Arfbais Gini Gyhydeddol
Jump to navigation
Jump to search
Tarian arian ac arni goeden gapoc (Ceiba pentandra) yw arfbais Gini Gyhydeddol. Uwchben y darian mae chwe seren aur i gynrychioli Río Muni (tir y wlad ar gyfandir Affrica) a'r pump ynys Bioko, Annobón, Corisco, Elobey Grande, ac Elobey Chico. O dan y darian mae rhuban yn dwyn yr arwyddair cenedlaethol: Unidad, Paz, Justicia.[1]
Ymddangosir yr arfbais yng nghanol baner Gini Gyhydeddol.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Siobhán Ryan et al. Complete Flags of the World (Llundain: Dorling Kindersley, 2002), t. 92.