Fitamin C

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Asid ascorbig)
Fitamin C
Enghraifft o'r canlynolmath o endid cemegol Edit this on Wikidata
Mathtetronic acid, Asid ascorbig Edit this on Wikidata
Màs176.124 uned Dalton Edit this on Wikidata
Fformiwla gemegolC₆h₈o₆ edit this on wikidata
Enw WHOAscorbic acid edit this on wikidata
Rhan oresponse to L-ascorbic acid, L-ascorbic acid biosynthetic process Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Un o'r ffynonellau gorau o fitamin C: orenau? Ewch i'r tabl isod i weld!

Fitamin a geir mewn bwyd a ddefnyddir fel atodiad dietegol yw Fitamin C, a elwir hefyd yn asid ascorbig ac L-ascorbig. Mae clefri poeth yn cael ei atal a'i drin gyda bwydydd sy'n cynnwys fitamin C neu atchwanegiadau dietegol. Nid yw'r dystiolaeth yn cefnogi defnyddio yn y boblogaeth gyffredinol ar gyfer atal annwyd.[1][2] Fodd bynnag, mae yna rywfaint o dystiolaeth y gallai defnydd rheolaidd leihau annwyd.[3] Nid yw'n glir os yw atodiad yn effeithio ar y risg o ganser, clefyd cardiofasgwlaidd neu ddementia.[4][5] Gellir ei gymryd trwy'r geg neu drwy chwistrelliad.

Yn gyffredinol, mae fitamin C yn cael ei oddef yn dda. Gall dosau mawr achosi anghysur gastroberfeddol, cur pen, trafferth yn cysgu, a fflysio'r croen. Mae dosau arferol yn ddiogel yn ystod beichiogrwydd.[6] Mae Sefydliad Meddygaeth yr Unol Daleithiau yn argymell peidio cymryd dosau mawr.[7]

Mae fitamin C yn faetholiad hanfodol sy'n gysylltiedig â thrwsio meinwe a chynhyrchu enzymatig o rai niwro-drosglwyddyddion. Mae'n ofynnol ar gyfer gweithredu nifer o ensymau ac mae'n bwysig ar gyfer swyddogaeth system imiwnedd.[8] Mae hefyd yn gweithredu fel gwrthocsidydd. Mae bwydydd sy'n cynnwys fitamin C yn cynnwys ffrwythau sitrws, brocoli, sbrowts, pupur coch amrwd a mefus.  Gall storio neu goginio'r bwydydd yma yn lleihau cynnwys fitamin C sydd ynddynt.

Darganfuwyd fitamin C yn 1912, ynyswyd yn 1928, ac yn 1933 cafodd y fitamin gyntaf i'w gynhyrchu'n gemegol.    Mae Fitamin C ar restr o Feddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, fel y meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen yn y system iechyd.[9] Mae fitamin C ar gael fel meddyginiaeth generig a chyffur dros y cownter. Yn 2015, roedd y gost gyfanwerthol yn y byd yn datblygu yn llai na US $ 0.01 y dabled.[10]  Yn rhannol am ei ddarganfyddiad, enillodd Albert Szent-Györgyi a Walter Norman Haworth Gwobrau Nobel 1937 mewn Ffisioleg, Meddygaeth a Chemeg, yn y drefn honno. [11][12]

Ffynhonnell fitamin C[golygu | golygu cod]

Planhigion[golygu | golygu cod]

Cymerwch 100 gram o'r llysiau a'r ffrwythau canlynol, ac fe welwch yn y tabl faint o fitamin C sy'n bresennol ynddynt.

Ffynhonnell Faint / Swm
(mg / 100g)
Plwm Kakadu 3100
Camu Camu 2800
Bochgoch 2000
Acerola 1600
Seabuckthorn 695
Jujube 500
Indian gooseberry 445
Baobab 400
Cwraints duon 200
Pupur Coch 190
Persli 130
Gwafa 100
Ffrwyth Ciwi 90
Brocoli 90
Loganberry 80
Cwraints cochion 80
Ysgawell 80
Wolfberry (Goji) 73 †
Lychee 70
Cloudberry 60
Ysgawen 60
Persimmon 60
Papaya 60
Mefus 60
Orenau 50
Lemon 40
Melon, cantaloupe 40
Blodfresych 40
Garlleg 31

Cig anifeiliaid[golygu | golygu cod]

'Oes gafr eto?' Oes, yn llawn fitamin C! Fel pob anifail arall (heblaw dyn), mae'r afr yn medru creu fitamin C o fewn ei chorff ei hun: dros 13,000 mg ohono y dydd.

Gallwn gael ein fitamin C hefyd o gig, yn enwedig iau. Does na fawr ohono mewn cyhyr fodd bynnag. Cymerwch 100 gram o'r cigoedd canlynol, ac fe welwch yn y tabl faint o fitamin C sy'n bresennol ynddynt:

Ffynhonnell Faint / swm
(mg / 100g)
Iau llo bach (amrwd) 36
Iau eidion (amrwd) 31
Wystrys (amrwd) 30
Wyau Penfras ('roe') (wedi'u ffrio) 26
Iau Porc (amrwd) 23
Ymennydd cig oen (wedi'i ferwi) 17
Iau cyw iâr (wedi'i ffrio) 13
Ffynonell Faint / swm
(mg / 100g)
Iau cig oen (wedi'i ffrio) 12
Calon oen (wedi'i rostio) 11
Tafod oen (wedi'i ferwi) 6
Llaeth dynol (ffresh) 4
Llaeth gafr (ffresh) 2
Llaeth buwch (ffresh) 2

Darganfod fitamin C[golygu | golygu cod]

Roedd tîm o Hwngari rhwng 1928 ac 1933 wrthi fel lladd nadroedd yn ceisio profi bodolaeth asid ascorbic, dan arweiniad Joseph L Svirbely ac Albert Szent-Györgyi. Yn 1937 derbyniodd y ddau wobr Nobel mewn meddygaeth am eu gwaith.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Fact Sheet for Health Professionals - Vitamin C". Office of Dietary Supplements, US National Institutes of Health. February 11, 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Gorffennaf 2017.
  2. WHO Model Formulary 2008 (PDF). World Health Organization. 2009. t. 496. ISBN 9789241547659. Cyrchwyd 8 Rhagfyr 2016.Check date values in: |access-date= (help)
  3. "Vitamin C for preventing and treating the common cold". The Cochrane Database of Systematic Reviews (1): CD000980. Ionawr 2013. doi:10.1002/14651858.CD000980.pub4. PMID 23440782.
  4. "Effect of antioxidant vitamin supplementation on cardiovascular outcomes: a meta-analysis of randomized controlled trials". PLOS One 8 (2): e56803. 2013. Bibcode 2013PLoSO...856803Y. doi:10.1371/journal.pone.0056803. PMC 3577664. PMID 23437244. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3577664.
  5. "Vitamin C: Promises Not Kept". Obstetrical & Gynecological Survey 71 (3): 187–93. March 2016. doi:10.1097/OGX.0000000000000289. PMID 26987583.
  6. "Ascorbic acid Use During Pregnancy | Drugs.com". www.drugs.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 Rhagfyr 2016. Cyrchwyd 30 Rhagfyr 2016.
  7. Institute of Medicine (2000). "Vitamin C". Dietary Reference Intakes for Vitamin C, Vitamin E, Selenium, and Carotenoids. Washington, D.C.: The National Academies Press. tt. 95–185. ISBN 0-309-06935-1. Cyrchwyd 1 Medi 2017.Check date values in: |access-date= (help)
  8. "Vitamin C". Micronutrient Information Center, Linus Pauling Institute, Oregon State University, Corvallis, OR. 14 Ionawr 2014. Cyrchwyd 22 Mawrth 2017.
  9. "WHO Model List of Essential Medicines (19th List)" (PDF). World Health Organization. April 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 13 Rhagfyr 2016. Cyrchwyd December 8, 2016.
  10. "International Drug Price Indicator Guide. Vitamin C: Supplier Prices". Management Sciences for Health, Arlington, VA. 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Mawrth 2017. Cyrchwyd 22 Mawrth 2017.
  11. "The Nobel Prize in Physiology or Medicine 1937". Nobel Media AB. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Tachwedd 2014. Cyrchwyd 20 Tachwedd 2014.
  12. "Nobel Prize 1937 to Albert von Szent-Györgyi: identification of vitamin C as the anti-scorbutic factor". Acta Paediatrica 98 (5): 915–9. Mai 2009. doi:10.1111/j.1651-2227.2009.01239.x. PMID 19239412. https://archive.org/details/sim_acta-paediatrica_2009-05_98_5/page/915.