Arglwyddes Godiva

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Paentiad olew o'r Arglwyddes Godifa gan John Cole, tua 1898.

Uchelwraig Sacsonaidd o'r 11fed ganrif oedd yr Arglwyddes Godiva (neu Godifa) (Hen Saesneg: Godiva, sef "Anrheg gan Dduw"); Saesneg Diweddar: Lady Godiva), yn ôl y chwedl. Mae'r chwedl amdani'n tarddu'n ôl i'r 13g ac yn ei disgrifio'n marchogaeth ceffyl drwy strydoedd Coventry yn noethlymun, er mwyn derbyn pardwn gan denantiaid ei gŵr am godi rhent a threthi mor aruchel. Dywed chwedl arall i'w gŵr ei hateb gan ddweud y byddai'n rhoi gostyngiad yn y trethi "y diwrnod y byddai hi'n marchogaeth drwy'r dref yn noeth". Cymherodd hi ef yn llythrennol, a gwnaeth hynny ond gorchmynodd i drigolion y dref gadw i'w tai a chau'r ffenestri rhag ei gweld yn noeth.

Mewn fersiwn diweddarach o'r chwedl hon y defnyddiwyd y gair "peeping Tom" (neu voyer) am deiliwr lleol o'r enw "Tom" a ddallwyd pan edrychodd arni'n noeth. Yn ei lyfr The Journey from Chester to London (Y Siwrnai o Gaer i Lundain) ysgrifennodd y naturiaethwr Cymreig Thomas Pennant (1726-1798) am y digwyddiad hwn: "...ac o ran cywreinrwydd, cymerodd y teiliwr gip sydyn arni, gan drechu ei ofnau." Roedd yn disgrifio'r prosesiwn, blynyddol, a dywedodd fod yr actores a gymerai ran Arglwyddes Godifa wedi'i dilladu mewn "sidan tynn, o liw croen".[1]

Ffigwr hanesyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cerflun o Lady Godiva gan Syr William Reid Dick a ddadorchuddiwyd yn Hydref 1949.[2]

Gwraig i Leofric, Iarll Mersia oedd Godiva, ac roedd ganddynt un mab o'r enw Aelfgar.[3]

Ceir yr enw (mewn sawl sillafiad gwahanol) yn Llyfr Dydd y Farn (Domesday Book): Godgifu neu Godgyfu ydy'r fersiynnau mwyaf cyffredin; Godiva yw'r ffurf Ladin. Ceir llawer o bobl gyda'r enwau hyn yn Llyfr Dydd y Farn.[4][5]

Er mwyn y chwedl, mae llawer yn ei chysylltu gyda pherson o'r un enw a ysgrifennwyd amdani yn Liber Eliensis sef hanes Abaty Ely a sgwennwyd yn y 12g. Dywed y llawysgrif honno iddi briodi Leofric pan oedd yn wraig weddw. Roedd y ddau'n hael eu rhoddion ar gyfer sefydlu abatai. Yn 1043 sefydlodd Leofric Abaty Benedictaidd yn Coventry.[6] ar dir hen leiandy a ddinistrwyd gan y Daniaid. Dywed awdur y llawysgrif (sef Roger o Wendover) mae Godiva oedd y tu ôl i hyn.

Yn 1656 ysgrifennodd William Dugdale y ceid ffenestr liw wedi'i chysegru i'r Arglwyddes Godiva yn Eglwys y Drindod, Coventry a oedd yn dyddio'n ôl i oes Rhisiart II, brenin Lloegr, sef diwedd y 14g. Tynnwyd y gwydr lliw'n ddarnau yn 1775. Dywed Dugdale ei bod yn marchogaeth ceffyl gwyn mewn gwisg felen a bod yn ei llaw dusw o flodau'r ddraenen ddu neu'r ddraenen wen.[7] Cysylltir y ddraenen gyda defodau paganaidd.

Cysylltiad paganaidd[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ôl rhai haneswyr ceir elfenau o ddefodau cyn-Gristnogol yn y chwedl hon sy'n ymdebygu i'r ddefod Geltaidd o anrhydeddu un o forynion Calan Mai; defod yn ymwneud â frwythlondeb a dyfodiad y gwanwyn fyddai hon. Mae'n bosib fod cysylltiad yma â Rhiannon (neu Epona) sef duwies y ceffylau yn y Mabinogi. Epona oedd un o'r ychydig dduwiau Celtaidd roedd y Rhufeiniaid, hefyd, yn ei haddoli; ceir hefyd Macha yn ffigwr tebyg mewn chwedloniaeth Gwyddelig. Roedd llun ohoni ar ffenestr liw Eglwys y Drindod, Coventry (gweler uchod) hyd at 1775 ac roedd yn atgyfnerthu'r cysylltiad hwn. Am o leiaf tri chan mlynedd, yn ddi-dor, hyd at 1575, ceid prosesiwn i'w choffháu drwy Coventry; atgyfodwyd y prosesiwn hwn a pharheir i ethol 'Brenhines Fai' i gynrychioli Godiva o blith merched glasoed y dref. Yn ôl rhai (megis Janet a Stewart Farrar) mae geiriau'r rhigwm hynafol Saesneg Ride a cock horse to Banburry Cross / To see a fine Lady on a white horse... yn deillio'n ôl i'r un traddodiad Celtaidd. Mae ceffyl pren (neu'r “hobby horse” / “cock horse”) yn hen degan: sef ffon hir i'w osod rhwng y cluniau a phen ceffyl allan o bren; fe'i defnyddir hyd heddiw gan rai grwpiau o ddawnswyr gwerin e.e. dawnswyr Morris a gwisgir clychau ar y coesau fel yr arferwyd ei wneud gyda'r Fari Lwyd.

Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]

Mewn diwylliant[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Ysgrifennodd Alfred Tennyson gerdd amdani.
  • Caiff ei henwi yn un o ganeuon y grŵp Queen: "Don't Stop Me Now" (1979), o'u halbwm Jazz a gyhoeddwyd ym 1978: "I'm a racing car / Passing by like Lady Godiva / I'm gonna go go go / There's no stopping me."

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Pennant, Thomas, The Journey from Chester to London 1811 edition, tud.190
  2. Douglas, Alton (1991). Coventry: A Century of News. Coventry Evening Telegraph. p. 62. ISBN 0-902464-36-1.  Unknown parameter |month= ignored (help)
  3. Patrick W. Montague-Smith Letters: Godiva's family tree The Times, 25 Ionawr 1983
  4. (Saesneg) Williams, Ann (Medi 2004). "Godgifu (d. 1067?)". Oxford Dictionary of National Biography (online ed.). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/10873.  (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)
  5. "Lady Godiva, the book, and Washingborough", Lincolnshire Past and Present, 12 (1993), tud. 9–10.
  6. Anglo-Saxons.net, S 1226
  7. Dugdale, William (1656). Antiquities of Warwickshire. London. 

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]