Owen Martell
Gwedd
| Owen Martell | |
|---|---|
| Ganwyd | Tachwedd 1976 Caerwysg |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | nofelydd |
Awdur yn y Gymraeg yw Owen Martell (ganwyd 1976). Cafodd ei eni yng Nghaerwysg, Dyfnaint, De-orllewin Lloegr, a'i fagu ym Mhontneddfechan, Powys. Ar ôl astudio ym mhrifysgolion Aberystwyth a Rhydychen, gweithiodd fel gohebydd i'r BBC.[1]
Ysgrifenodd ei nofel Gymraeg gyntaf Cadw dy ffydd, brawd (Gwasg Gomer, 2000) tra'n fyfyriwr yn Aberystwyth ac fe enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn 2001. Cyhoeddodd ei ail nofel, Dyn yr Eiliad, yn 2003 (Gwasg Gomer). Mae ei lyfr Dolenni Hud (Gwasg Gomer, 2008) yn gasgliad o straeon byrion ac yn gydgynhyrchiad gyda'r ffotograffydd Simon Proffitt.
Cyhoeddwyd ei nofel Saesneg gyntaf, Intermission, yn 2013. Mae bellach wedi ei chyfieithu i'r Almaeneg a'r Ffrangeg.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Owen Martell", Cydnewidfa Lên Cymru; adalwyd 17 Rhagfyr 2025