Llyn Mwyngil

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Tal-y-llyn)
Jump to navigation Jump to search
Llyn Mwyngil
Tal y llyn lake.jpg
Math Llyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Gwynedd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.6725°N 3.8974°W Edit this on Wikidata

Llyn yng Ngwynedd yw Llyn Mwyngil. Fe'i gelwir weithiau yn Llyn Tal-y-llyn ar sail enw'r plwyf a'r anheddiad sydd nesaf at y llyn (er bod y rheini, wrth gwrs, wedi eu henwi ar ôl y llyn yntau). Mae ffurfiau amgen yn y Gymraeg yn cynnwys Llyn Myngul.[1] Mae'n debyg fod Myngul yn tarddu o mŵn ('gwddf') a cul.[2]

Lleolir y llyn wrth droed llethrau deheuol Cadair Idris ym Meirionnydd ac mae Afon Dysynni yn llifo trwy'r llyn. Roedd yn rhan o gwmwd Ystumanner yn yr Oesoedd Canol. Mae'r ffordd B4405 yn mynd heibio glan ddeheuol y llyn, heb fod ymhell o'i chyffordd gyda'r briffordd A487; gellir gweld y llyn o'r A487. Ar lan ogleddol y llyn, mae llwybr cyhoeddus ac hen reithordy (gwesty'n awr).

Mae pentref bychan Tal-y-llyn ar ochr dde-orllewinol y llyn wedi rhoi ei enw i'r plwyf ac i Reilffordd Talyllyn, er mai dim ond i Abergynolwyn y mae'r rheilffordd yn cyrraedd. Ceir pysgota da am frithyll yn y llyn.

Pysgota[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Dyddiadur C.E.M. Edwards, Dolserau, Dolgellau yn cyflwyno arferion pysgota un o fân foneddigion Meirionedd ynghanol Oes Fictoria rhwng 1871 a 1883. Ar 24 o ymweliadau ym mis Awst (y mis y bu’n pysgota amlaf) fe ddaliodd 208 o frithyll (8.7 brithyll i bob ymweliad).

Pysgodyn oedd yn nodedig am ei absenoldeb yn y llyn yn nyddlyfrau helaeth Edwards oedd y sewin neu frithyll môr. Bu’n pysgota’n helaeth ac yn llwyddiannus am sewin yn afonydd ei ardal[4] ond unwaith yn unig y daliodd sewin yn Llyn Mwyngil (yr hwn a alwodd yn ddieithriad yn “Talyllyn”.

7 Awst 1882: I caught a very nice Sea trout, the first time I have ever captured one in Talyllyn, but there are a good many in the Lake now, as well as salmon – owing no doubt to the late heavy rains. We let [sic] about 6; and got home in time for tea dinner at eight. Talyllyn. Trout 10 Sea trout 1. (1lb 1oz)[3]

Roedd Munro Edwards yn bysgotwr profiadol ac yn dal sewinod yn rheolaidd yn afonydd ardal Dolgellau o’r 1860au ymlaen. Diddorol felly yw’r sylw yma ganddo o ddal sewin am y tro cyntaf yn Llyn Mwyngil yn 1882 (ac erioed wedyn gyda llaw)[4]

Mae hynny’n rhyfedd gan i bysgotwyr ganrif yn ddiweddarach[5] gofnodi dal sewin yn y llyn yn aml iawn.[6] (Gweler sampl o’r Cofnodion yma[5]) ar wefan Llên Natur.


Bywyd Gwyllt[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu Talyllyn yn gyrchfan i garwyr natur erioed. Dyma gofnod gan yr adarydd EHT Bible o Aberdyfi:

  • Ionawr 8, 1929 “... My wife tells me of Goldeneye ducks, Pochards and Dabchicks and “heaps” of Coot and Sheld-duck at Talyllyn Lake (I must make a pilgrimage there)”[7].
  • ”Dwi’n cofio 150+ [hwyaid brongoch] ar Lyn Mwngwl (Talyllyn) pob gaeaf. Llond llaw yna y dyddiau yma, os hynny. Mae niferoedd hwyaid bengoch sy’n gaeafu ym Mhrydain wedi gostwng yn aruthrol dros y 25 mlynedd diwethaf. Un rheswm ydi bod dim rhaid iddyn nhw ddod ar draws o’r cyfandir mwyach gan fod y tymheredd yn codi a does dim rhaid dianc o’r gaeafau caled a fu”.[8]

Eglwys y Santes Fair[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Eglwys y Santes Fair, Llyn Mwyngil

Un o'r ychydig adeiladau, ar wahân i'r gwesty, yng nghalon y pentref yw Eglwys y Santes Fair, sy'n dyddio i ganrif 12, gydag olion cynharach. Mae'r eglwys wedi'i chynllunio'n debyg iawn i eglwys gyfagos arall, sef Eglwys Sant Mihangel a leolir yng nghanol pentref bychan Llanfihangel-y-pennant. Oherwydd ei nodweddion hynafol, fe'i cofrestrwyd gan Cadw ar 17 Mehefin 1966 (rhif cofrestriad 4762) yn Gradd II*.[9] Mae'n bosib bod rhai o'r waliau wedi'u codi yng nghanrif 6 neu 7.

Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]

panorama

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Atlas Meirionnydd (Y Bala, 1975).
  2. Melville Richards, 'The Names of Welsh Lakes', yn D. P. Blok (gol.), Proceedings of the Eighth International Congress of Onomastic Studies (The Hague & Paris: Mouton & Co., 1976), t. 410.
  3. Dyddiadur Hela CEM Edwards, Archifdy Gwynedd, Dolgellau
  4. Bwletin Llên Natur rhifyn 108[1]
  5. Llyfr Pysgotwyr Gwesty Tyn y Cornel [sic.]
  6. Bwletin Llên Natur rhifyn 96 (tudalen 2)[2]
  7. Dyddiadur EHT Bible, Llyf. Gen. Cym. [Acc. No. A1998/137]
  8. Iolo Williams ar Cymuned Llên Natur[3]
  9. britishlistedbuildings.co.uk; adalwyd 12 Mai 2016.
CymruMon.png Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato