Castell Cil-y-coed

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Castell Cil-y-coed
Caldicot Castle, Wales.jpg
Math Castell Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Cil-y-coed Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51.5931°N 2.74225°W, 51.593088°N 2.742234°W Edit this on Wikidata
Manylion
Statws treftadaeth adeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata

Castell Normanaidd o'r Oesoedd Canol ydy Castell Cil-y-coed, ar ffurff mwnt a beili heb y mur gwarcheidiol arferol, sef y “beili”. Lleoliad: Cil-y-coed, Sir Fynwy; cyfeiriad grid ST487895. Fe godwyd y rhan fwyaf o'r tomenni hyn yng Nghymru rhywdro rhwng degawdau olaf yr 11g ac ail hanner y 12g allan o bridd a charreg, gyda ffos o'u cwmpas fel rheol. Y Normaniaid ddaeth â'r math hwn o amddiffynfa o Ffrainc i wledydd Prydain a mabwysiadwyd y dechnoleg gan y Cymry. Cryfahwyd y castell dros y blynyddoedd.

Fe'i cofrestrwyd gan Cadw a chaiff ei adnabod gyda'r rhif SAM: MM026 .[1]

Mae'r clwstwr mwyaf o'r tomennydd hyn drwy wledydd Prydain i'w weld yn ardal y gororau (neu'r Mers): sef Swydd Amwythig, Swydd Gaer, Swydd Henffordd, Powys a Sir y Fflint fel y caiff ei adnabod heddiw.[2]

Mae Cil-y-coed yn cael ei grybwyll yn Llyfr Dydd y Farn fel tir amaethyddol a ganhaliwyd gan Durlan, Siryf Caerwrangon.

Yn 1885 gwerthwyd y castell i Joseph Richard Cobb, a adferwyd y castell gan ei droi'n gartref i'w deulu [3].

Y castell Canoloesol 

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfesurynnau: 51°35′35″N 2°44′33″W / 51.59305°N 2.74237°W / 51.59305; -2.74237

CymruFynwy.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Fynwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato