Arfbais Coweit

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Arfbais Coweit

Hebog melyn gydag adenydd ar led sy'n cynnal cylch sy'n dangos coch dhow Arabaidd ar donnau gwyn a glas, gydag enw llawn y wladwriaeth (Gwladwriaeth Coweit) mewn Arabeg (دولة الكويت) ar frig y cylch yw arfbais Coweit. Gosodir y dhow yn erbyn cwmwl gwyn ac awyr las; mae'r faner genedlaethol yn cael ei chwifio o'r cwch. O dan y hebog mae tarian yn y lliwiau cenedlaethol (du, coch, gwyn, a gwyrdd) ar ffurf y faner genedlaethol.

Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)