Rowland Filfel

Oddi ar Wicipedia
Rowland Filfel
Ganwyd1474 Edit this on Wikidata
Bu farw25 Mehefin 1535 Edit this on Wikidata
Castell Biwmares Edit this on Wikidata
TadHarri VII Edit this on Wikidata
MamLlydawes anhysbys (?) Edit this on Wikidata
PlantJane Velville, Grace de Vielleville Edit this on Wikidata
Castell Biwmares

Roedd Syr Rowland Filfel (neu Roland de Velville; hefyd Vielleville, Veleville, neu Vieilleville) (147425 Mehefin 1535)[1] efallai yn fab anghyfreithlon i Harri VII, brenin Lloegr a Llydawes na wyddys bellach mo'i henw.[2]. Roedd Harri tua 14 oed pan gafodd Rowland ei genhedlu. Wedi marwolaeth Rowland Filfel, canodd y bardd Dafydd Alaw farwnad iddo gan ddweud ei fod o "linach brenhinol", a gwyddwn fod ei gyfoeswyr yn credu mai Harri Tudur oedd ei dad yr adeg honno.

Mae'n debygol iddo gyd-deithio gyda Harri mewn llong o Lydaw i Benfro pan gychwynodd ar ei daith drwy Gymru i Frwydr MaesBosworth.[3] Dychwelodd i Lydaw, fel rhan o daith gan lu bychan o filwyr yn 1489, lle nodir ei enw fel "Roland de Bella Vill".

Er nad oedd ganddo safle /swydd swyddogol, roedd yn ŵr llys poblogaidd ac yn "cael ei ffafrio gan y brenin, gan gymryd rhan mewn ymwaniadau a hela, gyda Harri VII".[1] Cafodd ei hyfforddi'n filwr yn Llydaw yn 1489 ac o bosib yn Ffrainc hefyd yn 1492. Dyrchafwyd ef yn farchog wedi Brwydr Blackheath yn 1497 a derbyniodd lawer o ffafrau gan y brenin drwy gydol ei oes.[1][4]

Rowland oedd tad Jane Velville, mam Catrin o Ferain. Claddwyd ef yng Nghapel y Forwyn Fair ym Miwmares.[1]

Ynys Môn[golygu | golygu cod]

Yn ôl yr haneswyr Beauclerk-Dewar a Powell dengys y dystiolaeth hanesyddol i Filfel fod yn bresennol mewn llawer o ymwaniadau swyddogol megis priodasau uchelwyr, ymweliadau brenhinoedd tramor, rhwng 1494–1507. Ym Mai 1509 roedd yn brennol yn angladd Harri VII, fel Marchog o'r Gosgordd Brenhinol ac yna bu'n rhan o ddathliadau dyrchafu Harri VIII i orsedd Lloegr. Ychydig wedyn, yn 1509, fe'i hapwyntiwyd yn Gwnstabl a Chapten Castell Biwmares, Ynys Môn, swydd y daliodd tan iddo farw ym Mehefin 1535.[1][2]

Priodi a phlant[golygu | golygu cod]

Priododd Agnes (née Griffith), gweddw Robert Dowdyng a merch Gwilym Griffith Fychan (m. 1483) o'r Penrhyn, rywdro rhwng 1520-8; roedd Agnes felly'n chwaer i Syr William Griffith, Siambrlen Gogledd Cymru.[1][2] O'r briodas hon, cafwyd dwy ferch: Grace a Jane. Jane oedd mam Catrin o Ferain a elwid yn "Fam Cymru".[5] Roedd teulu'r Giffiths yn un o deulu mwayf pwerus Cymru yr adeg honno, ac perthyn i'r Tuduriaid drwy Ednyfed Fychan.[6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 Peter Beauclerk-Dewar & Roger Powell, "King Henry VII (1457–1509): Roland de Velville (1474–1535)", yn Royal Bastards: Illegitimate Children of the British Royal Family (Stroud, 2008), e-lyfr, tud. 177–186.
  2. 2.0 2.1 2.2 Alison Weir, Britain's Royal Families: The Complete Genealogy (Llundain, 1999), tud. 152.
  3. Beauclerk-Dewar & Powell, tud. 177–186, yn cyfeiro at Prof S. B. Chrimes, Prifysgol Caerdydd, a W. R. B. Robinson, ar wahân yn Welsh Historical Review, a Prof R. A. Griffiths & R. S. Thomas, Coleg Prifysgol, Abertawe, yn The Making of the Tudor Dynasty.
  4. The British Monarchy (The official website of), 2014, "Accession", see [1], adalwyd 22 Mehefin 2014.
  5. John Ballinger, "Katheryn of Berain", Y Cymmrodorion 40 (1929), gweler [2], adalwyd 22 Mehefin 2014.
  6. Royal Bastards; adalwyd 26 Rhgfyr 2015