Arfbais Niger

Oddi ar Wicipedia
Arfbais Niger

Tarian sydd yn darlunio arfau milwrol, indrawn, yr haul, a phen byfflo Affricanaidd, a amgylchynir gan bedair baner genedlaethol yw arfbais Niger. O dan y darian mae sgrôl sydd yn dwyn enw llawn y wladwriaeth.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Siobhán Ryan et al. Complete Flags of the World (Llundain: Dorling Kindersley, 2002), t. 74.