Ardal Lywodraethol Irbid

Oddi ar Wicipedia
Ardal Lywodraethol Irbid
MathArdaloedd Llywodraethol Gwlad Iorddonen Edit this on Wikidata
PrifddinasIrbid Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwlad Iorddonen Edit this on Wikidata
GwladBaner Gwlad Iorddonen Gwlad Iorddonen
Arwynebedd1,571.8 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaDaraa Governorate, Northern District Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau32.5456°N 35.8572°E Edit this on Wikidata
JO-IR Edit this on Wikidata
Map

Mae Irbid neu Irbed ( Arabeg: إربد‎ ) yn Ardal Lywodraethol yng Ngwlad Iorddonen, wedi'i leoli i'r gogledd o Amman, prifddinas y wlad. Prifddinas yr Ardal Lywodraethol yw dinas Irbid. Mae gan yr ardal lywodraethol y boblogaeth ail fwyaf yn yr Iorddonen ar ôl Ardal Lywodraethol Amman, a'r dwysedd poblogaeth uchaf yn y wlad.

Hanes[golygu | golygu cod]

Dinas Um Qais (Gadara)
Eglwys Fysantaidd yn Um Qais
Safle Bysantaidd yn Ar Ramtha

Mae Ibrid yn nodedig am ddylanwad gwareiddiadau Groegaidd, Rhufeinig ac Islamaidd sydd wedi  gadel safleoedd hanesyddol ac archeolegol ar eu hol. Mae'r ardal yn cynnwys dinasoedd Rhufeinig a Groeg megis Arabella (Irbid), Capitolias (Beit-Ras), Dion ( Al Hisn ) sy'n cynnwys bryn Rhufeinig artiffisial a llyn Rhufeinig bach (cronfa ddŵr). Sefydlwyd Gadara (Umm Qais), Pella (Tabeqt Fahel) a Abila (Qwailbeh) gan y Rhufeiniaid. Roeddent yn perthyn i'r Decapolis: cytundeb a oedd yn cynnwys y deg dinas Rufeinig yn yr ardal. Sefydlwyd Y Frenhiniaeth Ghassanid yng ngogledd yr Iorddonen yn cwmpasu gwastadeddau Irbid, Golan a Horan. Lledaenodd Cristnogaeth yno yn yr ail a'r 3g OC

Bu gwareiddiadau Edom ac Ammon yn Irbid. Adlewyrchwyd ei arwyddocâd yn y cyfnod Helenistaidd. Yng nghyfnod troi'r ardal i Islam, cafodd Sharhabeel Bin Hasnaa fuddugoliaeth Islamaidd yn y flwyddyn 13 AH (634 AD), trechodd Irbid, Beit-Ras a Umm Qais. Llwyddodd yr arweinydd Islamaidd Abu Obideh Amer Bin Al-Jarrah i oresgyn Pella. Yn 15 AH (636 AD) ac yn un o'r buddugoliaethau pwysicaf, llwyddodd Khalid Bin Al-Walid i wasgu'r fyddin Rufeinig ym Mrwydr hir Yarmouk. O ganlyniad, llwyddodd i roi terfyn ar bresenoldeb y Rhufeiniaid yn yr ardal. Yn 583 AH (1187 OC) aeth lluoedd Saladin ymlaen i Hittin lle digwyddodd y frwydr fwyaf ffyrnig yn hanes y Croesgadau, arweiniodd y frwydr hon at ailgipio Jerwsalem a'i dychwelyd yn ôl i awdurdod Islamaidd.

Yn ystod y cyfnod Mamluk, chwaraeodd Irbid rôl bwysig fel man aros i garafanau'r pererinion a oedd yn dod o Dwrci, i'r gogledd o Irac ac i'r de o Rwsia. Roedd yn ganolbwynt cyfathrebu pwysig ac yn borth i'r Aifft, arfordir Hijaz a Phalestina, yn enwedig yn ystod yr amser y cysylltwyd Irbid â Damascus. Cafodd hyn effaith gadarnhaol ar ddylanwad diwylliannol a gwyddonol Irbid. Yn ogystal â denu nifer o wyddonwyr ac ysgolheigion cyfraith Islamaidd i'r ardal, gadawodd yr ehangiad Islamaidd lawer o feddau cyfeillion y proffwyd Muhammad, llawer o fosgiau ac adeiladau Islamaidd fel Dar Assaraya (yr hen garchar) sydd wedi'i drosi'n amgueddfa, Mosg Hibras Mamluk, Mosg Mamluke Irbid a Mosg Saham Umayyed.

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod]

Mae Ardal Lywodraethol Irbid wedi ei leoli ar ochr gogledd-orllewinol yr Iorddonen ym Masn Afon Yarmouk a Chwm Iorddonen. Mae'r rhan fwyaf o'r ardal lywodraethol yn rhan o lwyfandir Hawran, sy'n cwmpasu gogledd Gwlad Iorddonen, a de-orllewin Syria'r. Mae Irbid wedi'i leoli tua 80 Km i ffwrdd o Amman y brifddinas. Mae'r ardal lywodraethol yn ffinio â Syria (Uchder y Golan) i'r gogledd, Afon Iorddonen i'r gorllewin, Ardal Lywodraethol Mafraq i'r dwyrain, ac Ardaloedd Llywodraethau Jerash, Ajloun a Balqa i'r de.

Plant yn Ardal Lywodraethol Irbid
Cromlech ym mhentref hynafol Johfiyeh

Adrannau gweinyddol[golygu | golygu cod]

Enwir Ardal Lywodraethol Irbid ar ôl ei brifddinas a'i ddinas fwyaf. Fe'i rhennir yn naw adran o'r enw alweya sef lluosog liwaa. Mae llawer o'r adrannau hyn o fewn cylch dylanwad (a rhanbarthau cyfansoddol) dinesig Ibrid

Adran Enw Arabeg Poblogaeth (2004) Canolfan weinyddol
1 Adran y Brifddinas
(Al-Qasabeh)
القصبة 375,594 Dinas Irbid
2 Adran Bani Obaid لواء بني عبيد 93,561 Al Hisn
3 Adran Al-Mazar Al-Shamali لواء المزار الشمالي 44,166 Al Mazar al Shamali
4 Adran Ar Ramtha لواء الرمثا 109,142 Ar Ramtha
5 Adran Bani Kinanah لواء بني كنانة 76,398 Sama al-Rousan
6 Adran Koura لواء الكورة 91,050 Der Abi Saeed
7 Al-Aghwar Al Shamaliyyeh لواء الأغوار الشمالية 85,203 Gogledd Shuna (الشونة الشمالية)
8 Adran Taybeh لواء الطيبة 29,318 Taybeh
9 Adran Wasatieh لواء الوسطية 24,046 Kufr Asad

Dinasoedd, trefi a phentrefi[golygu | golygu cod]

Golygfa o ogledd Irbid dros Fôr Galilea

Ystyrir Irbid, yn un o ddinasoedd harddaf yr Iorddonen. Mae ei phoblogaeth yn cyrraedd tua 650,000 (2008) ac mae wedi'i lleoli ar wastadedd, 65 km i'r gogledd o'r brifddinas, Amman. Mae wedi'i leoli yng ngogledd-orllewin Teyrnas yr Iorddonen, wedi'i hamgylchynu gan diroedd amaethyddol ffrwythlon o ogledd, dwyrain, gorllewin a de. Ystyr Ibrid yw Llygad y Dydd ôl y blodau asteraceae, sy'n tyfu yn ei wastadeddau. Mae Ibrid wedi bod yn annedd i bobl ers 5000 CC, ac wedi bod yn gartref i'r Edomiaid, y Ghassaniaid a gwareiddiadau Arabaidd Deheuol.

  • Ar Ramtha Yr ail ddinas fwyaf yn yr ardal lywodraethol.
  • Um Qais neu (Gadara) fel y'i gelwid yn ystod y cyfnod Bysantaidd yw'r gyrchfan ymwelwyr fwyaf poblogaidd rhanbarth.
  • Mae llawer o drefi a phentrefi yn amgylchynu dinas Irbid gan gynnwys:

Hartha (حرثا), Ham قرية هام Kufr-Soum (كفرسوم), Al-Rafeed (الرفيد), Hibras (حبراص), Yubla (يبلا), Al-Taybeh (الطيبة), Habaka (حبكا), Kufr-Rahta (كفررحتا), Al-Mazar Al-Shamali (المزار الشمالي), Bushra or Bishra (بشرى), Hareema (حريما), Kufrasad, Kufraan (كفرعان), Jumha, Kufryuba, Zahar, Qum, Sammou', Izmal, Kufrelma, Soum (سوم), Saydoor, Samma, Marou مرو, Ibser Abu Ali, Assarieh, Aidoon, Al Hisn, Balila, Kitim, Beit Ras, Dowgarah, En-Nu`aymeh, Houfa Al-Westiyyah, Qumaim, Huwwarah, Imrawah, Ramtha, Sal, Samad, Shajara, Turrah, Hatim, Melka, Foauta, Zoubia, Rehaba, Kharja, Dair Yousef, Kufor Kefia, Summer, E'nbeh, Dair Esse'neh (دير السعنة), Mandah, Zabda, yn ogystal â Malka (ملكا). mae yna lawer o drefi a phentrefi eraill yn yr ardalmegis Der Abi Saeed, Kufr 'Awan, a Kufr Rakeb.

Economi[golygu | golygu cod]

Mae yna dair Ardal Ddiwydiannol Gymwysedig Yn Ardal Lywodraethol Ibrid: Dinas Ddiwydiannol Y Tywysog Hasan, Cyber City, a Dinas Croesi Afon Iorddonen. Cyrhaeddodd gwerth allforion net Dinas Ddiwydiannol Tywysog Hasan US $ 274 miliwn yn 2001 gan elwa o'i statws fel Parth Diwydiannol Cymwysedig. Roedd lleiniau, cemegau ac offer electroneg ym mhlith ei brif allforion. [1] Mae Irbid ar frig rhanbarthau amaethyddol Gwlad Iorddonen yn enwedig wrth gynhyrchu sitrws, olewydd, gwenith a mêl gwenyn.

Addysg[golygu | golygu cod]

Mae gan Ardal Lywodraethol Irbid nifer o brifysgolion yn ogystal ag un o golegau hynaf Gwlad Iorddonen, Coleg Hawara.

  • Prifysgol Yarmouk
  • Prifysgol Gwyddoniaeth a Thechnoleg Iorddonen
  • Prifysgol Genedlaethol Ibrid
  • Prifysgol Jadra

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Diwydiant yn Irbid (mewn Arabeg)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-13. Cyrchwyd 2019-04-12.