd Alberta 66 o farwolaethau dros y cyfartaledd cefndirol yn ystod wythnos y don wres[6]. Cadarnhaodd Prif Grwner British Columbia yn ddiweddarach, yn yr wythnos rhwng Mehefin 25 a Gorffennaf 1, bod gan 569 o farwolaethau achos oedd yn ymwneud â’r gwres[7]. Mae marwolaethau a gadarnhawyd yn yr Unol Daleithiau yn cynnwys o leiaf 116 yn Oregon (y mae 72 ohonynt yn Sir Multnomah, sy'n cynnwys Portland), ac o leiaf 112 yn Washington ac un farwolaeth yn Idaho; mae dadansoddiad gan y New York Times yn awgrymu bod tua 600 o farwolaethau dros y raddfa gefndirol wedi digwydd yr wythnos i'r don wres basio trwy Washington ac Oregon.

Hanes meteorolegol[golygu | golygu cod]

Geopotential height chart at 500 millibars at 11:00 UTC on June 28, 2021. Gweler ganolbwynt y gromen wres a achosodd y don-wres, yn sefyll dros berfeddwlad British Columbia

Ar Fehefin 23, rhybuddiodd Gwasanaeth Tywydd Cenedlaethol yr Unol Daleithiau am i don wres agosáu yng Ngogledd-orllewin arfordir y Môr Tawel. Gellir olrhain ei tharddiad i law trwm yn Tsieina. Yno, cododd yr aer cynnes, llaith ac yn y diwedd cafodd ei sugno i fyny gan y jetlif, a'i cludodd wedyn i'r dwyrain dros ddyfroedd oerach. Pan ddaeth y cerrynt aer hwnnw ar y 25 Mehefin ar draws crib o bwysedd uwch, dechreuodd ddatgymalu'n sylweddol, gan orfodi i gynnwys y parth pwysedd uchel fynd i'r de o ystum y jetlif. Ar yr un pryd, roedd taleithiau'r De-orllewin yn dioddef sychder dwys, a oedd yn gynharach wedi caniatáu tymereddau uwch na'r cyfartaledd dros Dde-orllewin yr Unol Daleithiau, gan arwain at don boeth debyg, yn gynharach ym mis Mehefin. Yna symudodd ei weddillion i'r gogledd i Ogledd-orllewin y Môr Tawel. Chwe diwrnod yn ddiweddarach, cyhoeddodd Environment Canada rybudd gwres ar gyfer Alberta, Saskatchewan, British Columbia, Manitoba, Yukon, a Thiriogaethau'r Gogledd-orllewin[8]

Cofnodwyd ym mharthau llawer o Ogledd-orllewin glannau'r Môr Tawel, a adnabyddir fel arfer am ei dywydd tymherus ym mis Mehefin, dymereddau uchaf 20-35°F (11-19°C) yn uwch na'r arfer yn ystod y don wres hon [1][9]. Mewn gwirionedd, roedd gwyriadau'r tymeredd o'r 'normal' mor anomalaidd nes bod isafbwyntiau'r nos yn uwch na'r tymheredd uchel cyfartalog y byddai'r rhanbarth hwn yn ei weld fel arfer ar yr adeg hon o'r flwyddyn. Roedd tymheredd y ddaear hefyd yn cyrraedd eithafion - yn Wenatchee, Washington, cyrhaeddodd 145°F (63°C).

Lytton, British Columbia[golygu | golygu cod]

Ar 29 Mehefin, trawodd y tymheredd yn Lytton, British Columbia, 49.6°C (121.3°F), y tymheredd uchaf a gofnodwyd erioed yng Nghanada, er bod gorsaf fwy modern gerllaw wedi nodi bod yr eithaf yma yn is o 1°C. Cafodd y gorsafoedd eu hynysu dros dro gan danau gwyllt Lytton drannoeth. Digwyddodd y record ar ôl gosod uchafbwynt newydd o 46.6°C (115.9°F) yn olynol ar 27 Mehefin a 47.9°C (118.2°F) ar 28 Mehefin. Dyma hefyd y tymheredd uchaf a gofnodwyd erioed i'r gogledd o 45°N, y tymheredd uchaf yn yr Unol Daleithiau neu Ganada a gofnodwyd y tu allan i Anialwch y De-orllewin, ac yn uwch na thymheredd uchaf absoliwt Ewrop neu Dde America.

Roedd Tân Lytton, a elwir hefyd yn ‘’Lytton Creek Fire’’, yn dân ‘gwyllt’ a losgodd ar 30 Mehefin ychydig i'r de o bentref Lytton y tu mewn i British Columbia, Canada. Dinistriodd y tân lawer o Lytton ac achosi dau farwolaeth sifil, a gyhoeddwyd 3 Gorffennaf. Roedd nifer o drigolion coll, yn dal heb eu cyfrif ar y pryd -cawsant eu lleoli yn ddiweddarach. Hwyluswyd y tân, un o nifer odanau 'gwyllt' British Columbia yn 2021 ledled y dalaith, gan don wres 2021 yng Ngorllewin Gogledd America.

Ar adeg y tân, roedd gan Lytton boblogaeth o tua 250 gyda 1,500 i 2,000 o drigolion y Cenhedloedd Cyntaf yn byw gerllaw ar eu rhandiroedd.

Trosolwg[golygu | golygu cod]

Dechreuodd y tanau gwyllt yn gynnar gyda'r nos ar 30 Mehefin 2021. Roedd y pentref wedi bod yn gosod cofnodion eithafol tymheredd Canada yn y dyddiau blaenorol, gan gynnwys cyrraedd 49.6°C (121.3°F) y diwrnod cynt, y tymheredd uchaf a gofnodwyd erioed yng Nghanada. O dan amodau poeth, sych, roedd gwyntoedd o hyd at 71 cilomedr yr awr (44 mya) yn gwthio'r tân i'r gogledd i gyfeiriad y gymuned, ac efallai bod y tân wedi bod yn symud ar 10 i 20 km/h. Aeth diffoddwyr tân gwirfoddol i’r afael â’r tân a dechreuodd Heddlu Marchogol Brenhinol Canada (RCMP) hel ymaith y trigolion oedd ger y tân. Wrth i'r tân fynd rhagddo, ffrwydrodd tanciau propan. Roedd gwyntoedd yn rhwystro ymdrechion diffodd tân trwy chwythu dŵr pibell i ffwrdd o'r tân. Ysgubodd y tân drwy'r pentref o fewn munudau, gan orfodi'r trigolion i ddianc ar frys heb unrhyw amser i gasglu eu heiddo. Cyhoeddodd y Maer Jan Polderman orchymyn i wacáu am 6:00 PM. Hysbysodd rhai trigolion berchnogion siopau lleol o'r perygl sydd ar ddod er mwyn iddynt allu ffoi. Roedd gan Lytton First Nation gynllun gwacáu eu hunain ac fe'i cyflawnwyd yn gyflym ar fyr rybudd heb gymorth awdurdodau'r dalaith.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Western North American extreme heat virtually impossible without human-caused climate change". World Weather Attribution. 7 Gorffennaf 2021.
  2. "Rapid attribution analysis of the extraordinary heatwave on the Pacific Coast of the US and Canada June 2021" (PDF). World Weather Attribution. Archifwyd (PDF) o'r gwreiddiol ar 7 Gorffennaf 2021. Cyrchwyd 17 Awst 2021.
  3. Ingwersen, Julie (12 Gorffennaf 2021). "'Wither away and die:' U.S. Pacific Northwest heat wave bakes wheat, fruit crops". Reuters. Retrieved July 15, 2021
  4. "Billion-Dollar Weather and Climate Disasters: Events". NOAA. Chwefror 2022. Archived from the original on December 25, 2012. Adalwyd 11 Chwefror 2022
  5. Global Catastrophe Recap September 2021 (PDF) (Report). Aon Benfield. October 12, 2021. p. 13. Retrieved October 12, 2021
  6. Potestio, Michael (July 21, 2021) "Estimate on number of suspected heat-related deaths rises to 808". Toronto Star
  7. Lapointe, Lisa (July 30, 2021). "Chief coroner's statement on public safety during high temperatures". news.gov.bc.ca. Archived from the original on August 2, 2021. Retrieved August 2, 2021
  8. "Car submerged, road flooded as record-breaking B.C. heat prompts massive snow melt | Globalnews.ca". 11 Gorffennaf 2021. Archived from the original on July 11, 2021. Adalwyd 21 Gorffennaf 2021.
  9. Jones, Dustin (26 Mehefin 2021). "Record Heat Wave Set To Scorch Pacific Northwest To Southern California". NPR.org. Archived from the original on June 28, 2021. Adalwyd 29 Mehefin 2021