Cyfnewidfa Lên Cymru
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad ![]() |
Pencadlys | Aberystwyth ![]() |
Gwefan | https://waleslitexchange.org/ ![]() |
Asiantaeth sy'n cysylltu awduron, cyfieithwyr a chyhoeddwyr yng Nghymru a thramor yw Cyfnewidfa Lên Cymru (Saesneg: Wales Literature Exchange). Fe'i sefydlwyd ym 1998 fel Llenyddiaeth Cymru Dramor (Welsh Literature Abroad). Mae'n gwerthu hawliau cyfieithu, yn gweinyddu grantiau cyfieithu ar gyfer cyhoeddwyr, yn weithdy sy'n tynnu ynghyd awduron a chyfieithwyr, yn llyfrgell o gyfieithiadau, ac yn guradur digwyddiadau llenyddol rhyngwladol. Mae'r Gyfnewidfa nawr o dan adain Sefydliad Mercator ac wedi ei lleoli yn Aberystwyth.