Fitamin C

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Asid Ascorbig)
Jump to navigation Jump to search
Fitamin C
Ambersweet oranges.jpg
L-Ascorbic acid.svg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynol Cyfansoddyn cemegol, cyffur meddygol Edit this on Wikidata
Fformiwla gemegol C₆h₈o₆ edit this on wikidata
Dynodwyr
SMILES Oc[c@h](o)[c@h]1oc(=o)c(=c1o)o edit this on wikidata
Thesawrws NCI C285 edit this on wikidata
CAS 50-81-7 edit this on wikidata
PubChem CID 54670067 edit this on wikidata
ChEBI 29073 edit this on wikidata
InChI 1S/c6h8o6/c7-1-2(8)5-3(9)4(10)6(11)12-5/h2,5,7-10h,1h2/t2-,5+/m0/s1 edit this on wikidata
ChEMBL Chembl196 edit this on wikidata
ChemSpider 10189562 edit this on wikidata
UNII Pq6ck8pd0r edit this on wikidata
ATC G01ad03, s01xa15 edit this on wikidata
KEGG C00072 edit this on wikidata
MeSH M0001797 edit this on wikidata
Llawlyfr Ligand 4532 edit this on wikidata
Rhif EC 200-066-2 edit this on wikidata
Drugbank 00126 edit this on wikidata
ECHA 100.000.061 edit this on wikidata
RxNorm CUI 1151 edit this on wikidata
NDF-RT N0000146025, n0000145859 edit this on wikidata
Arall
Commons page Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Un o'r ffynonellau gorau o fitamin C: orenau? Ewch i'r tabl isod i weld!

Fitamin C, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel asid ascorbic a L-ascorbig, mae'n fitamin sy'n cael ei ddarganfod mewn bwyd ac yn cael ei ddefnyddio fel atodiad dietegol. Mae clefyd y sgyrfi yn cael ei atal a'i drin gyda bwydydd sy'n cynnwys fitamin C neu atchwanegiadau dietegol. Nid yw'r dystiolaeth yn cefnogi defnyddio yn y boblogaeth gyffredinol ar gyfer atal annwyd.[1][2] Fodd bynnag, mae yna rywfaint o dystiolaeth y gallai defnydd rheolaidd leihau annwyd.[3] Nid yw'n glir os yw atodiad yn effeithio ar y risg o ganser, clefyd cardiofasgwlaidd neu ddementia.[4][5] Gellir ei gymryd trwy'r geg neu drwy chwistrelliad.

Yn gyffredinol, mae fitamin C yn cael ei oddef yn dda. Gall dosau mawr achosi anghysur gastroberfeddol, cur pen, trafferth yn cysgu, a fflysio'r croen. Mae dosau arferol yn ddiogel yn ystod beichiogrwydd.[6] Mae Sefydliad Meddygaeth yr Unol Daleithiau yn argymell peidio cymryd dosau mawr.[7]


Mae fitamin C yn faetholiad hanfodol sy'n gysylltiedig â thrwsio meinwe a chynhyrchu enzymatig o rai niwro-drosglwyddyddion. Mae'n ofynnol ar gyfer gweithredu nifer o ensymau ac mae'n bwysig ar gyfer swyddogaeth system imiwnedd.[8] Mae hefyd yn gweithredu fel gwrthocsidydd. Mae bwydydd sy'n cynnwys fitamin C yn cynnwys ffrwythau sitrws, brocoli, sbrowts, pupur coch amrwd a mefus.  Gall storio neu goginio'r bwydydd yma yn lleihau cynnwys fitamin C sydd ynddynt.

Darganfuwyd fitamin C yn 1912, ynyswyd yn 1928, ac yn 1933 cafodd y fitamin gyntaf i'w gynhyrchu'n gemegol.    Mae Fitamin C ar restr o Feddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, fel y meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen yn y system iechyd.[9] Mae fitamin C ar gael fel meddyginiaeth generig a chyffur dros y cownter. Yn 2015, roedd y gost gyfanwerthol yn y byd yn datblygu yn llai na US $ 0.01 y dabled.[10]  Yn rhannol am ei ddarganfyddiad, enillodd Albert Szent-Györgyi a Walter Norman Haworth Gwobrau Nobel 1937 mewn Ffisioleg, Meddygaeth a Chemeg, yn y drefn honno. [11][12]


Ffynhonnell fitamin C[golygu | golygu cod y dudalen]

Planhigion[golygu | golygu cod y dudalen]

Cymerwch 100 gram o'r llysiau a'r ffrwythau canlynol, ac fe welwch yn y tabl faint o fitamin C sy'n bresennol ynddynt.

Ffynhonnell Faint / Swm
(mg / 100g)
Plwm Kakadu 3100
Camu Camu 2800
Bochgoch 2000
Acerola 1600
Seabuckthorn 695
Jujube 500
Indian gooseberry 445
Baobab 400
Cwraints duon 200
Pupur Coch 190
Persli 130
Gwafa 100
Ffrwyth Ciwi 90
Brocoli 90
Loganberry 80
Cwraints cochion 80
Ysgawell 80
Wolfberry (Goji) 73 †
Lychee 70
Cloudberry 60
Ysgawen 60
Persimmon 60
Papaya 60
Mefus 60
Orenau 50
Lemon 40
Melon, cantaloupe 40
Blodfresych 40
Garlleg 31

Cig anifeiliaid[golygu | golygu cod y dudalen]

'Oes gafr eto?' Oes, yn llawn fitamin C! Fel pob anifail arall (heblaw dyn), mae'r afr yn medru creu fitamin C o fewn ei chorff ei hun: dros 13,000 mg ohono y dydd.

Gallwn gael ein fitamin C hefyd o gig, yn enwedig iau. Does na fawr ohono mewn cyhyr fodd bynnag. Cymerwch 100 gram o'r cigoedd canlynol, ac fe welwch yn y tabl faint o fitamin C sy'n bresennol ynddynt:

Ffynhonnell Faint / swm
(mg / 100g)
Iau llo bach (amrwd) 36
Iau eidion (amrwd) 31
Wystrys (amrwd) 30
Wyau Penfras ('roe') (wedi'u ffrio) 26
Iau Porc (amrwd) 23
Ymennydd cig oen (wedi'i ferwi) 17
Iau cyw iâr (wedi'i ffrio) 13
Ffynonell Faint / swm
(mg / 100g)
Iau cig oen (wedi'i ffrio) 12
Calon oen (wedi'i rostio) 11
Tafod oen (wedi'i ferwi) 6
Llaeth dynol (ffresh) 4
Llaeth gafr (ffresh) 2
Llaeth buwch (ffresh) 2

Darganfod fitamin C[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd tîm o Hwngari rhwng 1928 ac 1933 wrthi fel lladd nadroedd yn ceisio profi bodolaeth asid ascorbic, dan arweiniad Joseph L Svirbely ac Albert Szent-Györgyi. Yn 1937 derbyniodd y ddau wobr Nobel mewn meddygaeth am eu gwaith.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Fact Sheet for Health Professionals - Vitamin C". Office of Dietary Supplements, US National Institutes of Health. February 11, 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar July 30, 2017. https://ods.od.nih.gov/factsheets/VitaminC-HealthProfessional/.
  2. WHO Model Formulary 2008 (PDF). World Health Organization. 2009. p. 496. ISBN 9789241547659. Adalwyd December 8, 2016.  Check date values in: |access-date= (help)Check date values in: |access-date= (help)
  3. "Vitamin C for preventing and treating the common cold". The Cochrane Database of Systematic Reviews (1): CD000980. January 2013. doi:10.1002/14651858.CD000980.pub4. PMID 23440782.
  4. "Effect of antioxidant vitamin supplementation on cardiovascular outcomes: a meta-analysis of randomized controlled trials". PLOS One 8 (2): e56803. 2013. Bibcode 2013PLoSO...856803Y. doi:10.1371/journal.pone.0056803. PMC 3577664. PMID 23437244. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3577664.
  5. "Vitamin C: Promises Not Kept". Obstetrical & Gynecological Survey 71 (3): 187–93. March 2016. doi:10.1097/OGX.0000000000000289. PMID 26987583.
  6. "Ascorbic acid Use During Pregnancy | Drugs.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar December 31, 2016. https://www.drugs.com/pregnancy/ascorbic-acid.html.
  7. Institute of Medicine (2000). "Vitamin C". Dietary Reference Intakes for Vitamin C, Vitamin E, Selenium, and Carotenoids. Washington, D.C.: The National Academies Press. pp. 95–185. ISBN 0-309-06935-1. Adalwyd September 1, 2017.  Check date values in: |access-date= (help)Check date values in: |access-date= (help)
  8. "Vitamin C". Micronutrient Information Center, Linus Pauling Institute, Oregon State University, Corvallis, OR. January 14, 2014. http://lpi.oregonstate.edu/mic/vitamins/vitamin-C.
  9. "WHO Model List of Essential Medicines (19th List)". April 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar December 13, 2016. http://www.who.int/medicines/publications/essentialmedicines/EML_2015_FINAL_amended_NOV2015.pdf?ua=1.
  10. "International Drug Price Indicator Guide. Vitamin C: Supplier Prices". Management Sciences for Health, Arlington, VA. 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar March 23, 2017. http://mshpriceguide.org/en/single-drug-information/?DMFId=830&searchYear=2015.
  11. "The Nobel Prize in Physiology or Medicine 1937". Nobel Media AB. Archifwyd o'r gwreiddiol ar November 5, 2014. https://www.nobelprize.org/nobel_prizes/medicine/laureates/1937.
  12. "Nobel Prize 1937 to Albert von Szent-Györgyi: identification of vitamin C as the anti-scorbutic factor". Acta Paediatrica 98 (5): 915–9. May 2009. doi:10.1111/j.1651-2227.2009.01239.x. PMID 19239412.