Draenen wen

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Ddraenen wen)
Draenen wen
Blodau
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Rosidau
Urdd: Rosales
Teulu: Rosaceae
Genws: Crataegus
Rhywogaeth: C. monogyna
Enw deuenwol
Crataegus monogyna
Jacq.
Aeron cochion y ddraenen wen
Erthygl am y goeden yw hon. Am y pentref yn ne Cymru gweler Y Ddraenen Wen.

Coeden fechan neu lwyn yw'r draenen wen (Lladin: Crataegus monogyna; Saesneg: hawthorn, quichthorn) rhwng 5 a 14 metr. Ceir hen enwau arni: "drain ysbyddaid", "ysbyddaden", "ysbyddiad", "pren bara a chaws", "draenen blannu" ac 'ogfaenwydd'. Mae'n frodorol i Gymru a gwledydd Prydain ac mae ei dosbarthiad fel coeden gynhenid yn lledaenu ar draws Ewrop mor belled ag Affganistan. Mae'n gyffredin bron ym mhobman[1].

Daeth yn fwyaf cyfarwydd pan grewyd caeau o dir agored trwy ei phlannu mewn gwrychoedd. Ei blodau ym mis Mai yw'r symbol mwyaf trawiadol o ddiwedd gwanwyn a chychwyn haf. Ceir craciau ar ffurf hirsgwar, oren-frown tywyll yn y rhisgl. Dail bach sydd ganddi: rhwng 2 a 4 cm gyda'r rhan uchaf yn wyrdd tywyllach na rhan isaf y ddeilen.

Ym Mai a Mehefin mae hi'n blodeuo yng ngwledydd Prydain. Mae'r blodyn oddeutu 1 cm a thuag 1 cm ydy'r aeron hefyd, pan dyfant yn yr hydref; ceir un garreg, neu hedyn, y tu fewn. Gellir bwyta'r ffrwyth drwy ei droi'n jam, jeli neu'n win cartref.

Coeden gollddail yw hi, tua 21 troedfedd o uchder ar dir da, yn amlwg iawn yn ei blodau ym mis Mai, ac eto yn ei ffrwythau ym mis Hydref, pan fo ar dân gan aeron coch. Yn aml, ar dir agored nid yw ond llwyn, oherwydd pori gan anifeiliaid, pridd gwael, a gwyntoedd cryfion. Yn y cyflwr hwnnw, mae'n tyfu'n glos a thrwchus, a'r pigau drain hirion, yn ei gwneud yn wrych mor effeithiol. Credir fod rhai ohonynt yn tyfu i wth o oedran a bod The Hethel Old Thorn yn ne-ddwyrain Lloegr oddeutu 700 o flynyddoedd oed.[2]

Tacsonomeg[golygu | golygu cod]

Mae'r ddraenen wen yn perthyn i deulu'r rhosod (Rosaceae), ac mae'n un o dair rhywogaeth arall o Crataegus yn Ewrop. Mae ei pherthynas agos C. oxyacanthoides (= C. laevigata) yn llawer llai cyffredin. Mae'n perthyn hefyd yn agos iawn i'r merysbren Mespilus germanica.

Mae cyfrol safonol Gardd Botanegol Cymru (2011)[3] sydd wedi'i seilo ar System Ddosbarthiad Grwp Phylogenig yr Angiosbermau, yn olrhain tacsonemeg Crataegus monogyna fel a ganlyn:

ROSACEAE Jussieu Is-deulu: Spiraeoideae Sydd yn cynnwys 20 genws gan gynnwys Crataegus.

Mae'n cynnwys y sylw "A local Welsh name, Blodau marw mam ("flowers-death-mother"), is based on the local superstition that Mai flowers taken into the house cause maternal deaths. Elsewhere Mai is merely considered unlucky and the source of much folklore" (gweler Llên Gwerin).

Nodweddion ecolegol a hanesyddol[golygu | golygu cod]

Mae drain gwynion yn gwreiddio'n ddwfn ac yn byw'n hen ar dir uchel, yn gwrthsefyll gwynt a thywydd gerwin, ac yn rhoi cysgod i ddefaid, bwyd i lawer o bryfed a nythfa i biod a brain. Mae'r aeron yn fwyd gwerthfawr i'r bronfreithiaid at ddiwedd blwyddyn. Mae llawer iawn o lindys gwyfynod yn bwyta dail y ddraenen wen ond ychydig (os oes rhai o gwbl) sydd yn llwyr ddibynnol arni

Yn ôl ymchwil gan Good ac eraill (1990)[4], mae ystod oedran coed y ddraenen wen yn Nant Ffrancon yn awgrymu iddynt ddyddio o gyfnodau pryd y gwelwyd trai mewn amaethyddiaeth a phryd y cawsant gyfle, felly, i ymledu. Un o'r cyfnodau hynny oedd yn dilyn diddymu'r Deddfau Yd, ac un arall oedd dirwasgiad y 1930au.

Yn ôl astudiaethau diweddar, yn dilyn y diddordeb cynyddol yn newid hinsawdd, rhwng 1900 a 1950 bu'r ddraenen wen yn blaguro ar ôl 17 Ebrill, yn ddieithriad. Ymddengys erbyn hyn (2000) ei bod yn dangos ei dail cyntaf yn nhrydedd wythnos mis Mawrth.

Delwedd:Coch dan adain yn bwyta criafol y moch (Alun Williams).jpg
Coch dan adain yn bwyta criafol y moch (Alun Williams)

Mae hadau'r criafol y moch yn fwyd pwysig yn yr hydref i lawer o adar mudol ar eu taith, ac yn y gaeaf hefyd i rai fel llygod pencrwn ac adar y gaeaf fel adar coch dan adain. Mae dail y ddraenen wen yn fwyd i lawer iawn o lindys lepidoptera (gwyfynod a gloynnod byw) ond nid oes yr un ohonynt yn llwyr ddibynnol arni.

Enwau a geirdarddiadau[golygu | golygu cod]

Yr enw safonol am y rhywogaeth yw'r ddraenen wen, Crataegus monogyna. Am y ffrwythau, ceir criafol (crawel) y moch, grawn yr ysbydden, ac ogfaen (ogwan y moch ar lafar yn Sir Benfro). Am y blodau ceir blodau mis Mai. Am y goeden, ceir drain ysbyddaid, ysbyddaden, ysbyddiad, pren bara a chaws, draenen blannu ac ogfaenwydd.

Fe'i gelwid hi yn draenen wen er mwyn gwrthgyferbynnu rhyngddi hi a'r ddraenen ddu Prunus spinosa, gan fod rhisgl pren ifanc y naill yn llwyd golau, a'r llall yn frown tywyll. Nid oes cofnod o ddefnyddio drain gwynion cyn 1722, na drain duon cyn 1604 [angen ffynhonnell]. Mae'n debyg y gelwir y ffrwythau yn criafol y moch am eu bod yn debyg, yn arwynebol, i aeron y criafol ac yn rhoi'r un olwg danbaid yn yr hydref. Tybir y daw'r enw pren bara a chaws ar ôl arferiad plant o fwyta'r dail a'r aeron yn yr hydref[angen ffynhonnell]. Hwyrach, yn ôl dychymyg plentyn, fod cnawd yr aeron yn debyg i gaws maidd.

Yn fwy technegol, fe'i gelwir yn draenen wen un golofn i'w gwahaniaethau oddi wrth y ddraenen wen dwy golofn, Crataegus laevigata, sydd hefyd yn frodorol i'r ynysoedd hyn. Cwltifar ohoni yw'r ddraenen blannu, sef y math o ddrain a blennir at wneud gwrych, "coedgae" neu "sietin" (quick-set yn Saesneg). Ychydig iawn o wahaniaeth sydd rhyngddynt ar wahan i fanylion y blodau. "Un hedyn" yw ystyr monogyna. Mae C. laevigata, gan amlaf, yn tyfu mewn coetir, ac mae dwy garreg y tu fewn i'w haeron. Mae'r ddau fath yn croesi'n aml.

Ieithoedd Celtaidd eraill[golygu | golygu cod]

Yn gytras ag ysbyddad, ceir spethas, spethes "mieri" mewn Cernyweg Canol, a spezad "eirin Mair" yn y Llydaweg. Cytras arall yw scé, draenen wen mewn Hen Wyddeleg; mae p yr ieithoedd Brythonaidd yn cyfateb i c yn yr iaith honno.

Weithiau ceir bod ogfaen â'r ystyr egroes, sef ffrwythau'r rhosyn gwyllt. Mae'n gytras a'r amrywiadau Llydaweg hog, hueg a hogan, sy'n enwau ar ffrwyth y ddraenen wen a hefyd, yn y ffurf luosog hogin yn golygu "tonsiliau". Yn ôl dihareb Lydaweg: 'Blwyddyn ogfaen, blwyddyn ŷd / Blwyddyn eirin tagu, ni fydd'. Diddorol sylwi y ceir hefyd hogan 'haw' yn Saesneg tafodieithol Cernyw.

Enwau lleoedd[golygu | golygu cod]

Draenen (Wen) Amhosibl, efallai, yw gwahaniaethau rhwng cyfeiriadau at ddrain gwynion, drain duon, a mieri mewn enwau Ileoedd. Mae Cefn Dreiniog yn Llanfrothen, Rhyd y Drain yn Llanuwchllyn, Erddreiniog ym Mon, Draenogan Talsarnau, yn bosibiliadau i'w hystyried. Gallasai enwau o'r fath gyfeirio yn ogystal at unrhyw wrthrych, planhigyn neu greadur pigog, gan gynnwys mamaliaid a physgod.

Ysbyddad Yng nghronfa Melville Richards, cofnodir y gair (neu ffurf amo) mewn oddeutu 20 o enghreifftiau o enwau lleol drwy Gymru benbaladr. Ceir Bryn Ysbyddaden ym Mon, yng Ngheredigion, ac yn Sir Gaerfyrddin Cae'r Ysbyddaden (Llanfaelog), Clun Ysbyddyd (Llwynyrebol), Cwm Nant Ysbyddaden (Penderyn), Erw'r Sbyddyd (Brych.), Erw'r Ysbyddadog (Trefor, Dinbych), Ffos Ysbydded (Llangynnwr), Gwaun Ysbyddaden (Llanfair-ar-y-bryn), Maesysbyddaden (Corys), Maesysbyddadog (Llandysilio, Trefaldwyn), Nant Ysbyddaden (Nedd), Pant Ysbyddyd a Pant Sbydded (Pennal), a Perth Ysbyddaden (Presaeddfed, Mon). Mae'r cysylltiadau a chae, erw, gwaun, pant a pherth oll yn gyson a chynefin naturiol y goeden.

Ceir cyfeiriadau cynnar at y goeden mewn enwau lleoedd, megis Trespethed (Llandyrnog, 1550), Ysbydwr (Llandyfrydog, 1349), Ysbyddadog (Trefor, 1498) , Y Spaddadog DdryIliog (Cefn, Dinb.,1638). Dylem ochel rhag camgymryd rhai o'r enwau hyn am rai sydd yn cyfeirio at eiriau tebyg. Mae 'dihysbyddu' yn un elfen a all ein harwain ar gyfeiliorn, er enghraifft, ac awgrymwyd efallai fod Erw'r Sbyddyd yn golygu 'erw dihysbydd'. Ystyr ysbyddawd yw hospitium a hospitalitas gan John Davies o Fallwyd yn 1632, a cheir ysbydhod â'r ystyr "a dairy" gan Edward Llwyd (AB 221a). Er mwyn dangos sut yr ystumiwyd y gair ambell dro, ceir dwy ffurf ar yr enw Ysbyddadog yn Rhiwedog, Llanfor, Dinbych, sef Tyddyn Spethadog (1592) ac Ysbrydhavog (c. 1700)

Defnydd[golygu | golygu cod]

Y Goeden[golygu | golygu cod]

Impio

Yn Llaw-lyfr y Llafurwr (1711), gan Moses Williams, ceir y cyfeiriad hwn:

Yr Afallen sur a ddwg Afalau pêr, a'r Yspaddaden a ddwg Ellyg.

Gwrychoedd

Dyma weiren bigog yr oes a fu, ac fe gafodd y ddraenen wen ei phlannu i'r perwyl hwnnw ers creu caeau o dir agored yn y 18fed a'r 19g. Mae'n gymwys iawn at y pwrpas gan ei bod yn hawdd i'w chodi o had, yn trawsblannu'n llwyddiannus yn ifanc, yn tyfu yn drwchus a phigog ac yn goddef cael ei thocio yn glos. Ar ôl ei hesgeuluso am flynyddoedd a'i gadael i dyfu'n agored ac yn fylchog, mae'n goddef cael ei phlygu eto i greu gwrych newydd isel a thrwchus.

Yn y 19eg, datblygwyd llawer iawn o feithrinfeydd neu erddi coed bach trwy Gymru i gyflenwi'r galwad am ddefnydd fforestydd a gwrychoedd. Byddai'r Cymdeithasau Amaethyddol, ym mron pob sir trwy Gymru, er mwyn gwella safonau, yn cynnig gwobrwyon am fagu coed i'w gwerthu. Dyma un enghraifft o Sir Geredigion ym 1790:

Premium V White Thorn for Sale (2). To the person who shall have for sale, at the time of giving in his claim, the greatest quantity of white thorn plants, on an average eighteen inches high, fenced in, and kept clean of weeds, not fewer than ten thousand, two guineas.

Y Drain

Gan Huw Jones cawn dair esiampl o wneud defnydd o'r ddraenen fel coeden ddreiniog: yn gyntaf i ferdio (cau bylchau mewn cloddiau a gwrychoedd), yn ail, i'w thynnu trwy lidiart ar ei gorwedd i wneud og ddrain i lyfnu tir glas, ac yn drydydd, i wneud gwely'r teisi efo eithin a gwellt. Fe ddefnyddiwyd y drain unigol fel bachau pysgota ym Mhrydain[5].

Y Pren[golygu | golygu cod]

Ffyn

Yn gyffredin iawn gynt gwneid ffyn o ganghennau syth ceinciog y ddraenen wen, gan amlaf efo bagl naturiol. Mae pren y goeden yn galed a chlòs ac yn cael ei ddefnyddio yn lle pren bocs.

Rhinweddau meddygol[golygu | golygu cod]

Credir fod blodau'r ddraenen wen yn medru helpu gyda straen ac anhwylderau merch.[6] Mae'n gofyn cymryd fe unwaith neu ddwywaith pob nos a bore. Gellir gwneud te ohono'n hwylus iawn – o fwydo'r blodau am tua 10 munud mewn dŵr berwedig. Gellir defnyddio'r ffrwyth (yr aeron) hefyd, ac fel y dail, maen nhw'n dda i leihau pwysedd gwaed.

Dyma enghraifft o ddefnyddio'r hyn a achosodd glwyf i wella'r clwyf hwnnw:

Rhag draen a el mewn troed. Kym(e)r risc yr ysbaddod (sic.) a'i briwo mewn morter (i drin claf) rhag draenen a êl mewn troed, cymer risgl yr ysbyddad a'i friwio mewn morter.

Credid bod ffrwythau'r ddraenen wen yn achosi camliwio'r iwrin mewn gwartheg pan fyddai'r cnwd yn fawr. Ar lawr y parlwr godro, troi dŵr clir, di-liw yn oren, ac wedyn yn frown, gan staenio carnau'r anifeiliaid. Mynnid hefyd y byddai gostyngiad dros dro yn y llaeth a gynhyrchid.

Ystyrir y ddraenen wen o werth meddyginiaethol pendant, ac mae elfennau ohoni yn cael eu cynnwys mewn nifer o feddyginaethau gwyddonol. Credid mai'r blodau sydd fwyaf rhinweddol, gan y gallant dawelu'r system nerfol canolog a rheoli'r system cardio-fascwlaidd.

Llên[golygu | golygu cod]

Ceir nifer o gyfeiriadau lled gynnar at ysbyddad ac at ogfaen, gan gynnwys cyfeiriadau at ddefnyddio'r brigau i wneud coron Crist, o bresenoldeb y llwyn fel arwydd o gyflwr tir, at ymddangosiad y planhigyn, at y Ilwyn fel lle i gysgodi neu i guddio.

Defnyddir y ddraenen wen hefyd fel delwedd ddifrIol:

Jessu hagen a rodet y pilatus...dodet coron o yspydat am y benn 14 ganrif Ond Iesu a roddwyd i Pilatus.. a dodwyd coron o ysbyddad am ei ben

Ar dayar aoed emelltigedig gynt yn dwyn yspadat (spinis addicta) adrysswch 1346

Roedd y ddaear yn felltigedig gynt yn dwyn ysbyddad a drysni

Gorwyn blaen ysbydatc.1400 Claerwyn yw blaen ysbyddad

Bedrawt yssyd yn ynys Prydein. Y dan yspadaden heb dim at- y warthaf. Ac ny ddaw glaw vyth idaw c1400 Mae beddrod [i'w gael] yn Ynys Brydain, o dan goeden ysbyddaden heb ddim uwch ei ben, ac [eto] ni fydd glaw byth yn ei gyrraedd

Llwynog wyf mewn llwyn o goed Os llechu n vwyn yn rwyn riw Ogfaenllwyn a gaf unlliw

Ieuan Du'r Bilwg 15g.

Llwynog wyf mewn llwyn o goed/Os llechu'n vwyn yn rwyn rhiw/fe'i caf yn unlliw ag ogfaenllwyn

Eu duwiau hwynt ... ydyny (sic. ydynt (?)) fel speyddaden mewn perllan 1588

Mae eu duwiau hwy fel ysbyddaden mewn perllan (1588 – o'r Beibl (?))

Ac yn fwy diweddar ceir:

Mae nghariad i'n Fenws/Mae nghariad i'n fain/Mae nghariad i'n dlysach/Na blodau y drain.

Ac yn yr Hen Bennillion ceir:

Yn y coed ar riniog ha' — y llwyn drain

Yn llawn drwch flodeua;

Rhoi lliw y nef gerllaw wna,

A dynwared haen eira.

Ioan Brothen (Llinell neu Ddwy)

Swn y Gwynt sy'n Chwythu

Ac yna'n man gaeau petryal

Fel bwrdd chwarae draffts, neu gwilt racs

Ac am bob un o'r caeau, berth.

Y nhad a fu'n plannu'r perthi pella o'r tŷ — Perthi'r Cae Top a'r Cae Brwyn

A minnau'n grwt bach wrth ei sodlau Yn estyn iddo'r planhigion at ei law; Tair draenen wen a ffawydden,

Tair draenen wen a ffawydden yn eu tro;

A'i draed e'n mesur rhyngddyn nhw ar hyd pen y clawdd

A'u gwasgu nhw'n solet yn y chwal bridd — a chalch.

Chwedloniaeth[golygu | golygu cod]

Mae llawer hen ddywediad yn gysylltiedig â blodeuo'r ddraenen wen, gan fod y blodeuo hynny'n symbol o ddiwedd y tywydd caled a chychwyn y tymor tyfu, amser arwyddocaol iawn i bawb a oedd yn ddibynnu ar y tir.

J Kitchener Davies, Fferm a Thyddyn, rhif 30.

Pan flodeua' r ddraenen wen Mae tymor rhew ar ben.

Pan y gwelych ddraenen wen

A gwallt ei phen yn gwynnu,

Mae hi'n gynnes dan ei gwraidd

Hau dy haidd os mynni.

Pan fo'r ddraenen ddu yn wych

Hau dy had os bydd yn sych.

Pan fo'r ddraenen wen yn wych

Hau dy had boed wlyb neu sych.

Digwyddai'r hau tua'r 12fed o Fai, dyddiad a oedd un diwrnod ar ddeg ynghynt (hynny yw ar Galan Mai) cyn mabwysiadu Calendar y Pab Gregori ym 1752. Roedd blodeuo'r ddraenen wen yn ganolog i rialtwch yr ŵyl, a byddai brigau'n cael eu plethu'n garlantau mewn cysylltiad â'r Fedwen Fai. Perthyna'r ŵyl i'r caeau a'r coedlannau ac nid i barchusrwydd tai annedd, ac nid hwyrach mai dyma sail y gred na ddylid byth ddod a'r planhigyn i'r tŷ. Rheswm arall, mae'n debyg, oedd fod arnynt aroglau melys, sy'n tueddu i fod yn llethol dan do. Yn wir, ein henw ni (MT) fel plant arnynt oedd "blodau marw mam", ac mae'r traddodiad hwn yn gryf mewn llawer rhan o'r wlad ("A local Welsh name, Blodau marw mam (flowers-death-mother), is based on the local superstition that Mai flowers taken into the house cause maternal deaths. Elsewhere Mai is merely considered unlucky and the source of much folklore"[7]. Y gwir yw fod yr elfen triethylamin yn y blodau, sef un o'r elfennau a gynhyrchir gyntaf pan fo cnawd yn pydru; dyna aroglau'r pla du a'r madredd (gangrene), yn ôl rhai awduron[angen ffynhonnell].

Mae dail y ddraenen wen, efo rhai'r dderwen, i'w gweld mewn cerfluniau o'r Gŵr Gwyrdd mewn eglwysi a thafarndai, a'r dail yn glafoerio o'i geg a'i glustiau. Dyma enghraifft, mae'n debyg, o'r Eglwys Gristnogol yn mabwysiadu symbol paganaidd.

Mae dwy chwedl gysylltiedig wedi tyfu o gwmpas y ddraenen wen. Y gyntaf yw mai ohoni y gwnaed coron ddrain Crist, ac felly fod iddi lawer rhinwedd (gweler uchod). Mae'r ail am fath Crataegus monogyna biflora (praecox), sef draenen wen Ynys Wydrin (Glastonbury Thorn), sef ei bod yn deilio ac yn blodeuo yn y gaeaf ac yna eto ym Mai. Ai dyna sydd o dan sylw yma?

Ysbyddaid a dyfant bob amser o'r gayaf i'r gwanwyn 1561

Ar ôl croeshoelio Crist, daeth Joseff o Arimathea i Brydain i ledaenu'r efengyl. Roedd yn pregethu yn Ynys Wydrin heb fawr o effaith ar ei gynulleidfa. Gweddïodd i Dduw am wyrth, a chafodd ei ddymuniad pan flodeuodd ei ffon ddraenen wen ar ôl ei tharo hi yn y ddaear. Blodeuai yn flynyddol oddi ar hynny, a chymerwyd llawer toriad ohoni.

Yn Iwerddon, credid bod draenen wen unig yn gartref i'r tylwyth teg ac na ddylid amharu arni.

Yn Sir Faesyfed, credid, o leiaf hyd 1949, fod llosgi llwyn draenen wen mewn cae ar Ddydd Calan yn amddiffyn y gwenith rhag y clwy penddu.

Ymadroddion[golygu | golygu cod]

Ar bigau'r drain (pan fo rhywun yn disgwyl braw unrhyw funud)

Gerddi[golygu | golygu cod]

Mae sawl amrywiad ar y ddraenen wen i'w weld mewn gerddi, ei ffurf yn gwahaniaethu o fod yn wylofus i fod yn bigfain. I'r math brodorol arall, sef Crataegus laevigata, fodd bynnag, y perthyn yr amrywiadau efo aeron melyn a'r rhai efo blodau sengl a dwbl. Amrywia lliw'r blodau o wyn, trwy binc i goch.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. A Field Guide to the Trees of Northern Europe gan A. Mitchell; Collins (1974).
  2. The Wildlife Trusts, UK. Adalwyd 29 Hydref 2009
  3. Edwards, D. ac eraill (2011) Flowering Plant Families at the National Garden of Wales (Llundain a Washington, UD)
  4. Good, JEG, Bryant, R. & Carlill, P. (1990) Distribution, Longevity and Survival of upland Hawthorn (Crataegus monogyna) scrub in North Wales in relation to sheep grazing (Journal of Applied Ecology 1990, 27, 272-283)
  5. Mabberley, DJ (2008) Mabberley's Plant-Book: A portable dictionary of plants, their classification and uses (CUP)
  6. Llysiau Rhinweddol gan Ann Jenkins, cyhoeddwyd gan Wasg Gomer, 1982.
  7. Edwards, D. ac eraill (2011) Flowering Plant Families at the National Garden of Wales (Llundain a Washington)

Ffynonellau a darllen pellach:

Aubrey, G. (1995): Blodau'r Maes a'r Ardd,

Bevan, G. et. al. (1950-2002) Geiriadur Prifysgol Cymru

Cymdeithas Edward Llwyd (2003) : Planhigion Blodeuol, Conwydd a Rhedyn

Cooper, M.R. and Johnston A.W. ( 1984) Poisonous Plants in Britain and their effects on Animals and Man

Davies, D. a Jones, A. (1995): Enwau Cymraeg ar Blanhigion

Girre, L. (2001): Les Plantes et les Medicaments

Grigson, G. (1987): The Englishman's Flora,

Jones, H, (2000): Cydymaith Byd Amaeth,

Linnard W. (2002): Welsh Woods & Forests,

Mabey, R (1996): Flora Britannica

Vickery, R (1995): A Dictionary of Plant Lore

Prif awdur yr ysgrif oedd (y diweddar) Maldwyn Thomas fel cyfraniad i ragflaenydd Prosiect Llên Natur sef Llên y Llysiau. Ychwanegwyd sylwadau gan nifer o awduron eraill.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am blanhigyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato