Dead Man's Ransom
| Enghraifft o: | gwaith llenyddol |
|---|---|
| Awdur | Edith Pargeter |
| Cyhoeddwr | Macmillan Publishers |
| Gwlad | Cymru |
| Iaith | Saesneg |
| Dyddiad cyhoeddi | 1984 |
| Genre | ffuglen drosedd, ffuglen dirgelwch |
| Cyfres | The Cadfael Chronicles |
| Rhagflaenwyd gan | The Devil's Novice |
| Olynwyd gan | The Pilgrim of Hate |
| Cymeriadau | Cadfael |
| Lleoliad y gwaith | Amwythig |
| Dynodwyr | |
Nofel Saesneg gan Ellis Peters (ffugenw Edith Pargeter) yw Dead Man's Ransom ("Pridwerth y Marw") a gyhoeddwyd gyntaf yn 1984. Dyma'r nawfed nofel yn y gyfres am Cadfael, mynach Benedictiad ffuglennol Cymreig a fu’n byw yn ystod y cyfnod o anarchiaeth pan fu brwydro rhwng Stephen a Mathilda am orsedd Lloegr (1138 hyd 1153).
Ym mis Chwefror 1141 anfonir Cadfael i Gymru i drafod telerau rhyddhau Uchel Siryf Swydd Amwythig, Gilbert Prestcote, sydd wedi ei ddal gan gefnogwyr Cymreig yr Empress Ymerodres Matilda. Mae cytundeb i gyfnewid carcharorion a dygir Prescote, wedi ei glwyfo, yn ôl i Amwythig, ond fe'i canfyddir wedi ei lofruddio yn clafdy Abaty Amwythig. Yn y pen draw, mae Cadfael yn datgelu'r dirgelwch.
Cafodd y llyfr ei addasu ar gyfer teledu yn 1995.