Arfbais yr Aifft
Jump to navigation
Jump to search
Tarian o liwiau'r faner genedlaethol ar frest Eryr Saladin euraid yw arfbais yr Aifft. Dyluniad o stribedi coch, gwyn, a du fertigol sydd i'r darian, yn wahanol i'r faner sydd yn drilliw lorweddol. Dalia'r eryr yn ei grafangau sgrôl yn dwyn enw llawn y wladwriaeth. Ymddengys yr arfbais yng nghanol y faner genedlaethol, ond yn aur i gyd.