Cadfael

Oddi ar Wicipedia
Cadfael
Ganwyd1080 Edit this on Wikidata
Trefriw Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethmilwr, mynach, ditectif Edit this on Wikidata

Mae'r Brawd Cadfael (geni 1080) yn fynach Benedictiad ffuglennol Cymreig [1] sy'n byw yn Abaty Sant Pedr a Sant Paul, Amwythig. Cadfael yw'r prif gymeriad mewn cyfres o lyfrau (ac addasiad teledu) dirgelwch llofruddiaeth hanesyddol a ysgrifennwyd rhwng 1977 a 1994 gan Edith Pargeter o dan yr enw "Ellis Peters".[2] Mae'r straeon hanesyddol cywir wedi'u gosod rhwng tua 1135 a thua 1145, yn ystod "Yr anarchiaeth", yr ornest ddinistriol i gaffael coron Lloegr rhwng y Brenin Steffan a'r Ymerodres Maud.[3]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Cadfael ap Meilir ap Dafydd yn Nhrefriw, yn Nheyrnas Gwynedd [4] (Sir Conwy, bellach) roedd ei dad, yn daeog oedd yn gaeth i'r tir roedd yn ei drin o dan y system ffiwdal. Yn hytrach nag aros i etifeddu’r hawl i glirio darn o dir, gadawodd ei gartref yn bedair ar ddeg oed fel gwas i fasnachwr gwlân, ac felly daeth yn gyfarwydd â’r Amwythig yn gynnar yn ei fywyd.[5]

Gyrfa filwrol[golygu | golygu cod]

Ym 1096, ymunodd a'r Groesgad Gyntaf i'r Wlad Sanctaidd yn y llu a orchmynnwyd gan Robert II, Dug Normandi. Ar ôl diwedd y Groesgad, bu’n byw am sawl blwyddyn yn Syria a’r Wlad Sanctaidd, gan ennill bywoliaeth fel morwr, cyn dychwelyd i Gymru tua 1114. Wedi dychwelyd mae'n darganfod bod Richildis Vaughan, yr oedd wedi dyweddïo a hi, wedi blino aros ac wedi priodi Edward Gurney, crefftwr o'r Amwythig. Daeth Cadfael yn filwr troed yn rhyfel Harri I o Loegr i sicrhau’r undeb rhwng Lloegr â Normandi,[6] a dychwelodd i Loegr yng ngwasanaeth yr uchelwr, Roger Mauduit. Herwgipiodd Mauduit y Prior Heribert o Abaty Amwythig mewn ymgais i osgoi achos cyfreithiol. Rhyddhaodd Cadfael Heribert ac, ar ôl cael ei ryddhau o wasanaeth Mauduit, rhoddodd ei arfau o’r neilltu a bwrw ymlaen â Heribert i'r Abaty.[7]

Mynach[golygu | golygu cod]

Mae ei brofiad hir o'r ganrif yn gwneud iddo ddehongli rheol Sant Benned mewn ffordd eithaf personol. Mae hyn yn ennyn edmygedd, chwilfrydedd, ofn ac eiddigedd ymhlith ei frawd mynachod, ond hefyd, lawer o hyder yn ei wybodaeth a'i alluoedd. Enillodd hyn iddo, ymhlith pethau eraill, ddig rheolaidd Prior yr Abaty (a'i frawd cynorthwyol y Brawd Jerome), ond hefyd hyder llwyr y Tad Radulphe, a oedd yn aml yn rhoi'r hawl iddo fethu gwasanaethau crefyddol ar gyfer anghenion ymchwiliadau. Mae abad y fynachlog yn wir, fel y Brawd Cadfael ei hun, yn llawn ymdeimlad o gyfiawnder.

Ei brif gynghreiriaid yw Hugh Beringar, Siryf Swydd Amwythig, yn ogystal â'i gynorthwywyr amrywiol, sy'n newid dros gwrs y nofelau.

Ymchwiliadau[golygu | golygu cod]

Yn ystod ei dymor yn yr Abaty gelwir ar Cadfael i geisio datrys sawl llofruddiaeth a marwolaeth amheus. Mae'r rhain yn cael eu disgrifio mewn ugain nofel:

Nofel Cyhoeddwyd Gosodwyd
A Morbid Taste for Bones 1977 1137
One Corpse Too Many 1979 1138
Monk's Hood 1980 1138
Saint Peter's Fair 1981 1139
The Leper of Saint Giles 1981 1139
The Virgin in the Ice 1982 1139
The Sanctuary Sparrow 1983 1140
The Devil's Novice 1983 1140
Dead Man's Ransom 1984 1141
The Pilgrim of Hate 1984 1141
An Excellent Mystery 1985 1141
The Raven in the Foregate 1986 1141
The Rose Rent 1986 1142
The Hermit of Eyton Forest 1988 1142
The Confession of Brother Haluin 1988 1142
The Heretic's Apprentice 1990 1143
The Potter's Field 1990 1143
The Summer of the Danes 1991 1144
The Holy Thief 1992 1144
Brother Cadfael's Penance 1994 1145

Teulu[golygu | golygu cod]

Ar ei deithiau niferus cyn i'r croniclau agor, roedd gan Cadfael berthynas ag o leiaf tair merch: Bianca, merch o Fenis; Ariana, merch morwr o Wlad Roeg; a Mariam, gweddw ifanc o Syria, y bu’n byw gyda hi am nifer o flynyddoedd yn Antiochia. Trwy gwrs y straeon, daw i'r amlwg bod gan Mariam fab gan Cadfael, er mai dim ond ar ddamwain y daw i sylweddoli ei fod yn dad [8]. Ar ôl i Cadfael gymryd addunedau, mae ganddo hoffter agos at o leiaf dwy fenyw ifanc: Sioned, merch arglwydd o Gymru , a Godith Adeney [9]. Mae hefyd yn mwynhau perthynas platonig gyda'r lleian Benedictiad yr un mor fydol, y Chwaer Magdalen (Avice o Thornbury gynt) o'r lleiandy cyfagos yn Godric's Ford.[10] Mae ei gyn dyweddi Richildis, yn dod yn wraig weddw ac wedi ailbriodi, mae hi'n ail-ymddangos yn fyr yn ei fywyd [11].

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Herbert, Rosemary (2003). Whodunit? : a who's who in crime & mystery writing. New York: Oxford University Press. ISBN 0198035829. OCLC 252700230.
  2. "Introduction to Brother Cadfael". The Cadfael Chronicles. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-10-18. Cyrchwyd 2019-10-18.
  3. "Borderlands: Ellis Peters". www.martinedwardsbooks.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-12-04. Cyrchwyd 2019-10-18.
  4. Peters, Ellis (1994). Saint Peter's Fair. London: Warner Futura. ISBN 0751511048. OCLC 32274717.
  5. Peters, Ellis (2001). The summer of the Danes. London: Warner. ISBN 0751511188. OCLC 60295967.
  6. Green, Judith (2006). Henry I : King of England and Duke of Normandy. Cambridge: Cambridge University Press. ISBN 9780521591317. OCLC 61757059.
  7. Peters, Ellis (1989). A rare Benedictine. New York: Mysterious Press. ISBN 0892963972. OCLC 19515893.
  8. Peters, Ellis. The virgin in the ice. London. ISBN 9780751547177. OCLC 839688472.
  9. Peters, Ellis. One corpse too many. New York. ISBN 9781504001960. OCLC 896860488.
  10. Peters, Ellis. The leper of Saint Giles (arg. 2017). New York. ISBN 1504048458. OCLC 1011008689.
  11. Peters, Ellis (2010). Monk's-hood. London: Sphere. ISBN 9780751543773. OCLC 495597452.