O'r Pedwar Gwynt (cylchgrawn)

Oddi ar Wicipedia
O'r Pedwar Gwynt

Cylchgrawn llenyddol Cymraeg yw O'r Pedwar Gwynt. Mae'n cynnwys gwaith beirniadol a chreadigol, erthyglau, adolygiadau, cyfweliadau, straeon a cherddi, a chroesair. Cyhoeddir tri rhifyn print y flwyddyn adegau'r Eisteddfod Genedlaethol, y Nadolig a'r Pasg, a chyhoeddir testun y rheiny a deunydd atodol yn ddigidol.

Ym mis Tachwedd 2015, penderfynodd Cyngor Llyfrau Cymru i roi grant o £20,000 y flwyddyn i O'r Pedwar Gwynt Cyf. i gyhoeddi cylchgrawn llenyddol tan y flwyddyn 2019. Ei fwriad yw cymryd lle'r cylchgrawn Taliesin, a ddaeth i ben yn y gwanwyn 2016. Sefydlwyd y fenter mewn partneriaeth ag Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor, a'r Athro Angharad Price yn gadeirydd.[1] Cyhoeddwyd y rhifyn print cyntaf ym mis Gorffennaf 2016, a lansiwyd y cylchgrawn yn swyddogol yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Fynwy a'r Cyffiniau 2016.

Yn ystod cyfnod cynnar y cylchgrawn y ddau olygydd oedd Sioned Puw Rowlands ac Owen Martell, a Mari Siôn oedd y rheolwr golygyddol a chynhyrchydd. Nhw oedd sylfaenwyr y cylchgrawn.

Golygydd Gyfarwyddwr presennol y cylchgrawn yw Sioned Puw Rowlands, ac Angharad Penrhyn Jones yw'r Golygydd Cysylltiol a Chyfathrebu.[2]

Daw enw'r cylchgrawn o gyfrol o ysgrifau gan T. H. Parry-Williams, ac ymddengys cwpled ganddo o'i gerdd "Gwynt y Dwyrain" yn rhyw arwyddair i'r cylchgrawn: "Mae’n rhaid cael gwynt. Nid yw amser yn bod / Pan na bo gwyntoedd o rywle’n dod."[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cylchgrawn llenyddol newydd ar ei ffordd, Golwg360 (19 Tachwedd 2015). Adalwyd ar 27 Mai 2017.
  2. https://pedwargwynt.cymru/safle/amdanom-ni
  3. THP-W allan heb ei het: ‘O’r Pedwar Gwynt’, gwallter, blog Andrew Green (7 Awst 2016). Adalwyd ar 27 Mai 2017.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]