The Leper of Saint Giles
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Edith Pargeter |
Cyhoeddwr | Macmillan Publishers |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | Mai 1981 |
Genre | ffuglen dirgelwch, nofel drosedd |
Cyfres | The Cadfael Chronicles |
Rhagflaenwyd gan | Saint Peter's Fair |
Olynwyd gan | The Virgin in the Ice |
Cymeriadau | Cadfael |
Lleoliad y gwaith | Amwythig |
Nofel Saesneg gan Ellis Peters (ffugenw Edith Pargeter) yw The Leper of Saint Giles ("Y Gwahanglaf o Sant Giles") a gyhoeddwyd gyntaf yn 1981. Dyma'r bumed nofel yn y gyfres am Cadfael, mynach Benedictiad ffuglennol Cymreig a fu’n byw yn ystod y cyfnod o anarchiaeth pan fu brwydro rhwng Stephen a Mathilda am orsedd Lloegr (1138 hyd 1153).
Mae'r stori yn digwydd dros gyfnod o bedwar diwrnod ym mis Hydref 1139. Mae dau deulu o dirfeddianwyr yn trefnu priodas rhwng barwn hŷn a gwraig ifanc sy’n caru rhywun arall. Nid yw'r priodfab yn cyrraedd yr allor. Cadfael sy'n gyfrifol am ddod o hyd i'w lofrudd, tra bod y prif ddrwgdybiedig o'r siryf yn cuddio yn y tŷ am wahangleifion.
Cafodd y llyfr ei addasu ar gyfer teledu yn 1994.