Ffransis II, Dug Llydaw

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Francis II, Dug Llydaw)
Neidio i: llywio, chwilio
Francis II o Lydaw

Dug Llydaw oedd Ffransis II (23 Mehefin 1435 - 9 Medi 1488). Roedd yn fab i Richard o Lydaw a Marguerite, Cowntes Vertus. Roedd yn Ddug Llydaw rhwng 1458 a'i farwolaeth yn 1488. Priododd ddwywaith: y tro cyntaf i'w gyfnither Marged (1469 - 1500) a oedd yn ferch i Francis 1af a'r ail dro i Farged Foix (1449 - 1486) a oedd yn ferch i Elinor o Navarre o Sbaen a'r Brenin John II o Aragon. Un ferch yn unig a oroesodd yn oedolyn: Anna, Duges Llydaw, ond cafodd dau fab gyda'i feistres Antoinette de Maignelais.

Roedd ei fywyd yn un brwydr ar ôl y llall gydaLouis XI, brenin Ffrainc a'i fab Siarl. Cafwyd cytundeb tra phwysig o'r enw Cytundeb Chateaubriant, a arwyddwyd yn 1487, a gadarnhaodd statws Llydaw fel gwlad annibynol ond trechwyd François ym Mrwydr Saint-Aubin-du-Cormier. Yn dilyn y frwydr hon, collodd lawer o'i diroedd a'r hawl i briodi ei blant i bobl o'i ddewis ef yn unol â Chytundeb Sablé. Gan frenin Ffrainc, bellach, oedd yr hawl i ddewis cymar, a phan bu Francis farw ychydig fisoedd yn ddiweddarach yn Couëron, Brenin Ffrainc ddewisiodd cymar i Anna. Dewisiodd ei fab ei hun, sef Siarl VIII, ac yna Louis XII.

Siasbar a Harri Tudur[golygu | golygu cod y dudalen]

Francis II a roddodd loches i Siasbar Tudur a'i nai pedair ar ddeg oed Harri (a ddaeth rai blynyddoedd yn ddiweddarach yn Frenin Lloegr). Roeddent wedi dianc o grafangau Edward IV a oedd newydd gipio Coron Lloegr ym Mrwydr Tewkesbury yn 1471. Ceisiodd Edward IV, a oedd o deulu'r Iorciaid 'brynnu' Siasbar a Harri ar sawl achlysur, er mwyn dod â bygythiad y Lancastriaid i ben unwaith ac am byth. Rhoddodd Louis XI, Brenin Ffrainc, gryn bwysau arno, hefyd, i drosglwyddo'r ddau iddo, gan ei fod yn gefnder cyntaf i Siasbar. Penderfyniad Francis yn 1474 oedd gwahanu'r ddau gan drosglwyddo Siasbar i Gastell Josselin, 25 milltir o Gwened (Vannes) lle y bu tan 1475 a Harri i 'Gastell yr Un Tŵr ar Ddeg' (Ffrangeg: Château de Largoët), dan ofalaeth Jean de Rieux.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Bosworth gan Chris Skidmore; Foenix Paperback (2013) tud. 98
Rhagflaenydd:
Arthur III
Dug Llydaw
COA fr BRE.svg

14581488
Olynydd:
Anna


Flag of Brittany (Gwenn ha du).svg Eginyn erthygl sydd uchod am Lydaw. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.