An Excellent Mystery

Oddi ar Wicipedia
An Excellent Mystery
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurEdith Pargeter Edit this on Wikidata
CyhoeddwrMacmillan Publishers Edit this on Wikidata
GwladCymru Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1985 Edit this on Wikidata
Genreffuglen dirgelwch, nofel drosedd Edit this on Wikidata
CyfresThe Cadfael Chronicles Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganThe Pilgrim of Hate Edit this on Wikidata
Olynwyd ganThe Raven in the Foregate Edit this on Wikidata
CymeriadauCadfael Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithAmwythig Edit this on Wikidata

Nofel Saesneg gan Ellis Peters (ffugenw Edith Pargeter) yw An Excellent Mystery ("Dirgelwch Ardderchog") a gyhoeddwyd gyntaf yn 1985. Dyma'r unfed nofel ar ddeg yn y gyfres am Cadfael, mynach Benedictiad ffuglennol Cymreig a fu’n byw yn ystod y cyfnod o anarchiaeth pan fu brwydro rhwng Stephen a Mathilda am orsedd Lloegr (1138 hyd 1153).

Ym mis Awst 1141, ar ôl i abaty Benedictaidd yng Nghaerwynt gael ei ysbeilio gan dân yn ystod gwarchae yn y ddinas honno mae'r mynachod yn ffoi ar draws Lloegr i geisio lloches. Dau frawd o'r urdd yn cyrraedd Abaty Amwythig, lle mae Cadfael yn fynach. Roedd y Brawd Humilis yn farchog croesgadwr enwog cyn i glwyf bron yn angheuol arwain at ei ymddeoliad o'r byd seciwlar. Mae ei gydymaith, Brawd Fidelis, sy'n gofalu amdano, yn fud, ac yn geidwad llawer o gyfrinachau. Yn y diwedd mae Cadfael yn darganfod y gwir.

Yn wahanol i lyfrau eraill yn y gyfres, ni chafodd y llyfr hwn ei addasu ar gyfer teledu.

Y teitl[golygu | golygu cod]

Mae'r geiriau "an excellent mystery" yn y teitl yn dod o'r gwasanaeth priodasol yn Llyfr Gweddi Gyffredin: "Oh God, who hast consecrated the state of matrimony to such an excellent mystery … Look mercifully on these Thy servants." ("O Dduw, yr hwn a gyssegraist ystâd prïodas i gyfryw ragorol ddirgeledigaethau, … Edrych yn drugarog ar y rhai hyn dy wasanaeth-ddynion.")

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]