Neidio i'r cynnwys

Bwlch Llyn Bach

Oddi ar Wicipedia
Bwlch Llyn Bach
Mathbwlch Edit this on Wikidata
LL-Q9309 (cym)-Robat (Jason.nlw)-Bwlch Llyn Bach (Q20595787).wav Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.696347°N 3.86029°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH743125 Edit this on Wikidata
Map

Lleolir Bwlch Llyn Bach yn ne Meirionnydd, Gwynedd. Mae'r bwlch mynydd adnabyddus hwn yn gorwedd rhwng cadwyn Cadair Idris i'r gorllewin a Mynydd Ceiswyn a'i gymdogion i'r dwyrain. Llyn y Tri Greyenyn yw'r 'llyn bach' yn yr enw. Fe'i gelwir weithiau yn Bwlch Tal-y-Llyn hefyd, ar ôl pentref Tal-y-llyn.

Bwlch Llyn Bach o gyfeiriad Minffordd

Disgrifiad

[golygu | golygu cod]

Mae'r briffordd A487 yn croesi'r bwlch. Gan ei disgrifio o'r de i'r gogledd, mae'n dringo o bentref bychan Minffordd lle ceir cyffordd y B4405 sy'n arwain i lan Llyn Mwyngil ('Llyn Tal-y-llyn') a phentref Tal-y-llyn. Llifa afon Fawnog ar y chwith trwy goedwig Ystâd Idris. Mae'n dringo'n serth dan greigiau ysgithrog Craig y Llam i ben y bwlch (286 metr). Ar yr ochr arall mae'r ffordd yn disgyn yn araf trwy dirwedd mawnog, anial i lawr i gyfeiriad Dolgellau a heibio i dafarn enwog Y Llwynogod Croesion (Crossfoxes). Ers canrifoedd mae'r dafarn honno wedi croesawu teithwyr ac mae ymhlith yr uchaf a'r unigaf yng Nghymru. Mae llwybr i ben Cadair Idris yn dechrau ychydig yn uwch i fyny o'r dafarn. Ychydig ar ôl mynd heibio i'r Llwynogod Croesion mae'n ymuno â'r A470, y lôn sy'n croesi Bwlch Oerddrws gan gysylltu Dolgellau a Dinas Mawddwy.

Bu sawl llithriad cerrig ar ran ganol y ffordd rhwng Minffordd a phen y bwlch yn y gorffennol a byddai'n rhaid cau'r ffordd ar adegau oherwydd hynny. Mae'r bwlch yn gyfarwydd i deithwyr ar y gwasanaeth bws Traws-Cambria, sy'n cysylltu Caerdydd a Bangor.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]