Cadwaladr Bryner Jones
Cadwaladr Bryner Jones | |
---|---|
Ganwyd | 6 Ebrill 1872 Dolgellau |
Bu farw | 10 Rhagfyr 1954 Birmingham |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | academydd, gwas sifil, athro cadeiriol |
Swydd | llywydd corfforaeth |
Perthnasau | Cadwaladr Jones |
Gwobr/au | CBE |
Roedd Syr Cadwaladr Bryner Jones Kt, CB; CBE, LLD, MSc, FHAS MRASE (6 Ebrill, 1872 – 10 Rhagfyr, 1954) yn academydd a gwas sifil o Gymru, a oedd yn arbenigo mewn ymchwil amaethyddol ac amgylcheddol.[1]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Ganwyd Syr Bryner yng Nghefnmaelan Dolgellau. Roedd yn blentyn i Enoch Jones, amaethwr a Jane (née Lewis) ei wraig. Cafodd ei enwi'n Cadwaladr ar ôl ei daid ar ochr ei dad, Cadwaladr Jones, Yr Hen Olygydd, gweinidog Annibynnol a golygydd Y Dysgedydd, a Bryner ar ôl fferm deuluol ei fam, Maesybryner, Llanelltud. Bu farw ei fam pan oedd yn blentyn a chafodd ei fagu gan ei nain a'i daid ym Maesybryner.[2] Fe'i addysgwyd yn ysgolion cynradd y Brithdir a Dolgellau ac yn Ysgol Ramadeg Dolgellau. Ar ôl gorffen ei yrfa ysgol, bu am ddwy flynedd yn ddisgybl amaeth yng Ngwyddelwern; cyn mynd ymlaen i goleg amaeth Aspatria, Swydd Cumberland (Cumbria bellach). Yn Aspatria enillodd dystysgrif dosbarth cyntaf Cymdeithas Amaeth Brenhinol Lloegr a thystysgrif cyffelyb Gymdeithas Frenhinol Amaethyddol Ucheldir yr Alban.[3] Fel rhan o'i gwrs dyfarnodd Adran Gwyddoniaeth a Chelf, llywodraeth Prydain iddo dystysgrifau mewn Amaethyddiaeth, Cemeg a Botaneg.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Bangor
[golygu | golygu cod]Ar ôl graddio o Goleg Aspatria cafodd Jones swydd fel is athro sirol mewn amaethyddiaeth yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru Bangor. Dyletswydd is athrawon sirol oedd sicrhau bod cymdeithas ehangach dalgylch y coleg yn cael budd o waith y brifysgol, nid y myfyrwyr mewnol yn unig, trwy gynnal darlithoedd a chyrsiau allanol yn nhrefi a phentrefi siroedd y gogledd.[4] Ar y pryd, Saesneg oedd unig iaith addysg Prifysgol Cymru. Gan fod Jones yn darlithio'n bennaf i'r gymuned amaethyddol Cymraeg ei hiaith, bu'n orfodaeth ymarferol iddo ddarlithio yn y Gymraeg hefyd, gan hynny daeth yn arloeswr yn natblygiad addysg uwch trwy'r Gymraeg.
Newcastle upon Tyne
[golygu | golygu cod]Ym 1903 fe'i penodwyd yn ddarlithydd mewn Rheolaeth Amaethyddol ac Ystadau yng Ngholeg Gwyddoniaeth Prifysgol Durham (coleg Armstrong), Newcastle upon Tyne.[5] yn Newcastle bu alw mynych arno i ddychwelyd i Gymru i roi darlithoedd i gymdeithasau amaeth a llenyddol. Ar y cyd efo prifathro Coleg Armstrong Syr Isambard Owen a Charles Francis Lloyd, arweinydd cymdeithas gorawl South Shields, sefydlodd gangen o'r Cymrodorion yn Newcastle.[6] Dyfarnwyd MSc er anrhydedd iddo gan Brifysgol Durham ym 1906.[7]
Aberystwyth
[golygu | golygu cod]Ym 1890, sefydlodd Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, adran amaethyddiaeth, wedi'i selio ar yr un ym Mangor, a oedd yn cynnwys ffermio ymarferol yn ei gwricwlwm. Pan aeth yr adran i anhrefn ar ymadawiad y darlithydd cyntaf ym 1907, penododd y coleg Bryner Jones i'r gadair Amaeth newydd.[8] Ffynnodd yr adran o dan ei arweiniad, a daeth Jones yn arweinydd addysg amaethyddol yng Nghymru.
Ym 1912, gwnaed trefniant i greu dau gynllun swyddogol yn ymwneud ag addysg amaethyddol a gwella da byw o dan Gomisiynydd Amaethyddol, i'w cynghori gan Gyngor Amaethyddol Cymru. Daeth Bryner Jones yn gomisiynydd a chadeirydd y Cyngor, wrth gadw ei swydd fel Athro Amaethyddiaeth y brifysgol. Daeth Jones bellach yn ffigwr o ddylanwad aruthrol yn natblygiad amaethyddol Cymru a chymerodd ran ym mron pob mudiad i hybu ei buddiannau, gan gynnwys datblygiad Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, sefydlu Bridfa Blanhigion, Cylchgrawn Amaethyddiaeth Cymru ac Adran Economeg Amaethyddol y Brifysgol.
Pan gafodd y Bwrdd Amaethyddiaeth ei integreiddio i’r Weinyddiaeth Amaethyddiaeth a Physgodfeydd ym 1919 sefydlodd adran Gymreig yn Aberystwyth, gyda Bryner Jones, yn gweithredu fel Ysgrifennydd Cymreig cyntaf i'r Weinyddiaeth Amaeth. Am yr ugain mlynedd nesaf bu'n llywyddu ar adran a dyfodd yn araf ond yn gyson wrth i waith y weinidogaeth ehangu. Roedd y weinidogaeth yn gyfrifol am addysg amaethyddol a gwaith cynghori ar bob lefel ynghyd â gwella da byw.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu'n gyfrifol am y Pwyllgorau Gweithredol Amaethyddol Rhyfel Sirol yng Nghymru, gyda chyfrifoldeb am sicrhau diogelwch a chynnydd cynhyrchiant bwyd. Ar ôl ymddeol o'i swyddi yn y Brifysgol a'r Weinyddiaeth Amaeth ym 1944 parhaodd i wasanaethu fel Cadeirydd Is Gomisiwn Tir Cymru.
Yn ogystal â'i waith proffesiynol yn ymwneud ag amaeth bu hefyd yn hynod brysur fel swyddog gwirfoddol i nifer o sefydliadau a chymdeithasau er enghraifft:[9]
- 1908-1910; Anrhydeddus Cyfarwyddwr Sioe Frenhinol Cymru,
- 1913-1919; Llywydd Cymdeithas Lyfrau Praidd Defaid Mynydd Cymreig,
- 1944-1945; Llywydd Cymdeithas y Gwartheg Duon Cymreig,
- 1944–53 Cadeirydd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru,
- 1954; Llywydd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru
Bu hefyd yn feirniad rheolaidd mewn sioeau amaethyddol sirol a lleol. Yn ogystal â bod yn feirniad ar draethodau yn ymwneud ag amaeth a chefn gwlad mewn eisteddfodau, bu hefyd yn feirniad poblogaidd ar y cystadlaethau adrodd.
Tu allan i faes amaethyddiaeth ar amgylchedd bu hefyd yn gadeirydd llywodraethwyr Ysgol Dr Williams Dolgellau am dros 25 mlynedd. Bu'n gadeirydd Cymdeithas Hynafiaethau Ceredigion o 1934 i 1954.[10]
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]I gydnabod ei wasanaeth i addysg uwch dyfarnodd Prifysgol Cymru iddo radd LL.D. ym 1938. Penodwyd ef yn Gadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig ym 1920, yn Gadlywydd Urdd y Baddon ym 1936, ac yn farchog ym 1947.
Teulu
[golygu | golygu cod]Ni fu Bryner Jones yn briod. Roedd wedi dyweddïo ac wedi trefnu priodi ym Mehefin 1900, ond ychydig ddyddiau cyn y dyddiad fe aeth yn ddifrifol sâl, a bu'n orweddog am fron i flwyddyn. Gyda rhagolygon am wellhad yn edrych yn anobeithiol ar y pryd, rhoddwyd ef heibio gan ei ddyweddi.[11]
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw yn Ysbyty'r Frenhines Elizabeth, Birmingham yn 82 mlwydd oed,[12]. Cynhaliwyd gwasanaeth angladd iddo yng nghapel annibynwyr Portaland Street Aberystwyth a chladdwyd ei weddillion ger bedd Cadwaladr Jones, ei daid, ym mynwent capel annibynwyr y Brithdir.
Gwobr goffa
[golygu | golygu cod]Ers 1957 mae Gwobr Goffa Syr Bryner Jones yn cael ei rhoi bob blwyddyn gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru i rywun o wahanol ran o’r diwydiant ffermio sydd wedi cyrraedd y lefel cyflawniad uchaf yn y sector a ddewiswyd ar gyfer y flwyddyn. Mae enw'r enillydd yn cael ei gyhoeddi a'r wobr yn cael ei gyflwyno ar ddiwrnod agoriadol y Sioe Frenhinol.[13]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ JONES, Syr CADWALADR BRYNER (1872 - 1954), gŵr amlwg yn hanes addysg amaethyddol Cymru a gwas sifil o fri. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 5 Hyd 2024
- ↑ Papur Pawb, 18 Ionawr 1902 Mr C. Bryner Jones, M.R.A.S.E., F.H.A,S. Darlithydd Ar Amaethyddiaeth, Coleg Y Brifysgol, Bangor adalwyd 5 Hydref 2024
- ↑ Y Genedl Gymreig, 4 Gorffennaf 1893, Coleg y Gogledd, Bangor adalwyd 5 Hydref 2024
- ↑ The Montgomery County Times and Shropshire and Mid-Wales Advertiser 28 Hydref 1893 University College Of North Wales, Bangor. —Schoolmasters Class in Agriculture adalwyd 5 Hydref 2024
- ↑ Yr Wythnos a'r Eryr, 21 Ionawr 1903 Dyrchafiad i Gymro adalwyd 5 Hydref 2024
- ↑ Y Dydd, 10 Tachwedd 1905, Yma a Thraw adalwyd 5 Hydref 2024
- ↑ Y Cymro, 27 Medi 1906, Anrhydedd i Gymro adalwyd 5 Hydref 2024
- ↑ Evening Express, 26 Ionawr 1907 Welshman Appointed adalwyd 5 Hydref 2024
- ↑ "Jones, Sir Cadwaladr Bryner, (1872–10 Dec. 1954)". WHO'S WHO & WHO WAS WHO (yn Saesneg). doi:10.1093/ww/9780199540884.013.u239243. Cyrchwyd 2024-10-05.
- ↑ Ceredigion : cylchgrawn Cymdeithas Hynafiaethwyr Sir Aberteifi, Cyf 2, rhif 3, tud 124 adalwyd 5 Hydref 2024. Sir Cadwaladr Bryner Jones, C.B., C.B.E., M.Sc., LL.D., 1872-1954
- ↑ Carnarvon and Denbigh Herald and North and South Wales Independent 29 Mehefin 1900, Local and District News adalwyd 5 Hydref 2024
- ↑ The Daily Telegraph 11 Rhagfyr 1954 Obituary
- ↑ lizrees (2023-08-03). "Cyhoeddi enillydd Gwobr Goffa Syr Bryner Jones". Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru. Cyrchwyd 2024-10-06.