Charles Babbage
Charles Babbage | |
---|---|
Ganwyd | 26 Rhagfyr 1791 Llundain, Walworth |
Bu farw | 18 Hydref 1871 Marylebone |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Addysg | Baglor yn y Celfyddydau, Meistr yn y Celfyddydau |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | mathemategydd, gwyddonydd cyfrifiadurol, dyfeisiwr, economegydd, athronydd, academydd, peiriannydd, seryddwr, llenor |
Swydd | Athro Lucasiaidd mewn Mathemateg |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | analytical engine |
Prif ddylanwad | Ada Lovelace |
Priod | Georgiana Whitmore |
Plant | Benjamin Babbage, Henry Babbage |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Medal Aur y Gymdeithas Seryddol Frenhinol, Cymrawd Cymdeithas Frenhinol Caeredin, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, Knight of the Royal Guelphic Order |
llofnod | |
Mathemategydd o Loegr a arloesodd yn yr hyn a adnabyddir heddiw fel cyfrifiadureg oedd Charles Babbage, FRS (26 Rhagfyr 1791 –18 Hydref 1871).[1] Roedd ganddo wybodaeth eang iawn o sawl pwnc, gan gynnwys athroniaeth, dyfeisio a pheirianneg. Mae'n fwyaf adnabyddus am ddyfeisio codio cyfrifiadurol.
Ystyrir ef gan rai fel un o'r rhai cyntaf i ragweld gallu'r cyfrifiadur ac yn "Dad y Cyfrifiadur",[2] Cynlluniodd y cyfrifiadur mecanyddol cyntaf, mae'n debyg, a arweiniodd ef i greu cynlluniau mwy cynhleth.[1] Mae rhai o'i greadigaethau i'w canfod yn Amgueddfa Gwyddoniaeth Llundain. Crewyd "peiriant gwahaniaethu" (difference engine) drwy ddefnyddio'r cynlluniau a wnaeth dros ganrif yn ôl; gweithiodd y peiriant yn union fel y breuddwydiai Babbage. Mae John Tucker yn y gyfrol Robert Recorde (gol.: Gareth Roberts a Lenny Smith) fodd bynnag, yn dadlau mai'r mathemategydd Cymreig Robert Recorde a osododd rai o'r sylfeini sydd wrth wraidd cysyniadau Babbage.[3]
Plentyndod
[golygu | golygu cod]Ceir anghytundeb ynglŷn ag union fan geni Babbage, ond yn ôl yr Oxford Dictionary of National Biography mae'n debygol iddo gael ei eni yn 44 Crosby Row, Walworth Road, Llundain.[4] Ceir plac glas ar y mur yn nodi hynny. Roedd yn un o bedwar o blant a anwyd i Benjamin Babbage a Betsy Plumleigh Teape. Gweithio fel partner mewn banc oedd ei dad i gwmni a sefydlodd gyda William Praed, sef: Praed's & Co. yn Stryd y Fflyd, Llundain, yn 1801.[5] Yn 1808, symudodd teulu'r Babbage i dref yn Ne Dyfnaint, Teignmouth. Yn wyth oed fe'i danfonwyd i ysgol yn Alphington, yng nghanol y wlad, ger Exeter. Am gyfnod byr bu'n ddisgybl yn Ysgol King Edward VI, Totnes, ond nid oedd ei iechyd yn arbennig o dda a chafodd diwtoriaid personol i'w addysgu.[6] Yna bu yn Academi Holmwood, Middlesex, ac yn llyfrgell yr ysgol honno y disgynodd mewn cariad gyda mathemateg. Pan oedd oddeutu 16 oed dychwelodd i Totnes.[7]
Coleg
[golygu | golygu cod]Yn Hydref 1810 cyrhaeddodd Goleg y Drindod, Caergrawnt.[8] Roedd wedi datblygu cymaint yn ei fathemateg, ceir gohebiaeth ganddo sy'n nodi ei fod yn siomedig yn safon y gwaith yno.[4] Yn 1812 trosglwyddodd i Peterhouse, Caergrawnt lle daeth i'r brig a derbyniodd radd yn 1814 heb orfod sefyll unrhyw arholiad.[8]
Cyfnod heb waith
[golygu | golygu cod]Bu'n darlithio yn y Royal Institution mewn seryddiaeth yn 1815, ac fe'i etholwyd yn gymrawd y Gymdeithas Frenhinol yn 1816.[9] Ond siomedig oedd y blynyddoedd a ddilynodd hynny, a methodd a chael swydd fel athro yn 1816.[10] Yn 1819, ymwelodd Babbage a Herschel â Pharis a chymdeithas Society of Arcueil, gan gyfarfod mathemategwyr a ffisegwyr blaenllaw'r dydd.[11] Y flwyddyn honno, ymgeisiodd am swydd fel athro Prifysgol Caeredin ond heb lwyddiant.[12][13]
Ceisiodd sefydlu cwmni yswiriant, ond heb lwyddiant eto; yn ystod y cyfnod hwn, dibynai'n gyfangwbwl ar daliadau cyson gan ei dad. Gwnaeth ei nyth yn Marylebone, Llundain, a llenwodd hwnnw gyda phlant.[14] Ond yn 1827, bu farw ei dad ac etifeddodd Babbage ystâd enfawr gwerth £100,000, (sy'n gyfwerth a £7.73 miliwn heddiw), gan ei wneud yn ddyn ariannog iawn.[4]
Wedi marwolaeth ei wraig, yn yr un flwyddyn (1827) bu farw'i wraig a chymerodd y goes, gan deithio'r Eidal, tra chyflogai nyrsus i warchod ei blant a Herschel i ddatblygu ei syniadau ar y peiriant gwahaniaethu. yn Rhufain, yn Ebrill 1828 clywodd ei fod wedi'i benodi'n Athro ym Mhrifysgol Caergrawnt, ar ei bedwerydd ymgais![15]
Y Gymdeithas Seryddol
[golygu | golygu cod]Sefydlodd ac arianodd y Gymdeithas Seryddol yn 1820 gyda'r bwriad o leihau cyfrifiadau mathemategol, gan eu gwneud yn fwy hylaw. Enillodd fedal y gymdeithas "for his invention of an engine for calculating mathematical and astronomical tables". Pwrpas creu peiriant gwahaniaethu, meddai Babbage, oedd ymgais i wella'r The Nautical Almanac.[16]
Gyda'i gyfaill Thomas Frederick Colby, ymchwiliodd i'r posibilrwydd o greu system bost drwy Brydain, a dyfeisiodd system a alwyd yn Uniform Fourpenny Post a Uniform Penny Post[17] yn 1839 a 1840.
Ada Lovelace
[golygu | golygu cod]Bu Ada Lovelace yn gohebu gyda Babbage am beth amser, tra chynlluniodd y peiriant gwahaniaethu. Gwelir yn ei nodiadau hi yr hyn a gaiff ei ystyried i fod yr algorithm cyntaf i gael ei weithredu gan beiriant. Oherwydd hyn, ystyrir hi'r 'rhaglenydd' meddalwedd cyntaf.[18][19]
Disgynyddion
[golygu | golygu cod]Cafodd Charles a Georgiana Babbage wyth o blant,[20] ond 4 yn unig a fu fyw'n oedolion – Benjamin Herschel Babbage, Georgiana Whitmore, Dugald Bromhead Babbage a Henry Prevost.
- Benjamin Herschel Babbage (1815-1878)
- Charles Whitmore Babbage (1817-1827)
- Georgiana Whitmore Babbage (1818-??)
- Edward Stewart Babbage (1819-1821)
- Francis Moore Babbage (1821-??)
- Dugald Bromhead (Bromheald?) Babbage (1823-1901)
- (Maj-Gen) Henry Prevost Babbage (1824–1918)
- Alexander Forbes Babbage (1827–1827)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Terence Whalen (1999). Edgar Allan Poe and the masses: the political economy of literature in antebellum America. Princeton University Press. t. 254. ISBN 978-0-691-00199-9. Cyrchwyd 18 Ebrill 2013.
- ↑ Halacy, Daniel Stephen (1970). Charles Babbage, Father of the Computer. Crowell-Collier Press. ISBN 0-02-741370-5.
- ↑ Robert Recorde; gol: Gareth Roberts a Fenny Smith; Archifwyd 2016-01-06 yn y Peiriant Wayback EAN: 9780708326824; Cyhoeddwyd: 15 Hyd 2013; gweler pennod 9.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 (Saesneg) Swade, Doron. "Babbage, Charles". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/962.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)
- ↑ Members Constituencies Parliaments Surveys. "''Praed, William (1747–1833), of Tyringham, Bucks. and Trevethoe, nr. St. Ives, Cornw.''". Historyofparliamentonline.org. Cyrchwyd 2014-06-07.
- ↑ Moseley 1964, t. 39
- ↑ Bruce Collier; James MacLachlan (28 Medi 2000). Charles Babbage: And the Engines of Perfection. Oxford University Press. t. 11. ISBN 978-0-19-514287-7. Cyrchwyd 18 Ebrill 2013.
- ↑ 8.0 8.1 "Babbage, Charles (BBG810C)". Cronfa Ddata Alumni Caergrawnt. Prifysgol Caergrawnt.
- ↑ James Essinger (2007). Jacquard's Web. Oxford University Press. t. 59 a 98. ISBN 978-0-19-280578-2.
- ↑ Raymond Flood; Adrian Rice; Robin Wilson (29 Medi 2011). Mathematics in Victorian Britain. Oxford University Press. t. 145. ISBN 978-0-19-960139-4. Cyrchwyd 25 Ebrill 2013.
- ↑ George Green: Mathematician and Physicist, 1793–1841: The Background to His Life and Work. SIAM. 2001. t. 255 note 19. ISBN 978-0-89871-463-0. Cyrchwyd 8 Mai 2013.
- ↑ Roger Hahn (2005). Pierre Simon Laplace: 1749 – 1827; a Determined Scientist. Harvard University Press. tt. 295 note 34. ISBN 978-0-674-01892-1. Cyrchwyd 8 Mai 2013.
- ↑ (Saesneg) Panteki, Maria. "Wallace, William". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/28545.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)
- ↑ James. Remarkable Engineers. Cambridge University Press. t. 45. ISBN 978-1-139-48625-5. Cyrchwyd 26 Ebrill 2013.
- ↑ Kevin C. Knox (6 November 2003). From Newton to Hawking: A History of Cambridge University's Lucasian Professors of Mathematics. Cambridge University Press. tt. 242 and 258–72. ISBN 978-0-521-66310-6. Cyrchwyd 26 Ebrill 2013.
- ↑ M. Norton Wise (17 March 1997). The values of precision. Princeton University Press. t. 320. ISBN 978-0-691-01601-6. Cyrchwyd 25 Ebrill 2013.
- ↑ Anthony Hyman (1 Ionawr 1985). Charles Babbage: Pioneer Of The Computer. Princeton University Press. t. 115. ISBN 978-0-691-02377-9. Cyrchwyd 18 Ebrill 2013.
- ↑ Fuegi & Francis 2003, tt. 16–26.
- ↑ Phillips, Ana Lena (Tach-Rhag 2011). "Crowdsourcing gender equity: Ada Lovelace Day, and its companion website, aims to raise the profile of women in science and technology". American Scientist 99 (6): 463.
- ↑ Valerie Bavidge-Richardson. "Babbage Family Tree 2005". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-10-13. Cyrchwyd 9 February 2013.
Also see "Charles Babbage entry". ClanBarker. Cyrchwyd 9 February 2013.