Arfbais Syria
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Hebog Syriaidd (sef arwyddlyn y Quraish, llwyth y Proffwyd Muhammad) gyda tharian o'r faner genedlaethol yn ei ganol a sgrôl oddi tanodd sy'n dangos enw'r wladwriaeth (Gweriniaeth Arabaidd Syria) mewn Arabeg (الجمهورية العربية السورية) yw arfbais Syria. Yn ystod cyfnod y Weriniaeth Arabaidd Unedig defnyddiwyd eryr Saladin yn lle hebog y Quraish.
Mae'n debyg iawn i arfbais Libia.
Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)