Arthfael

Oddi ar Wicipedia
Arthfael
Ganwyd482 Edit this on Wikidata
Teyrnas Morgannwg Edit this on Wikidata
Bu farw570 Edit this on Wikidata
Ploermael Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcrefyddwr Edit this on Wikidata
Swyddabad Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl16 Awst Edit this on Wikidata
TadHywel fab Emyr Llydaw Edit this on Wikidata

Sant a thywosog Llydewig o 5 a 6g oedd Arthfael (Llydaweg: Arzhel, Armael ac Armel; Lladin: Armagilus) a anwyd ym Morgannwg.[1] Defnyddir y ffurfiau benywaidd 'Arzela' ag 'Armelle' yn enwau ar ferched Llydewig. Sefydlodd Arthfael nifer o eglwysi yn Llydaw, gan gynnwys Plouharnel ('plwy' + 'Armel'; Llydaweg: Sant-Armael-ar-Gilli), Il-ha-Gwilen, lle'i claddwyd a lle bu Harri Tudur a'i ewyrth Siasbar yn addoli yn ystod eu cyfnod ar ffo yn Llydaw. Mae ei ddiwrnod gŵyl ar 16 Awst.

Rhieni[golygu | golygu cod]

Yn ôl y Historia Regum Britanniae, fe'i ganed ym Morgannwg, yn fab i Hywel fab Emyr Llydaw, un o gydymdeithion pennaf Arthur yn ôl traddodiadau cynnar Cymru ac a oedd yn fab i Emyr Llydaw, brenin Llydaw. Dan ei enw Lladin 'Hoel' cafodd Hywel fab Emyr Llydaw ei gysylltu â'r fersiynau diweddarach o chwedl Trystan ac Esyllt gan feirdd Ffrengig ac Eingl-Normanaidd fel Béroul a Thomas o Brydain. Yn eu gwaith portreadir Hywel/Hoel fel Dug Llydaw a thad Esyllt (Iseult), gwraig Trystan (Tristan neu Tristram). Ni wyddys pwy oedd ei fam. Yn ôl traddodiad cynnar arall, Buddig; c. 460 – c. 550), brenin Llydaw oedd tad Arthfael. Mae'n bosib ei fod yn gefnder i Sant Cadfan.[1]

Chwedl y Ddraig[golygu | golygu cod]

Ceir chwedl iddo godi mynachdy yn y 6g, wedi iddo drechu draig yn yr ardal. Dywedir iddo ei dal a'i glymu gyda'i ddillad, cyn gorchymyn i'r ddraig foddi ei hun yn yr afon gyfagos ym Mont-Saint-Armel. Gwelir ef, gan rai, fel y gŵr a achubodd Llydaw rhag ei gelyn.[2]

Harri Tudur[golygu | golygu cod]

Yn Nhachwedd 1483, yn dilyn buddugoliaeth Edward IV dros y Lancastriaid ym Mrwydr Tewkesbury, ffodd Siasbar a Harri Tudur i Ffrainc am eu bywydau, ond chwythodd y gwynt eu llong i Le Conquet, Penn-ar-Bed (Finistere), Llydaw lle croesawyd y ddau gan Francis II, Dug Llydaw a chawsant eu cadw yn Château de l'Hermine i ddechrau cyn eu trosglwyddo i Château de Suscinio, Morbihan, yn Hydref 1472. Credodd Harri iddynt gael eu hachub gan sant Arthfael (Sant Arfel yn Llydaweg), sant a oedd a'i eglwys (yn Plouharnel) bum milltir o Josselin lle cynhaliwyd Jasper yn 'garcharor' yn 1474. Yn ôl traddodiad lleol, bu'r ddau Gymro yma lawer o weithiau yn gweddio ar Sant Arthfael.[3] Mae'n bosib fod Harri yn gweld ef ei hun yn y sant: ganwyd Arthfael yng Nghymru gan ffoi i Lydaw, felly hefyd Harri. Yn y cyfnod hwn, roedd llawer o greiriau (neu arteffactau) a oedd yn perthyn i'r sant yn Eglwys Plouharnel. Yn dilyn Brwydr Maes Bosworth, gorchmynodd i ddau gerflyn o'r sant gael eu llunio a'u gosod yn Abaty Westminster, Llundain, ac mae'r ddau'n dangos Arthfael barfog gyda draig ger ei draed. Yn ei law dde ceir maneg o fael (cofier yr enw!) Un o'r bobl a gynorthwyodd Harri yn ystod ei alltudiaeth yn Llydaw a Ffrainc oedd John Morton, a gwelir cerflun o Arthfael hefyd yn ei gofeb ef. Deunaw mlynedd wedi Bosworth dychwelodd Harri, yn frenin coronog, i'r eglwys hon, cymaint o arwr iddo oedd Arthfael. Comisiynodd Harri ffenestr liw ar gyfer y capel lle y cyfarfu'r Stanleys y noson cyn Brwydr Maes Bosworth, sef Eglwys Merevale, ac yn y ffenestr, yn y mur deheuol, ceir darlun o Arthfael, gyda'i wisg eglwysig, mynachaidd ar agor, ac oddi tano - gwisg o fael. Mae'n cario Beibl a sach, ac yn y sach ceir draig. Mae'n bosib i Harri gomisiynu'n darlun hwn gan ei fod yn credu i Sant Arthfael ei gynorthwyo i drechu'r gelyn ym Mrwydr Maes Bosworth. Dylid nodi hefyd mai enw mab hynaf ei fab Harri VIII oedd 'Arthur' ac enw ei fab llwyn-a-pherth oedd Filfel.[4]

Eglwysi[golygu | golygu cod]

Cymuned Eglwys Cyfesurynnau Map
Plouarzhel, Penn-ar-Bed 48°26′N 4°44′W / 48.43°N 4.73°W / 48.43; -4.73 (Plouarzhel)
Plouarzhel
Plouarzhel
Plouharnel, Mor-Bihan 47°35′N 3°07′W / 47.59°N 3.11°W / 47.59; -3.11 (Plouharnel)
Plouharnel
Plouharnel
Sant-Armael, Mor-Bihan 47°34′23″N 2°42′32″W / 47.573°N 2.709°W / 47.573; -2.709 (Sant-Armael, Mor-Bihan)
Sant-Armael
Sant-Armael
Sant-Armael-ar-Gilli, Il-ha-Gwilen (Breizh-Uhel) 48°00′40″N 1°35′24″W / 48.011°N 1.590°W / 48.011; -1.590 (Sant-Armael-ar-Gilli)
Sant-Armael-ar-Gilli
Sant-Armael-ar-Gilli

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

  • Rhys Ap Arthfael, Brenin Glywysing a Gwent (ganwyd 792)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 catholicsaints.info; adalwyd 27 Ebrill 2016
  2. earlybritishkingdoms.com; adalwyd 27 Ebrill 2016.
  3. Chris Skidmore, Bosworth: Birth of the Tudors (Llundain, 2013) tud. 370
  4. See Peter Beauclerk-Dewar & Roger Powell, "King Henry VII (1457-1509):Roland de Velville (1474-1535)", yn Royal Bastards: Illegitimate Children of the British Royal Family (Stroud, 2008), e-lyfr, tud. 177-186.