Nofel drosedd
Enghraifft o: | literary genre by form, math o nofel ![]() |
---|---|
Math | nofel, llenyddiaeth trosedd ![]() |
![]() |
Nofel am dor-cyfraith, fel rheol stori sydd yn dilyn hynt troseddwr neu'r ymdrech i'w ddatgelu a'i ddal, yw nofel drosedd. Hon yw un o brif ffurfiau llenyddol ffuglen drosedd. Mae hyd y nofel yn galluogi i'r awdur lunio plot sy'n fwy cymhleth na'r stori fer drosedd, a rhoi sylw i ddatblygu'r cymeriadau, cryfhau ing a chyffro'r stori, a chadw'r darllenydd ar bigau'r drain. Gall nofel drosedd hefyd gynnwys is-blotiau ac archwilio themâu megis natur ddynol, moesoldeb, a chyfiawnder.
Is-genres
[golygu | golygu cod]Nofel dditectif
[golygu | golygu cod]- Prif: Nofel dditectif
Ysgrifennwyd y nofelau ditectif cyntaf yn y 19g. Ysgrifennai Arthur Conan Doyle bedair nofel sy'n cynnwys y cymeriad Sherlock Holmes: A Study in Scarlet (1887), The Sign of the Four (1890), The Hound of the Baskervilles (1901–02), a The Valley of Fear (1914–15). Yn hanner cyntaf yr 20g datblygodd dau brif arddull o'r nofel dditectif: hardboiled, megis nofelau Dashiell Hammett a Raymond Chandler, a nofelau dirgelwch "cartrefol" megis cyfresi Miss Marple ac Hercule Poirot gan Agatha Christie.
Roman noir
[golygu | golygu cod]Mae'r roman noir yn pwysleisio bydolwg pesimistaidd, gan gynnwys cymeriadau moesol amwys, awyrgylch tywyll, ac anobaith. Mae enghreifftiau yn cynnwys The Postman Always Rings Twice (1934) a Double Indemnity (1936) gan James M. Cain.
Nofel lys
[golygu | golygu cod]Mae'r nofel lys yn dilyn cyfreithwyr, erlynwyr, ac ati wrth iddynt geisio datrys trosedd a chael y troseddwr yn euog. Mae drama yn yr ystafell lys yn elfen gyffredin o'r fath nofel. Un o lenorion toreithiocaf yr is-genre hon yw John Grisham.
Nofel gyffro drosedd
[golygu | golygu cod]Mae'r nofel gyffro drosedd yn llawn pryder a pheryg, ac yn aml yn dilyn ditectif neu arwr tebyg wrth iddo geisio atal troseddwr rhag cyflawni rhagor o droseddau. Mae enghreifftiau yn cynnwys Red Dragon (1981) a The Silence of the Lambs (1988) gan Thomas Harris, a'r gyfres Millennium gan Stieg Larsson.
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- Tony Hilfer, The Crime Novel: A Deviant Genre (Austin, Texas: University of Texas Press, 1990).
- Peter Messent (gol.), Criminal Proceedings: The Contemporary American Crime Novel (Chicago: Pluto Press, 1997).
- Andrew Pepper, The Contemporary American Crime Novel: Race, Ethnicity, Gender, Class (Caeredin: Edinburgh University Press, 2000).