Arfbais Singapôr
Gwedd
Tarian goch a gynhelir gan lew ar y chwith a theigr ar y dde yw arfbais Singapôr. Ar y darian mae pum seren wen a chilgant gwyn, yn debyg i'r faner genedlaethol. Saif y cynheiliaid ar faner gyda'r arwyddair cenedlaethol, Majulah Singapura, arni.