Morgan Owen (bardd a llenor): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
|||
Llinell 14: | Llinell 14: | ||
== Dramâu == |
== Dramâu == |
||
Daeth yn ail agos yng nghystadleuaeth [[Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd]] yn 2018. Cyhoeddwyd detholiad o'r ddrama honno, 'Y Gweundir', fel atodiad i rifyn Haf 2018 o gylchgrawn ''Y Stamp''. |
Daeth yn ail agos yng nghystadleuaeth [[Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd]] yn 2018. Cyhoeddwyd detholiad o'r ddrama honno, 'Y Gweundir', fel atodiad i rifyn Haf 2018 o gylchgrawn ''Y Stamp''. |
||
⚫ | |||
⚫ | |||
⚫ | |||
⚫ | |||
* ''Bedwen ar y lloer'' (cyfrol o gerddi) - [[Cyhoeddiadau'r Stamp]] - Hydref 2019 |
* ''Bedwen ar y lloer'' (cyfrol o gerddi) - [[Cyhoeddiadau'r Stamp]] - Hydref 2019 |
||
⚫ | |||
⚫ | |||
==Cyfeiriadau== |
==Cyfeiriadau== |
Fersiwn yn ôl 19:52, 9 Hydref 2019
Bardd a llenor Cymreig sy'n hanu o Ferthyr Tudful yw Morgan Owen (ganed 13 Ionawr 1994).
Graddiodd gyda BA Cymraeg o Brifysgol Caerdydd yn 2016,[1] ac MA Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd yn 2017, hefyd o Brifysgol Caerdydd, gan ymchwilio i ofodoldeb cerddi Dafydd ap Gwilym mewn perthynas â locus y goedwig.[2]
Barddoniaeth
Mae'n rhan o brosiect 'Awduron wrth eu Gwaith' Gŵyl y Gelli.[3] Fis Hydref 2018, ef oedd un o bedwar bardd a gymerodd ran yn Her 100 Cerdd Llenyddiaeth Cymru,[4], ynghyd ag Osian Owen, Caryl Bryn, a Manon Awst; a'r un flwyddyn, ef oedd bardd preswyl Arddangosfa Bensaernïaeth Y Lle Celf yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018. Mae wedi cyhoeddi gwaith yn O'r Pedwar Gwynt,[5], Barddas, ac Y Stamp, ymysg llefydd eraill. Enillodd Dlws Coffa D Gwyn Evans yn 2017 a 2018,[6] sef tlws a roddir gan y Gymdeithas Gerdd Dafod am y gerdd orau mewn cystadleuaeth i feirdd dan 25 oed. Ym mis Ebrill 2018, dyfarnwyd iddo Ysgoloriaeth Gerallt gan Y Gymdeithas Gerdd Dafod i fynychu cwrs cynganeddu dwys yn y Tŷ Newydd; ac yn ddiweddarach yn y flwyddyn, fe’i comisiynwyd gan y Y Senedd i gyfansoddi cerddi yn ymateb i nodweddion pensaernïol yr adeilad. Fe'i penodwyd yn Fardd y Mis BBC Radio Cymru ar gyfer mis Ionawr 2019.[7]
Lansiwyd ei gasgliad cyntaf o gerddi, pamffled dan y teitl moroedd/dŵr, yng Ngŵyl Arall, Caernarfon, fis Gorffennaf 2019. Cerddi am foroedd a dyfrffyrdd yw cynnwys y pamffled; ceir yn y casgliad fyfyrio ynghylch y ffin anelwig rhwng afonydd a'r môr, a'r modd y gall aberoedd fod yn gyfrwng i brofiadau dyn. Cyhoeddwyd y pamffled gan Gyhoeddiadau'r Stamp, ac mae'n cynnwys delweddau gan yr artist Timna Cox mewn ymateb i rai o'r cerddi.[8]
Ym mis Awst, 2019, cyhoeddwyd taw ef oedd ennillydd Her Gyfieithu Cyfnewidfa Lên Cymru/PEN Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Conwy 2019.[9] Ym mis Medi 2019, enillodd gadair Eisteddfod Cwmystwyth, gyda cherdd yn y wers rydd ar y testun 'Bro'.
Rhyddiaith
Mae'n ysgrifwr toreithiog, ac wedi cyhoeddi nifer o ysgrifau ac adolygiadau mewn cyhoeddiadau megis O'r Pedwar Gwynt ac Y Stamp.
Dramâu
Daeth yn ail agos yng nghystadleuaeth Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd yn 2018. Cyhoeddwyd detholiad o'r ddrama honno, 'Y Gweundir', fel atodiad i rifyn Haf 2018 o gylchgrawn Y Stamp.
Cyhoeddiadau
- Bedwen ar y lloer (cyfrol o gerddi) - Cyhoeddiadau'r Stamp - Hydref 2019
- moroedd/dŵr (pamffled o gerddi) - Cyhoeddiadau'r Stamp - Gorffennaf 2019
- Y Gweundir (detholiad o ddrama) - atodiad i gylchgrawn Y Stamp, Haf 2018
Cyfeiriadau
- ↑ https://www.cardiff.ac.uk/cy/news/view/387391-celebrating-on-graduation-day
- ↑ discover.library.wales; adalwyd 28 Ionawr 2019.
- ↑ https://www.hayfestival.com/writers-at-work/
- ↑ https://www.literaturewales.org/our-projects/her-100-cerdd/
- ↑ https://pedwargwynt.cymru/safle/tag/Morgan+Owen
- ↑ https://www.barddas.cymru/bardd/morgan-owen/
- ↑ https://www.bbc.co.uk/programmes/p06x0jww
- ↑ "Cerdd a chyhoeddiad: moroedd/dŵr - Morgan Owen". Cylchgrawn y Stamp. Cyrchwyd 2019-07-15.
- ↑ "Her Gyfieithu 2019: Cyhoeddi'r Enillydd – Wales PEN Cymru". Cyrchwyd 2019-08-09.