Amwythig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B wedi symud Yr Amwythig i Amwythig: gw. Sgwrs
Eisingrug (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Shrewsbury - Shropshire dot.png|bawd|200px|Lleoliad Amwythig]]
[[Delwedd:Shrewsbury - Shropshire dot.png|bawd|200px|Lleoliad Amwythig]]
[[Delwedd:Old_Market_Hall.jpg|200px|bawd|Hen Neuadd y Dref yn Amwythig]]
[[Delwedd:Old_Market_Hall.jpg|200px|bawd|Hen Neuadd y Dref yn Amwythig]]
Tref yng ngorllewin canolbarth [[Lloegr]] yw '''Amwythig''' (hefyd '''Yr Amwythig''' ar lafar)<ref>David A. Thorne, ''Gramadeg Cymraeg'', [[Gwasg Gomer]], 1996, tud. 112</ref> (Saesneg ''Shrewsbury''). Amwythig yw canolfan weinyddol [[Swydd Amwythig]] lle ceir swyddfeydd y cyngor sir. Mae [[Afon Hafren]] yn llifo trwy'r dref.
Tref yng ngorllewin canolbarth [[Lloegr]] yw '''Amwythig''' (hen ffurf: ''Mwythig'') (Saesneg ''Shrewsbury''). Amwythig yw canolfan weinyddol [[Swydd Amwythig]] lle ceir swyddfeydd y cyngor sir. Mae [[Afon Hafren]] yn llifo trwy'r dref.


==Hanes==
==Hanes==

Fersiwn yn ôl 22:30, 21 Medi 2010

Lleoliad Amwythig
Hen Neuadd y Dref yn Amwythig

Tref yng ngorllewin canolbarth Lloegr yw Amwythig (hen ffurf: Mwythig) (Saesneg Shrewsbury). Amwythig yw canolfan weinyddol Swydd Amwythig lle ceir swyddfeydd y cyngor sir. Mae Afon Hafren yn llifo trwy'r dref.

Hanes

Awgrymir Amwythig fel safle Pengwern, llys brenhinoedd teyrnas Powys cyn i'r deyrnas honno golli ei thir yn y dwyrain i Mercia, ond does dim sicrwydd am hynny.

Codwyd castell ar y safle gan y Normaniaid yn 1070.

Ymwelodd Gerallt Gymro ag Amwythig yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188.

Cipiwyd Amwythig gan Llywelyn Fawr yn 1215, ac eto yn 1234.

Ar 28 Mehefin 1283 galwodd Edward I o Loegr ei senedd i gyfarfod yn Amwythig i farnu Dafydd ap Gruffudd, Tywysog Cymru a brawd Llywelyn Ein Llyw Olaf. Ar 30 Medi dedfrydwyd Dafydd i farwolaeth am deyrnfradwriaeth. Cafodd ei ddienyddio yn Amwythig ar 3 Hydref trwy ei grogi, ei ddiberfeddu a'i chwarteru.

Mae'r dref yn enwog am ei ysgol ramadeg i fechgyn a agorodd yn 1552; mae'r gwyddonydd Charles Darwin a'r bardd Syr Philip Sydney yn gyn-ddisgyblion.

Cysylltiadau Cymreig

Y wasg Gymraeg yn Amwythig

Symudodd Thomas Jones yr almanaciwr ei wasg o Lundain i Amwythig yn 1695 i gyhoeddi llyfrau Cymraeg. Am tua ddeng mlynedd a thrigain ar ôl hynny Amwythig oedd canolfan y fasnach lyfrau Cymraeg (dim tan 1718 y cafwyd y wasg drwyddedig gyntaf yng Nghymru).

Ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif roedd gan Stafford Prys wasg yn y dref. Ei gyhoeddiad mwyaf uchelgeisiol efallai oedd y flodeugerdd Gymraeg Gorchestion Beirdd Cymru (1773).

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Amwythig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato