Corsygedol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
RHaworth (sgwrs | cyfraniadau) use Commons image |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[ |
[[http://commons.wikimedia.org/wiki/File:Cors-y-Gedol_Gatehouse_-_geograph.org.uk_-_220369.jpg|bawd|Corsygedol heddiw: y porthdy gyda'r plasdy yn y cefndir]] |
||
Plasdy hynafol sy'n ffermdy heddiw, ym mhlwyf [[Llanddwywe]] (Llanddwywe-is-y-graig), ger [[Dyffryn Ardudwy]], [[Meirionnydd]], yw '''Corsygedol'''. Mae ganddo le pwysig yn hanes [[llenyddiaeth Gymraeg]] fel aelwyd i deulu o noddwyr [[Beirdd yr Uchelwyr|beirdd]] a chartref i gasgliad o [[llawysgrifau Cymreig|lawysgrifau Cymraeg]], yn cynnwys ''[[Llyfr Gwyn Corsygedol]]''. |
Plasdy hynafol sy'n ffermdy heddiw, ym mhlwyf [[Llanddwywe]] (Llanddwywe-is-y-graig), ger [[Dyffryn Ardudwy]], [[Meirionnydd]], yw '''Corsygedol''' ({{gbmapping|SH600231}}). Mae ganddo le pwysig yn hanes [[llenyddiaeth Gymraeg]] fel aelwyd i deulu o noddwyr [[Beirdd yr Uchelwyr|beirdd]] a chartref i gasgliad o [[llawysgrifau Cymreig|lawysgrifau Cymraeg]], yn cynnwys ''[[Llyfr Gwyn Corsygedol]]''. |
||
Gorwedd y plasdy, sy'n fferm y dyddiau hyn, tuag un milltir i'r dwyrain o bentref Dyffryn Ardudwy, ger lan [[afon Ysgethin]], ar esgair sy'n codi i fryniau'r [[Rhinogydd]], yn [[Ardudwy]]. |
Gorwedd y plasdy, sy'n fferm y dyddiau hyn, tuag un milltir i'r dwyrain o bentref Dyffryn Ardudwy, ger lan [[afon Ysgethin]], ar esgair sy'n codi i fryniau'r [[Rhinogydd]], yn [[Ardudwy]]. |
Fersiwn yn ôl 17:57, 24 Medi 2010
[heddiw: y porthdy gyda'r plasdy yn y cefndir] Plasdy hynafol sy'n ffermdy heddiw, ym mhlwyf Llanddwywe (Llanddwywe-is-y-graig), ger Dyffryn Ardudwy, Meirionnydd, yw Corsygedol (cyfeiriad grid SH600231). Mae ganddo le pwysig yn hanes llenyddiaeth Gymraeg fel aelwyd i deulu o noddwyr beirdd a chartref i gasgliad o lawysgrifau Cymraeg, yn cynnwys Llyfr Gwyn Corsygedol.
Gorwedd y plasdy, sy'n fferm y dyddiau hyn, tuag un milltir i'r dwyrain o bentref Dyffryn Ardudwy, ger lan afon Ysgethin, ar esgair sy'n codi i fryniau'r Rhinogydd, yn Ardudwy.
Cyrchai beirdd Gwynedd y plasdy i fwynhau nawdd Fychaniaid Corsygedol am yn agos i dair canrif a hanner. Mae'r cerddi cynharaf yn dyddio i ddiwedd y 15fed ganrif, ond credir y bu'n blasdy pwysig ymhell cyn hynny hefyd. Dechreuwyd adeiladu'r plasdy presennol gan Rhisiart Fychan yn 1576, ac ychwanegwyd iddo gan ei fab Gruffudd Fychan. Yn 1630 ychwanegwyd y porth mawr gan William Fychan, mab Gruffudd.
Canodd y bardd Gruffudd Philip i Gorsygedol ddechrau'r 17eg ganrif:
- Gwal y gaer yn glaer deg lân,
- Gwydr troeog ydyw'r traean.[1]
Edmyga'r bardd y ffenestri gwydr ardderchog, un o newyddbethau'r oes. Cerrig lleol a ddefnyddwyd i godi'r plasdy, sy'n nodweddiadol hefyd am ei simneiau mawr yn arddull lleol y rhan honno o Sir Feirionnydd.
Trwy gydbriodas, unwyd aelwyd Corsygedol a theulu Nannau, ger Dolgellau. Yr aelod mwyaf adnabyddus o'r teulu yn y cynfod hwnnw yw William Vaughan (AS) (1707-75), Arglwydd Is-gapten Sir Feirionnydd ac un o gyfellion pennaf y Morysiaid, yn enwedig Lewis Morris.
Cyfeiriadau
- ↑ dyfynnir gan Enid Roberts, Tai Uchelwyr y Beirdd 1350-1650 (Cyhoeddiadau Barddas, 1986).